Diweddariad Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2019

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Diweddariad Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2019

 

 

Eleni ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2019 (#IWD2019), bu i’r Tîm Cyfranogiad Ieuenctid Cyngor Wrecsam a Senedd yr Ifanc, a Senedd pobl ifanc Wrecsam roi’r cyfle i ferched ifanc yn Wrecsam i gysgodi rhai o ferched ysbrydoledig a phroffesiynol yn Wrecsam.

 

Bu i nifer o weithwyr proffesiynol a oedd yn cynnwys rheolwyr gwasanaeth Cyngor Wrecsam, Cynghorwyr Sir, Cyfarwyddwyr yn y GIG, Meddygon o fewn y GIG, Rheolwyr yng Nghyfoeth Naturiol Cymru, athrawes yn Ysgol Uwchradd St Christopher, Pennaeth yng Ngholeg Cambria ac Aelod Cynulliad Cenedlaethol dros Wrecsam, gymryd rhan gan roi ystod o gyfleoedd i ferched ifanc yn Wrecsam.

 

Hoffai’r Tîm Cyfranogiad Wrecsam ddiolch i bob un o’r gweithwyr proffesiynol a wnaeth gymryd rhan, bu i bob un o’r merched ifanc fwynhau eu profiad ac wedi dysgu llawer iawn o’u diwrnod.

Hefyd hoffem ddiolch i’r holl ysgolion am gefnogi’r diwrnod.

 

Cadwch y Dyddiad

 

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Merched y flwyddyn nesaf dydd Sadwrn, 8 Mawrth 2020. Bydd Tîm Cyfranogiad Wrecsam yn trefnu profiadau cysgodi ar gyfer dydd Iau, 6 Mawrth 2020. Os hoffech chi neu eich sefydliad gefnogi’r cyfle flwyddyn nesaf drwy ddarparu profiad cysgodi, cadwch y dyddiad a mynegwch ddiddordeb drwy anfon e-bost at ctricia.jones@wrexham.gov.uk

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham