Cronfa Dydd Gŵyl Dewi o £1 miliwn ar gyfer plant sydd wedi profi gofal

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Cronfa Dydd Gŵyl Dewi o £1 miliwn ar gyfer plant sydd wedi profi gofal

Dydd Mercher, 1 Mawrth 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, y byddai’n rhoi £1miliwn i awdurdodau lleol ar draws Cymru i helpu pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Mae arian yn awr ar gael i bobl ifanc cymwys rhwng 16 a 25 oed sydd naill ai yn dal i fod yng ngofal yr awdurdod lleol neu sydd wedi gadael gofal er mwyn eu helpu nhw i symud tuag at annibyniaeth. Gallwch wneud cais am yr arian hwn i helpu tuag at lawer o wahanol bethau. I ddarganfod mwy am y gronfa ac i wneud cais cysylltwch â’ch gweithiwr cymdeithasol neu PA. Neu dewch i’r Siop Wybodaeth a holwch y gweithwyr ieuenctid yno.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham