‘Bywydau Ifanc Wrecsam’ – 1

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Bywydau Wrecsam Ifanc

 

Mae Wrecsam Ifanc wedi ymuno â myfyrwyr Coleg Cambria yn Wrecsam i roi cipolwg ar fywydau pobl ifanc yn Wrecsam.  Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf byddwn yn arddangos eu herthyglau, sy’n cynnwys ‘Bywyd adolygwr pêl-droed’, ‘Barn am Brexit ar gyfer pobl ifanc’, ‘Taith i’r lleuad’, ‘Sut i adeiladu cyfrifiadur’, ‘Fy hoff albwm’, ‘Fy hoff gig’, ‘Pethau y buaswn yn newid yn Wrecsam’, ‘Pethau dw i’n eu hoffi am Wrecsam’.

Mae’r prosiect yn gyfle i chi siarad am lawer o bethau (dim byd anweddus) a gallwch wneud hynny drwy gyfrwng fideo, erthygl neu animeiddiad.   Os hoffech chi gymryd rhan ym mhrosiect ‘Bywydau Wrecsam Ifanc’ yna cysylltwch â ni.

 

Bywyd ym myd y bêl

Helo bawb, Daniel Roberts ydw i, neu @danthemannw ar twitter. Fe gefais fy ngeni gyda Pharlys yr Ymennydd, sy’n effeithio ar fy nghoesau a fy ngallu i siarad. Oherwydd hynny dwi’n defnyddio cadair olwyn fodur i fynd o le i le. I siarad dwi’n defnyddio TTSReader ar-lein gan nad ydi fy mheiriant siarad DynaVox yn gweithio mwyach.

 

Mae gen i ddiddordeb brwd mewn adolygu gemau gartref Clwb Pêl-droed Wrecsam ar Tumblr. Fe ddechreuais i ysgrifennu adolygiadau pan oeddwn i’n aelod o dîm lleol o’r enw CPD Cynhwysol Wrecsam. Roedd y tîm yn cynnwys pobl ag anableddau, anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl, ac yn chwarae mewn amrywiaeth o dwrnameintiau. Fedra i ddim chwarae pêl-droed oherwydd fy anabledd, ond roeddwn i’n cael cofnodi enwau’r rhai oedd yn sgorio yn y sesiynau hyfforddiant. Fi oedd yn gyfrifol am ysgrifennu adroddiadau o’r gemau lleol, ac roedd gen i golofn yn y newyddlen bob mis.

 

Bu’n rhaid imi roi’r gorau i fynd i’r clwb gan fod pethau eraill yn fy nghadw’n brysur. Felly penderfynais ymuno â Tumblr ac ysgrifennu adolygiadau o gemau Wrecsam. Fe ges i flas ar ysgrifennu adolygiadau o gemau CPD Cynhwysiant ac roedd pobl yn eu canmol yn y sylwadau, ac felly roedd hi’n gwneud synnwyr i ddal ati.

 

Dwi wedi cefnogi Wrecsam ers pan dwi’n cofio, ond fe ddechreuais i fynd i’r gemau cartref yn rheolaidd ddechrau tymor 2015-16. Roeddwn i’n mynd i’r gemau gyda fy ngofalwr a oedd efo fi am saith awr bob wythnos ar y pryd. Dydi o ddim efo fi rwan, ac felly mae Mam a Nana’n mynd â fi i’r gemau pan maen nhw’n gallu.

 

Beth sy’n aros fwyaf yn y cof? Fe gafodd CPD Cynhwysiad wahoddiad i chwarae’n erbyn Cynghorwyr Wrecsam yn stadiwm Queensway, lle mae’r Croesgadwyr yn chwarae eu gemau rygbi’r gynghrair, ar 13 Hydref 13 2016. Rheolwr tîm y Cynghorwyr oedd Maer Wrecsam ar y pryd, John Pritchard. Fe enillon ni o chwe gôl i bedair, ac ar ôl y gêm fe gawsom ein gwahodd i Neuadd y Dref i gael ychydig o luniaeth. Mae’r diwrnod wedi aros yn fy nghof am mai dyma pryd ddechreuodd fy adolygiadau fod yn ddifyr ac yn dda.

 

Fy hoff atgof o adolygu gemau Wrecsam yw’r adeg pan es i i’w gweld nhw’n chwarae oddi cartref yn Solihull ar 27 Awst 2018. Mi gefais i fynd ar y daith diolch i Swyddog Cyswllt Anabledd y clwb, Kerry, a chwmni Valentine Travel. Er bod y Dreigiau wedi colli 0 – 1, fe ges i amser da gan mai hon oedd fy ngêm gyntaf erioed oddi cartref, gan na fedra i fynd ar y bws fel y rhan fwyaf o gefnogwyr.

 

Waeth imi gyfaddef, dw i’n defnyddio’r adroddiadau ar wefan Wrecsam i fy atgoffa o’r gêm dwi’n ei hadolygu. Fyddwn i byth yn dwyn na lladrata eu gwaith. Dwi wrth fy modd efo beth mae tîm y cyfryngau’n ei wneud, a’r sylwebaeth radio ar Calon FM. Fe fyddai’n gwrando arnyn nhw os na fedra i fynd i’r gêm.

 

Fel y soniais i, rydw i ar Tumblr os hoffech chi ddarllen fy adolygiadau. Chwiliwch am danthemannw.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham