5 o ferched ifanc yn “ysbrydoli” yn Gambia

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae pump o ferched ifanc o Wrecsam wedi llwyddo i ennill gwobr genedlaethol yn y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid eleni am hyrwyddo Iechyd a Lles.

Aeth Lauren Lewis, 17, Jade Griffiths, 17, Chloe Roberts, 17, Emma Baker, 16, a Katelyn Owen Jones, 14, ati i gefnogi ac ysbrydoli eraill i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy’n byw mewn gwledydd trydydd byd fel Gambia.

Buont yn gweithio gyda’n Tîm Gwaith Ieuenctid mewn Addysg gan ddatblygu’r prosiect Creu Newid a arweiniodd yn y pen draw at godi dros £12,500 drwy sioeau ffasiwn, bingo, ffeiriau Nadolig, rasys hwyaid, her y 3 chopa, canŵio noddedig a llawer llawer mwy!


Yna teithiodd y pump ohonynt i Gambia i gymryd rhan ym Mhrosiect Gunjur sy’n canolbwyntio ar sicrhau fod pawb sy’n ymweld â Gambia yn cael effaith bositif ar y gymuned leol a Gambia gyfan cyn iddynt ymadael. Ar ôl cyrraedd defnyddiwyd yr arian a gasglwyd mor ddiwyd ganddynt i gefnogi tri o blant i astudio a mynd i’r ysgol am dair blynedd, ariannu un ferch ifanc i astudio bydwreigiaeth er mwyn helpu ei theulu a’i ffrindiau ac ariannu un dyn i weithio yn y lloches adar leol a fyddai’n ei helpu i gefnogi ei deulu o ddeg am flwyddyn.

Fe wnaethant lwyddo hefyd i ddarparu rhwydi mosgitos, nwyddau cymorth cyntaf, nwyddau glanweithiol ac offer papur a phaent i ysgol gynradd leol. Yn ychwanegol at hyn cafodd tu allan i waliau’r ysgol eu paentio yn wyngalchog a’u haddurno gyda dyluniadau lliwgar plant.

Mae Prosiect Gunjur yn canolbwyntio ar sicrhau fod pawb sy’n ymweld â Gambia, boed hynny ar eu gwyliau neu wrth wirfoddoli, yn cael effaith bositif ar y gymuned leol a Gambia gyfan cyn iddynt ymadael.

Mae eu gwaith bellach wedi’i gydnabod gan y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid am hyrwyddo Iechyd a Lles mewn digwyddiad diweddar ym mhrifddinas Caerdydd. Cawsant hefyd Wobr Mileniwm Byd-eang 50 awr a oedd yn cydnabod eu cyfraniad at wirfoddoli dramor ar yr un noson.

“ysbrydoliaeth”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi:
“Mae’r 5 merch ifanc yn ysbrydoliaeth i bawb a ddarllenodd eu stori. Mae eu trugaredd a’u dyngarwch yn amlwg ac rwy’n eu llongyfarch am eu gwobrau haeddiannol iawn.”


Cyflwynwyd y Wobr gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.

Dywedodd Caroline Bennett a Tina Edwards, Gweithwyr Ieuenctid, ar ran y grŵp cyfan:

“Hoffem ddiolch yn fawr i bawb a gymerodd ran yn y prosiect gan na fyddai wedi bod mor llwyddiannus heb gefnogaeth cynifer o bobl ac ni fyddai’r bobl ifanc wedi cael profiad mor anhygoel.”

Yn derbyn eu gwobr yng Nghaerdydd, o’r chwith i’r dde, Sally Holland, Caroline Bennett, Tina Edwards, Lauren Lewis, Jade Griffith, Chloe Roberts a Katelyn Owen Jones.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham