Cyfle gwych. Nifer cyfyngedig ar gael. Brysiwch tra bod lleoedd ar ôl!

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

IWD Poster -Welsh

 

Mae Tîm Cyfranogi Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam yn cefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2018

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Merched pob blwyddyn ar 8 Mawrth i ddathlu cyflwyniadau merched o bob cwr o’r byd dros y blynyddoedd. Mae hefyd yn cael ei alw’n Ddiwrnod Hawliau Merched a Heddwch Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched ​yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu cyflwyniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched ac eleni rydym ni’n cofio 107 o flynyddoedd ers ymgyrch y swffragetiaid.

Mae’r diwrnod hwn yn ymwneud ag undod, dathlu, myfyrio, eirioli a gweithredu.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa bwerus??

 

I gefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2018, mae Tîm Cyfranogi Wrecsam eisiau rhoi cyfle i rai merched rhwng 11 ac 20 oed o Wrecsam ‘gysgodi’ rhai o’n merched ysbrydoledig mewn swyddi a lleoliadau amrywiol am y diwrnod. Dyma gyfle gwych a fydd yn ysbrydoli ac yn annog merched ifanc i ystyried gyrfaoedd amrywiol.

Hoffech chi fanteisio ar y cyfle hwn?????

Os oes gennych chi ddiddordeb ac os hoffech chi fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Tîm Cyfranogi:

01978 317961

youngvoices@wrexham.gov.uk

www.internationalwomensday.com                      #DRhM2018 #PressforProgress

 

 

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham