ADTRAC – Addysg Hyfforddiant Cyflogaeth

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

ADTRAC

Mae’r prosiect hwn yn amlygu effaith gadarnhaol prosiect Dwyrain ADTRAC ar bobl ifanc yr Wrecsam a Sir y Fflint.

ADTRAC

Bydd ADTRAC yn dy helpu I gael gwaith, addysg neu hyfforddiant.  Caiff y gwasanaeth yma ei gynnig ledled Gogledd Cymru gan dimau lleol a fydd yn llunio rhaglen bwrpasol I dy gefnogi ac I ennyn dy ddiddordeb.

Rydyn ni’n cynnig

  • Cefnogaeth lawn un-I-un.
  • Cynlluniau gweithredu personol I ti eu dilyn.
  • Help I fagu hyder ac I oresgyn pethau sy’n dy rwystro rhag symud ymlaen.
  • Help ym maes lles, yn cynnwys cyfle I fantaisio ar ddarpariaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr I rai sydd ag anghenion iwechyd meddwl ysgafn/cymedrol.
  • Cyfle I gael hyfforddiant a fydd yn fodd I ti gyrraedd dy nod.
  • Cefnogaeth a fydd yn dy baratoi I weithio ac yn cynnwys amryw o gyfleoedd I gyrraedd dy nod.

Bydd y timau’n dy helpu I ddod I ddeall pethau’n well ac yn dy roi ar ben y ffordd yr wyt am ei chymryd, er mwyn I ti allu magu hyder yn dy allu a dy sgiliau.

Gallwn dy helpu os wyt ti;

  • Rhwng 16 a 24 oed, ddim yn derbyn addysg na -waith.
  • Yn byw yng Ngogledd Cymru (ond ddim mewn ardal Cymunedau’n Gyntef).
  • Yn wynebu problemau sy’n dy rwystro rhag mynd ymlaen I gael addysg, swydd new hyfforddiant.

Cysylltwch

(01978) 295515

adtrac@wrecsam.gov.uk

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham