Byddin Alfie – canlyniad gwych

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Ym Mai 2017 fe fu Senedd yr Ifanc (senedd pobl ifanc Wrecsam) yn hyrwyddo posteri o Gareth ‘Alfie’ Thomas a oedd yn recriwtio pobl ifanc i ymuno ag ef i hyfforddi ar gyfer hanner marathon mwyaf y DU, sef hanner marathon Caerdydd. Byddai’r rhai a ymunodd hefyd yn rhan o’i raglen deledu sef ‘Alfie’s Army 2017’. Penderfynodd 7 person ifanc o Wrecsam arwyddo i ymuno â’r her, ond ychydig a wyddant beth oedd yn eu haros!

Ym Mehefin fe aethant i Gaerdydd i gyfarfod Alfie a phobl ifanc eraill a oedd wedi ymgymryd â’r her. Cawsant raglen hyfforddi, a chynllun bwyta Maethlon gan James Thie, yr hyfforddwr. Yna fe aethant am sesiwn loncian brawf oedd yn 2 filltir o amgylch Parc Bute fel y gallai James ac Alfie weld eu lefelau ffitrwydd. Dyma pryd y sylweddolwyd beth oedd realiti’r cyfan wrth i rai ei chael yn anodd gan nad oeddent yn gwneud llawer o ymarfer corff fel arfer.

Roedd yn rhaid i’r hyfforddi ddechrau. Roedd Senedd yr Ifanc a Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam yn cefnogi’r sesiynau hyfforddi yn wythnosol ac yn cefnogi’r bobl ifanc i fynychu sesiynau gyda run4wales a gyda Alfie a James yng Nghaerdydd. Roedd rhaid i’r 7 ifanc ddechrau newid eu ffordd o fyw i allu hyfforddi ar gyfer yr her.

Tricia Jones, Jade Griffith, Chloe Roberts, Gareth “ALFIE” Thomas, Mia Jeffs, Sam Sides, Jordan Jackson a Yasmin Sides

Ddydd Gwener 29 Medi fe aethant i gyd i lawr i Gaerdydd ar gyfer y penwythnos terfynol – penwythnos yr hanner marathon. Roedd bore Sadwrn yn fore o ymlacio gyda chyfle i grwydro’r brifddinas a chael gêm o golff gwyllt. Brynhawn Sadwrn roedd yn amser cwrdd ag Alfie a James er mwyn paratoi ar gyfer hanner marathon dydd Sul. Ni chafodd y bobl ifanc yr hyn roeddent yn ei ddisgwyl. Cawsant eu hanfon oddi ar eu bws gan ddril ringylliaid y fyddin cyn gynted ag y cyraeddasant a chawsant eu galw mewn rhes yn gyflym yn barod i weithredu. Anfonwyd Alfie i ganol y bobl ifanc tra roeddent yn gwylio Alfie yn derbyn triniaeth lawn y fyddin. Galwyd ef i redeg, loncian, plygu i lawr a chropian, loncian yn yr unfan a gwneud ymwthiadau ac aeth hyn ymlaen. Erbyn hyn roedd ein pobl ifanc yn credu mai nhw oedd nesaf!

Pan ddaeth eu cyfle roeddent wedi eu syfrdanu, cawsant eu rhoi mewn timau a’u hyfforddi i wneud gweithgareddau meithrin tîm oedd yn cynnwys cwrs antur gwynt mawr. Roedd y dril ringylliaid yn ysgogi’r bobl ifanc ond roeddent hefyd yn gefnogol iawn a dywedodd y bobl ifanc eu bod wedi “cael hwyl” er eu bod yn flinedig. Daeth y diwrnod i ben gyda pharti pasta ac araith ysbrydoledig gan Alfie ei hun, yna gwely cynnar i baratoi ar gyfer y diwrnod canlynol a’r heriau oedd o’u blaenau.

Dydd Sul – diwrnod yr hanner marathon, brecwast iachus da i lenwi pawb ac i ffwrdd â nhw. Roedd ganddynt docynnau VIP i gael mynd i mewn i Gastell Caerdydd lle buont yn gwneud ymarferion i gynhesu a pharatoi am y dasg oedd o’u blaenau. Roedd yr awyrgylch yn wych a phrofodd y bobl ifanc sawl emosiwn ond roedd y gymeradwyaeth a’r gefnogaeth gan y cyhoedd i Fyddin Alfie yn eu hannog i gyd i fod yn barod i fynd. Roedd yr anogaeth hon yn amlwg drwy gydol y 13.1 milltir, roedd pawb yn cymeradwyo ac yn gwaeddi’n gadarnhaol, a dywedodd y bobl ifanc fod hyn a chefnogaeth Alfie wedi eu helpu.

Gorffennodd y person ifanc cyntaf o Wrecsam mewn ychydig dros 1 awr a 49 munud, gyda’r 6 arall yn dilyn. Roedd gan y bobl ifanc amheuon ac ofnau yn arwain at y ras ond llwyddodd y 7 i gwblhau’r her ac mae ganddynt fedalau i brofi hynny.


Bydd 4 elusen hefyd yn elwa o’r her, y rhain yw: Prosiect Gunjur, Hosbis Tŷ Gobaith, Tŷ’r Eos a’r Gymdeithas Awtistig: hoffai’r bobl ifanc ddiolch i bawb a gefnogodd yr elusennau hyn.
Aeth rhai o’r bobl ifanc ati hyd yn oed i roi negeseuon diolch i’w hanfon i Fyddin Alfie;

’Roedd yn brofiad gwirioneddol dda. Mae Byddin Alfie yn sicr wedi rhoi i mi’r ysgogiad i ddod yn fwy egnïol ac iach yn fy mywyd ac rydw i mor ddiolchgar am y profiad……’

‘Mae Byddin Alfie wedi bod yn ysgogiad gwych i ddod yn fwy egnïol ac rwy’n ddiolchgar am y profiad anhygoel’

‘Mae Byddin Alfie yn brofiad nad ydw i fyth yn mynd i’w anghofio!!! Dwi mor ddiolchgar am yr holl gymorth ond hefyd am y gefnogaeth mae pawb wedi ei roi – mae wedi fy ysgogi i ddod yn iachach’

‘Diolch am y cyfle ac mae’n brofiad na fydda i fyth yn ei anghofio’

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham