Beth yw Iechyd Meddwl? MissWriter yn ysgrifennu

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae llawer ohonom yn dioddef problemau iechyd meddwl ond ddim wir yn deall ei ystyr. Fel oedolion ifanc, rydym yn aml yn gofyn beth yw iechyd meddwl a sut mae’n effeithio arnom? Beth ydy hwn sy’n amharu ar ein ffrindiau a’n teuluoedd a ddim yn caniatáu iddynt ofyn am gymorth?  Sut mae’n gallu rheoli ein meddyliau; beth ydyn ni’n ei wneud, ei ddweud ac yn ei feddwl?  A beth gellid ei wneud i helpu neu ei atal.

 

Iechyd meddwl yw lles emosiynol a seicolegol unigolyn.  Mae’n effeithio ar sut ydyn ni’n teimlo ac yn ymddwyn tuag at rywbeth a pha un a ydyn ni’n gallu gwneud y penderfyniadau cywir dros ein hunain.   Mae hefyd yn pennu sut ydyn ni’n gallu ymdopi gyda’r amgylchoedd a sut ydyn ni’n delio gyda straen.   Mae pobl yn aml yn cael trafferth gyda hyn ac yn methu mynegi eu teimladau.   Gall problemau iechyd meddwl arwain at effaith andwyol neu niweidiol ar fywyd rhywun gan amharu arnynt. Gall wneud iddynt deimlo’n ddiwerth neu’n druenus – hyd yn oed yn teimlo’n isel neu dan bwysau heb reswm arbennig.   Byddai pethau bach yn ystod bywyd bob dydd yn teimlo’n faich; fel pe bai pwysau’r byd ar eu hysgwyddau.   Y teimlad cyson fel pe bai’r byd yn cynllwynio yn eich erbyn chi.  Byddai diffyg hunan-barch yn dilyn hyn yn y pen draw gan effeithio arnynt ym mhob agwedd o’u bywyd. Gall y rhestr fynd ymlaen ac yn anffodus ni fyddai’n cynnwys unrhyw deimladau buddiol na ffafriol.   Mae’r ffactorau sy’n cyfrannu at broblemau iechyd meddwl yn cynnwys:

 

– Ffactorau biolegol – cemeg yr ymennydd neu enynnau

– Hanes teulu o broblemau iechyd meddwl

– Cam-drin neu drawma

 

Mae amgylchiadau o’r fath yn anffodus yn gyffredin ymhlith cenhedlaeth iau’r gymdeithas heddiw.   Pethau nad oes gennym reolaeth drostynt.   Pethau nad ydym yn cael ein beio amdanynt.   Fodd bynnag, mae gennym y gallu oddi mewn i symud ymlaen â chroesawu’r dyfodol.   Mae cymorth a chyngor proffesiynol ar gael a bob amser yn cael ei argymell i unrhyw un sydd wedi bod trwy gymaint.   Yn ogystal, mae cadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a theulu bob amser yn fuddiol ac yn gysur i chi – gallu rhannu ac agor allan wrth rywun rydych yn ymddiried ynddo yn gwneud i chi deimlo llawer gwell ac yn helpu i symud ymlaen.

 

Ar unrhyw bwynt yn eich bywyd, efallai y byddwch wedi dod ar draws sefyllfa lle rydych yn teimlo’n nerfus neu’n bryderus am ymdrech neu brofiad newydd rydych ar fin wynebu.  Teimlad o ansicrwydd – y ‘beth os’ yn dod i’r meddwl a setlo i lawr gyda theimlad o bryder.

Efallai eich bod yn adnabod rhywun sydd wedi bod drwy rywbeth tebyg, rhywun agos.  Rhywun rydych yn gofalu amdanynt sy’n methu dweud wrthych sut maent yn teimlo.  Dyma lle rydych angen camu ymlaen a gallu eu deall a’u helpu drwy eu hamser caled.   Cadw’n positif. Cael hwyl a dangos i’ch ffrindiau bod bywyd yn mynd ymlaen.   Bod bywyd bob amser yn darparu cyfleoedd sy’n caniatau i chi fod yn hapus ac i fyw yn iach.   Yna bydd hyn yn ysgogi eich ffrind i feddwl yn optimistaidd ac yn gwella eu sefydlogrwydd a hunan-barch.

 

Y dyddiau hyn, rydym yn gweld oedolion a phlant yn treulio mwy o amser ar eu ffonau ac ar gyfryngau cymdeithasol yn hytrach na gyda’i gilydd.   Mae’r hyn sy’n mynd ymlaen ar gyfryngau cymdeithasol yn poeni mwy arnom na’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd.   Rydym yn cymryd y synnwyr diogelwch ffug hwn o fywyd ar-lein wedi’i drefnu’n berffaith yn llawer rhy o ddifrif.   Yn arbennig pan mae’n dod i fynegi ein hunain neu fynegi barn efallai.   Beth am fynd allan a mynegi’r farn honno’n agored? Beth sy’n eich rhwystro chi?  Y gwir yw nad oes unrhyw beth yn eich rhwystro chi.  Does dim byd yn eich rhwystro chi.  Ond mae gennych ofn. Wnewch chi ddim cyfaddef ond mae’n wir.  Ofn beth fydd y byd yn ei feddwl, beth fydd y sawl nesaf atoch yn feddwl ohonoch chi.   Bydd y teimlad hwn eich bod yn cael eich beirniadu rydych yn meddwl fydd rhywsut yn gwneud i chi edrych yn wan neu hyn yn oed yn llai o berson da, yn eich atal ac yn gwneud i chi feddwl ddwywaith.   Ond sut fydd bywyd yn edrych os ydych yn meddwl ddwywaith bob tro? Os nad ydych yn cymryd y cyfleoedd a roddir i chi? Byddwch yn byw gyda’r edifeirwch nad ydych wedi cyflawni rhywbeth cwbl anhygoel a chymryd y cyfle tra roedd ar gael i chi.

 

Mae cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan enfawr yn ein bywydau.   Mae’n effeithio ar sut rydym yn meddwl ac yn ymddwyn tuag at rywbeth.   Oherwydd y tueddiad parhaus hwn na allwn fyw hebddo, nid ydym mewn gwirionedd yn sylweddoli ei effeithiau a’r effaith a gaiff arnom a’n harferion beunyddiol.   Mae llawer ohonom yn treulio mwy na 4 awr ar ein ffonau a ddim yn ymwybodol o’r pethau sy’n digwydd o’n hamgylch.   Rydym yn colli allan ar amrywiol weithgareddau, er mwyn gallu mynd yn ôl ar ein ffonau a gwirio ein negeseuon.   Weithiau, nid ydym yn cael digon o gwsg oherwydd hyn – colli cwsg sy’n cael effaith negyddol arnom a gall arwain at broblemau iechyd meddwl difrifol.   Bydd teimlo’n flinedig neu wedi ymlâdd yn arwain at fethu gweithio’n iawn neu’n iach a bydd yn gwneud i chi deimlo’n ddigalon. Mae digon o gwsg yn ffactor pwysig i leihau’r risg o broblemau iechyd meddwl mawr.  Drwy gysgu, mae’r corff yn gallu ymlacio ac adennill ei gryfder.   Mae hefyd yn fuddiol i’r galon a’r meddwl.   Mae astudiaethau’n dangos bod myfyrwyr coleg nad ydynt yn cael digon o gwsg yn derbyn graddau llawer gwaeth na’r rhai sy’n cael digon o gwsg.   Maent hefyd yn awgrymu sut y gall y diffyg cwsg rheolaidd effeithio ar sgiliau a gallu dysgu.   Dylem i gyd gael digon o gwsg fel y gallwn gynnal ein hunain a chael bywyd cytbwys iach.  Gall cwsg hefyd leihau lefelau straen sy’n debygol iawn i unrhyw fyfyrwyr wneud. Yn ystod eich amser yn y coleg, rydych yn debygol o boeni a ydych yn mynd i lwyddo yn y cwrs ai peidio, ond ni ddylai hyn effeithio ar eich cwsg! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i’r gwely’n gynnar.   Byddwch yn teimlo’n llawer gwell ac yn awtomatig byddwch yn dechrau ymlacio ac yn gweld gwahaniaeth yn y canlyniadau.

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham