Be sy’n bod ar….. Ecstasi (MDMA)

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Ecstasi (neu MDMA) ydi’r cyffur adfywiol a oedd yn cael ei alw’n gyffur parti yn yr 80au a’r 90au. Mae ganddo sawl enw arall hefyd e.e. pils, Garys, Mastercard, Gold, E, MDMA. Yn ddiweddar, mae gweithwyr In2change wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl ifanc yn Wrecsam sy’n cymryd ecstasi ac mae yna hefyd bryderon cenedlaethol ynghylch cynnydd ym mhurdeb y cyffur. Rydym ni wedi cael sawl rhybudd ac mae tabledi wedi eu darganfod sy’n cynnwys dwywaith a hyd yn oed teirgwaith yn fwy o’r dos, sydd wedi arwain at ddigwyddiadau difrifol a marwolaethau.

Mai 2016 – adroddodd Heddlu Manceinion Fwyaf fod merch 17 mlwydd oed wedi cymryd tabledi ecstasi ‘MasterCard’. Bu farw yn yr ysbyty.

Mehefin 2016 – rhuthrwyd tair merch 12 mlwydd oed i’r ysbyty ar ôl cymryd tabledi ecstasi ‘Teddy’ yn Salford, Manceinion Fwyaf.

Gorffennaf 2016 – bu farw dau berson yn eu harddegau (un ferch ac un bachgen) yng Ngŵyl Gerddoriaeth yr Alban ar ôl cymryd tabledi ecstasi ‘Rolex’.

Mae ecstasi, fel pob cyffur arall, yn effeithio ar bawb yn wahanol a dydych chi ddim yn gwybod efo beth mae wedi ei dorri.

Wrth gwrs, rydym ni’n annog pobl ifanc a phawb arall i beidio â chymryd cyffuriau ond, os ydych chi’n cymryd cyffuriau, cofiwch y cyngor yma:

  • Cymrwch nhw mewn lle diogel ac efo pobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw – peidiwch byth â chymryd cyffuriau pan rydych chi ar eich pen eich hun!
  • Byddwch yn ofalus efo’r dos.
  • Rhowch amser i’r cyffur weithio cyn cymryd mwy.
  • Peidiwch â chymysgu’r cyffur gydag alcohol neu gyffur arall.
  • Peidiwch â rhannu unrhyw offer, hyd yn oed os ydych chi’n sniffian.

Os ydych chi’n camddefnyddio sylweddau ac arnoch chi angen cymorth i ddefnyddio llai neu i roi’r gorau iddi’n gyfan gwbl, neu os ydych chi’n adnabod rhywun sydd angen gwybodaeth a chefnogaeth, yna ffoniwch ni ar (01978) 295629 neu anfonwch e-bost i in2change@wrexham.gov.uk.

Mae In2Change yn wasanaeth cyfrinachol a rhad ac am ddim sy’n gweithio efo pobl ifanc 11-18 oed (hyd at eu pen-blwydd yn 19 oed). Mae’r gwasanaeth yn un gwirfoddol ac felly os ydych chi’n atgyfeirio person ifanc at y gwasanaeth mae’n rhaid i chi ddweud wrthyn nhw cyn gwneud hynny.

Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth yn www.talktofrank neu fe allwch chi fynd i wefan Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru (www.dan247.org.uk) neu eu ffonio ar 0808 808 2234.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham