CANLYNIADAU GWNEWCH EICH MARC WRECSAM 2019

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Bob blwyddyn mae Senedd yr Ifanc DU yn cynnal ymgynghoriad ieuenctid cenedlaethol (11-18 mlwydd oed) a elwir yn Bapur Pleidleisio Gwnewch eich Marc. Roedd y papur pleidleisio hwn yn pennu beth roedd Aelodau o Senedd yr Ifanc DU yn ei drafod yn eu sesiwn yn Nhŷ’r Cyffredin.

Eleni, cymerodd dros 800,000 o bobl ifanc ran yn yr ymgynghoriad ar draws y DU, gyda 1382 o bobl ifanc Wrecsam yn cyfrannu.

Isod, canfyddwch ganlyniadau Wrecsam ar gyfer papur pleidleisio Gwnewch Eich Marc 2019.

Yn anffodus, dim ond yn Saesneg y mae’r stori newyddion yma ar gael.
Mater ar Draws y DU Cyfanswm Pleidleisiau
1afAmddiffyn eich Amgylchedd – rydym yn credu bod gennym gyfrifoldeb i amddiffyn yr amgylchedd rhag effeithiau newid hinsawdd ar gyfer y genhedlaeth nesaf.   577
2ailPleidleisio yn 16 oed – Ym mhob etholiad/ refferendwm   254
3ydd Mynd i’r afael â Throsedd Casineb – dylem gael ein haddysgu ar sut i riportio Trosedd Casineb, rydym yn credu y dylai’r Llywodraeth fuddsoddi i greu gwagleoedd diogel sydd yn hyrwyddo undod mewn cymunedau. 193
4yddCroesawu Ffoaduriaid – Mae pawb yn haeddu byw heb ofn marwolaeth ac erledigaeth, felly credwn y dylai ffoaduriaid gael eu croesawu i’n cymunedau yn y DU. 144
5ed Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – gwneud UNCR yn ddeddf statudol. 79
Materion datganoledig Cyfanswm Pleidleisiau
1af Rhoi terfyn ar drosedd â chyllyll – Mae gormod o bobl ifanc yn colli eu bywydau i drosedd â chyllyll; mae angen i’r Llywodraeth wneud mwy i helpu rhoi terfyn ar yr epidemig trosedd â chyllyll. 392
2ail Iechyd Meddwl – Dylai gwasanaethau iechyd meddwl gael eu gwella gyda chymorth pobl ifanc; a dylai fod ar gael mewn ysgolion. 337
3ydd Cwricwlwm i’n Paratoi ar gyfer bywyd – Cwricwlwm i’n Paratoi ar gyfer bywyd, gan gynnwys Arian, rhyw a pherthnasau, a gwleidyddiaeth. 219
4ydd Mynd i’r afael â Thlodi Plant – ni ddylai unrhyw fod dan anfantais ar ddechrau eu bywyd oherwydd eu sefyllfa ariannol, dylai’r llywodraeth wneud mwy o roi terfyn ar dlodi plant. 183
5ed Rhoi’r gorau i Aflonyddwch ar y Stryd – rydym yn credu y dylid rhoi mwy o gydnabyddiaeth i hyn, gellir ei atal drwy fuddsoddiad mewn strategaeth leol, a drwy ymgynghori â phobl ifanc, yn ogystal â’u haddysgu. 116
Materion lleol o bwys i chi (Wrecsam yn unig) Cyfanswm o bobl ifanc a chododd y mater.
Yr Amgylchedd61
Cyffuriau46
Gollwyng Sbwriel40
Iechyd Meddwl26
Trosedd â chyllyll 26
Mannau diogel i fynd iddynt 19
Bwlio16
Digartrefedd14
Ymddygiad gwrthgymdeithasol 14
Ysbryd Cymunedol 8
Gwahaniaethu 8
Cludiant 7
Tlodi7
Trosedd7
Ein dyfodol6
Pwysau gan gyfoedion5
Brexit55
Bod Yn ddiogel2

Diolch i Cameron, Aelod o Senedd yr Ifanc DU, a Katie, Dirprwy Aelod o Senedd yr Ifanc DU am eu hymrwymiad i ymgynghoriad Gwnewch eich Marc eleni. Diolch i Ysgolion Uwchradd Wrecsam am eu cefnogaeth barhaus gydag ymgynghoriadau blwch pleidleisio eleni. Diolch i’r holl grwpiau ieuenctid a gyfrannodd at yr ymgynghoriad hwn eleni.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth ar ganlyniad llawn y DU, dilynwch y ddolen:    http://www.ukyouthparliament.org.uk/wp-content/uploads/2019-v2-Make-Your-Mark-Report-2019-with-Infographics.pdf

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y canlyniadau hyn, neu sut i gymryd rhan y flwyddyn nesaf, cysylltwch â Senedd yr Ifanc- youngvoices@wrexham.gov.uk

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham