Awgrymiadau Gwych am Noson Allan Arbennig yn Wrecsam dros y Nadolig yma

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

 

Os ydych yn mentro allan i Wrecsam dros gyfnod yr ŵyl, rydym eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn cael noson gofiadwy – a hynny am y rhesymau cywir. Cymerwch olwg ar ein hawgrymiadau gwych all eich helpu i sicrhau fod eich noson allan yn un diogel a dymunol.

 

Awgrym 1: Peidiwch â llwytho’ch hun ag alcohol yn y tŷ

Gall ymddangos yn syniad gwych i gael ambell ddiod adref cyn eich noson allan. Mae’n bosib eich bod yn meddwl y gallai hyn arbed arian i chi a sicrhau eich bod yn ymlacio fwy, ond gall yfed gormod adref cyn noson allan dorri eich noson yn fyr yn y pen draw. Mae pobl sy’n yfed adref cyn mynd allan yn tueddu i golli cyfrif ar faint y maent wedi ei yfed, ac yn y pen draw yn meddwi mwy nac yr oeddent wedi ei fwriadu. Gall hyn yn aml eich gwneud yn fwy tebygol o:

  • Ddioddef salwch oherwydd goryfed alcohol, gan gynnwys chwydu – sy’n gallu bod yn ddiweddglo annymunol i’ch noson;
  • Fod yn rhan o sgarmes;
  • Gael eich anafu trwy ddisgyn;
  • Fod yn fwy agored i niwed.

 

Awgrym 2: Gwyliwch allan am yr arwyddion Braf Bob Nos (ychwanegu delwedd)

Pan fyddwch yn cerdded i fewn i safle drwyddedig ac yn gweld yr arwydd hwn, mae’n golygu y gallwch ymlacio – rydych newydd gamu i mewn i leoliad sydd wedi’i achredu gan Braf Bob Nos (BBN) Wrecsam. Mae pob lleoliad BBN wedi rhoi eu safleoedd ar brawf er mwyn profi pa mor ymrwymedig ydynt i’ch cadw chi yn fwy diogel ar eich noson allan.

 

Awgrym 3: Bwytewch cyn yfed

Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta cyn i chi fynd allan. Mae bwyd yn amsugno alcohol, gan ei arafu cyn iddo fynd i lif y gwaed. Bydd yn darparu mwy o egni ac yn lleihau’r effeithiau drannoeth.

 

Awgrym 4: Nid ras yw hyn – yfwch ar eich cyflymder eich hun

Mae’n cymryd hyd at awr i’ch corff brosesu pob uned o alcohol. Cymerwch hoe rhwng diodydd, felly. Boed denau, byr, gwryw, benyw …. mae pawb yn dygymod ag alcohol yn wahanol, felly pam ymdrechu i ddal i fyny â’ch ffrindiau? Arbedwch eich wyneb (a’ch arian) trwy gadw at rowndiau llai gydag ychydig o ffrindiau, neu ceisiwch eu hosgoi yn gyfan gwbl. Mae gwrthod diod yn peri llai o embaras o lawer na thaflu un i fyny.

 

O orffen eich diod yn rhy gyflym, byddwch yn teimlo dan bwysau i archebu un arall. Yn lle hyn, gwnewch i’ch diod (a’ch noson) barhau am yn hirach. Sgwrsiwch, sipiwch, bwytewch fyrbryd, sicrhewch eich bod yn cael awyr iach, a sgwrsiwch fwy.

 

Awgrym 5: Gwyliwch allan am eich ffrindiau

Os am noson allan wych, byddwch am i’ch ffrindiau fod ar eu gorau hefyd. Gallai nôl byrbrydau a jwg o ddŵr ar gyfer y bwrdd cyfan felly fod yn dda i bawb. Gwyliwch allan am eich gilydd rhag ofn fod rhywun yn dechrau mynd dros ben llestri. Os ydynt, ewch i nôl rhywfaint o ddŵr neu ddiod ysgafn o’r bar, gan eu hannog i arafu eu hyfed. Ni fyddwch eisiau gorfod eu gosod mewn tacsi, glanhau chŵyd oddi ar eu hesgidiau na methu allan ar y noson trwy orfod mynd â nhw adref.

Awgrym 6: Aros gyda’ch gilydd

Sicrhewch eich bod yn ymadael â’r dafarn neu’r clwb mewn parau neu fel grŵp. Os oes rhywun wedi diflannu peidiwch a chymryd eu bod yn iawn – gwnewch yn siŵr o hynny. Peidiwch â gadael neb ar ôl. Nid merched yn unig sydd angen gwylio allan am hyn – gall dynion ar eu pennau eu hunain fynd i drafferth hefyd. Cadwch ffrind â chi, felly, a cheisiwch beidio a threulio gormod o amser yn loetran ar ddiwedd y noson.

Awgrym 7: Mae cymorth wrth law os oes arnoch ei angen

Os ydych yn teimlo ychydig yn rhy feddw, gwyliwch allan am Fugeiliaid Stryd Wrecsam sydd yn cynnig cefnogaeth tosturiol yng nghanol y dref ac a all eich helpu. Maent yn gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu ac fe allant roi dŵr a chymorth ymarferol i chi os arnoch ei angen.

Gallwch hefyd ymweld â’r Ganolfan Lesiant yn Hafod y Wern, Rhodfa San Silyn, Wrecsam. Mae’r ganolfan wedi ei hariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r Bwrdd Iechyd. Caiff ei staffio gan bersonél y Groes Goch Brydeinig ac mae’n cynnig cymorth meddygol, lle i adfer, a gofal os ydych wedi cael gormod i’w yfed, wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon, neu’n teimlo yn agored i niwed.

 

Awgrym 8: Troi am adref – peint arall … o ddŵr

Os ydych yn stopio yfed alcohol cyn diwedd y noson ac yn yfed rhywfaint o ddŵr, gall eich corff gael y blaen trwy gychwyn adfer ei hun, sydd yn golygu y byddwch yn cyrraedd adref yn ddiogel ac â siawns well o ddelio â’r hangofyr drannoeth. Yfwch wydraid o ddŵr pan fyddwch yn cyrraedd adref er mwyn ceisio ail hydradu – byddwch yn diolch am hyn yn y bore. Mae’n bosib y bydd arnoch hefyd eisiau ystyried rhoi ychydig ddyddiau heb yfed i’ch corff er mwyn iddo adfer wedi sesiwn yfed drom.

 

Awgrym 9: Cynlluniwch eich taith adref – a yw eich tacsi yn dacsi go iawn?

“Hoffech chi dacsi?” Wel, mae hynny’n dibynnu ar y tacsi – ydi o’n un go iawn?  Mae gyrwyr tacsi didrwydded yn ddynion (fel arfer) sydd yn mynd allan yn hwyr y nos ac yn chwilio am bobl sydd wedi cael gormod i’w yfed er mwyn eu gyrru adref. Am nad ydynt wedi eu rheoleiddio, nid oes unrhyw ffordd i chi wybod a yw’r gyrrwr neu’r cerbyd yn ddiogel. Waeth pa mor hwyr yw hi, does dim rheswm dros fynd am dacsi amheus.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw rhifau neu apiau ar gyfer cwmnïau tacsis lleol ar eich ffôn neu ofynnwch i aelod o staff yn y lleoliad – dylent fod â rhai. Sicrhewch eich bod yn gwirio fod unrhyw dacsi y byddwch yn mynd iddo wedi ei drwyddedu yn gywir. Dylai pob cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacni yn Wrecsam fod yn arddangos platiau trwydded gwyn a phiws y tu allan i’r cerbydau.

Bydd gan gerbydau hurio preifat arwyddion melyn yn y ffenestri cefn hefyd.

Dylai fod gan yr holl yrwyr fathodyn ID yn dangos eu henw, llun ohonynt, rhif trwydded a’r dyddiad y mae’r drwydded yn dod i ben arno. Os na allwch weld y bathodyn, gofynnwch i’w weld cyn i chi fynd i unman.

Os oes yn rhaid i chi aros am amser hir am dacsi, arhoswch yn rhywle diogel sydd wedi ei oleuo’n dda nes i’r tacsi ymddangos – gyda ffrind, yn ddelfrydol.

 

 

Rhagor o Wybodaeth

Gall unrhyw un sydd eisiau mwy o wybodaeth am y niweidiau posibl a achosir gan yfed ymweld â’r gwefannau hyn:

 

http://www.nhs.uk/Livewell/alcohol/Pages/Alcoholhome.aspx

https://www.seneddieuenctid.cymru/hafan/

 

Gall unrhyw un sydd yn pryderu ynghylch eu harferion yfed gysylltu â Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru DAN 24/7 ar y rhif rhadffôn 0808 2234 neu fynd i www.dan247.org.uk

 

Dysgwch fwy am ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy yma

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham