Dweud eich Dweud! Gyda Freedom Leisure

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

 

Lansiodd mis ymgynghori Tachwedd ar ddydd Iau 1 Tachwedd ac ry’n ni am glywed eich barn.

 

Fel sefydlid di-elw yn datblygu rhaglenni gweithgareddau lleol, rydym am i CHI gael DWEUD EICH DWEUD trwy lenwi arolwg ar-lein 3 munud syml iawn.  Trwy ddewis yr ardal lle ry’ch chi’n byw a llenwi nifer o gwestiynau aml-ddewis, hoffwn gael gwybodaeth am yr hyn yr hoffech chi gael gennym ni yn eich ardal leol.  P’un ai os yw’n rhaglen o weithgareddau newydd sbon, gweithgareddau i rieni a phlant bach, sesiynau o weithgareddau am ddim, gweithgareddau ar gyfer chwaraeon penodol neu i ddarganfod rhagor, hoffwn glywed gennych chi.

 

Bydd yr ymatebion o’r holl arolygon yn cael eu dadansoddi er mwyn i ni ddatblygu rhagor o raglenni a gweithgareddau o Ebrill 2019.  Gallwch ddewis i roi eich manylion cyswllt ar y diwedd – peidiwch ag anghofio i optio mewn os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod fel ein bod yn gallu rhoi gwybod i chi am y gweithgareddau lleol yn eich ardal chi.

Dolen i’r Arolwg

Ymgynghoriad Cymunedau Egnïol Freedom Leisure 2018-19 (Fersiwn Gymraeg)

https://www.surveymonkey.co.uk/r/Z635LDG

 

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham