Bywydau Wrecsam Ifanc – A ddylid gostwng yr Oedran Pleidleisio i 16?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

 

Mae’r ddadl hon wedi bod yn mynd ymlaen am beth amser. Mae llawer o bobl yn dweud dylai llais pobl ifanc cael ei glywed, a bod angen ei glywed, ac mae pleidleisio yn ffordd wych o wneud hyn. Ond y cwestiwn go iawn yw: ai gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed yw’r ffordd orau o wneud hyn? Dyma beth rwyf am ei drafod. Rwyf am sôn am ddwy ochr y ddadl ac yna rhoi fy marn bersonol. Rwyf am drafod dau bwynt ar bob ochr. Rwyf hefyd am ddatgan a ydw i’n cytuno â’r ddadl bresennol.

 

Dylai oedran pleidleisio fod yn 16!

 

Y ddadl gyntaf rwyf am ei chyflwyno wrth nodi pam dylid gostwng yr oedran pleidleisio, yw bod pobl 16 oed yn haeddu cyfle i ddweud eu dweud. Y rheswm dros ddweud hyn yw eu bod wedi cyrraedd cam cyfrifol yn eu bywyd, ac maen nhw bellach yn haeddu cyfle i roi eu barn ar bwy fyddai’n gallu cael ei ethol ar gyfer hyn a’r llall. Gall pobl 16 oed hefyd ymuno â’r Lluoedd Arfog, ac os yw hyn yn cael ei ganiatáu, yna does bosibl na ddylen nhw gael yr hawl i bleidleisio? Yn bersonol, y ffordd rwyf yn gweld pethau yw, os ydych yn penderfynu ymuno â’r Fyddin pan yn 16, rydych yn gwneud penderfyniad. Mae hwn yn benderfyniad enfawr a gallai gael effaith enfawr ar eich bywyd, ac o bosibl, peryglu eich bywyd. Os felly, pam nad oes hawl gan bobl 16 oed i bleidleisio? Mae penderfynu ymuno â’r Fyddin yn benderfyniad llawer mwy, ar bapur, na phleidleisio i ethol rhywun.

 

Yr ail bwynt rwyf am ei drafod yw y byddai hyn yn denu pobl ifanc i gymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth ac yn rhoi mwy o wybodaeth iddyn nhw ar y pwnc yn hwyrach yn eu bywydau, ar ben y sgiliau maen nhw wedi’u dysgu yn gynharach. Ar hyn o bryd, mae’r diddordeb sydd gan bobl ifanc mewn gwleidyddiaeth yn hurt o isel. Yn fy marn i, yr unig ffordd y gallwn roi sylw i hyn yw drwy ganiatáu i bobl ifanc bleidleisio, gan y byddai’n eu hannog i ddysgu mwy am sut mae’r cyfan yn gweithio. Fodd bynnag, efallai na fyddai gan rai pobl ddim diddordeb, ac mae hynny’n berffaith iawn. Ond byddai’n atal eraill rhag dysgu a darganfod rhagor am y pwnc.

 

 

 

NI DDYLAI’R oedran pleidleisio fod yn 16!

 

Gallai pobl ifanc wneud dewisiadau anaeddfed er mwyn ceisio ymddangos yn ‘cŵl’. Enghraifft o hyn fyddai os oeddech chi am bleidleisio am ‘hwyl’ yn unig, ac yna byddech chi’n gallu mynd allan i bleidleisio, a phleidleisio dros blaid rydych yn gwybod DIM amdani.

 

Hefyd, nid fyddai ots gan bobl ifanc am wleidyddiaeth. Gallai hyn fynd unrhyw ffordd, da neu ddrwg. Gallai fod yn beth da oherwydd petai’r bobl nad oes ots ganddyn nhw yn pleidleisio, yna gallai’r bobl sydd wedi pleidleisio yn gallu cael effaith a phleidleisio. Gallai’r cyfan fynd o chwith petai rhai pobl dwp yn pleidleisio dros rywbeth nad ydyn nhw’n gwybod DIM amdano a byddai canlyniad gwael yn wael i’r wlad.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham