EICH LLAIS YN WREXHAM!!! DIGWYDDIAD AM DDIM Yn Ty Pawb! 18fed Tachwedd! Gwybodaeth am y gystadleuaeth a beth i’w ddisgwyl yn y Digwyddiad ‘Eich Llais yn Wrecsam’ sy’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Plant

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

18 Tachwedd 2021 3pm – 7.30pm yn Tŷ Pawb, Stryt y Farchnad, Wrecsam, LL13 8BB

Bydd gweithgareddau ac adloniant am ddim ac yn cael eu cynnal rhwng 3pm nes 7.30pm, ar agor i bob oed.

  • Cystadleuaeth – ‘Beth mae cael llais yn ei olygu i chi?’ Gweler rhagor o fanylion isod. Beirniadu yn cychwyn am 5.15pm.
  • Areithiau – dewch i glywed ein hareithiau gan bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol, dysgwch am hawliau merched.
  • Stondinau marchnad – stondinau gwybodaeth i deuluoedd, plant a phobl ifanc, nwyddau am ddim ar gael! 3pm – 6pm
  • Byd am ddim – Eisiau bwyd? Bydd bwyd am ddim ar gael rhwng 4pm a 6pm, bydd yn dilyn system docyn a bydd ar sail cyntaf i’r felin.
  • Sesiynau chwarae – hwyl yn ein man chwarae penodol, gan ddatblygu sgiliau gwybyddol, meddwl yn feirniadol a symud
  • Wynebau’r ŵyl – Pwy sy’n erbyn ychydig o sglein? 4pm – 7pm
  • Hud a Lledrith wrth gerdded gydag Ian ­– gwyliwch wrth i Ian wneud triciau o flaen eich llygaid, ydych chi’n gallu datgelu sut mae’n ei wneud? 4.30pm – 6.30pm
  • Sgiliau Syrcas – Dewch i wylio James yn arddangos ei sgiliau syrcas a pham na rowch gynnig arni eich hun? 4.30pm – 6.30pm
  • Ffeithlun – Bydd Lisa yn darlunio portread o’n digwyddiad, a hoffech chi ei helpu? 4.30pm – 7.30pm
  • Meic agored – Bydd y band lleol ‘Abstract’ yn cynnal sesiwn meic agored, dewch i roi cynnig arni neu i chwarae gydag aelodau Abstract. Pam na ddewch â’ch offeryn eich hun? Dewch i glywed Steve Jones a’i sengl newydd i hel pres i CAMHS Wrecsam. 5.40pm – 6.30pm
  • Cerddoriaeth fyw – dewch i wrando ar aelodau talentog Abstract, Steve, Matt, Will a Harry.  Byddant yn arddangos eu talentau cerddorol ac yn perfformio set wych o ganeuon adnabyddus at eich mwynhad. 6.30pm – 7.30pm

Bydd cyfyngiadau Covid-19 ar waith yn ystod y digwyddiad a bydd staff yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod rhagofalon yn eu lle i atal lledaeniad COVID; ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf ar y cyfyngiadau a’r canllawiau mwyaf diweddar, ewch i  https://llyw.cymru/coronafeirws

Cystadleuaeth – ‘Beth mae cael llais yn ei olygu i chi?’

Telerau ac Amodau a sut i gofrestru.

1- Mae’n rhad ac am ddim i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth

2- Yr hyrwyddwr yw: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

3- Mae’r gystadleuaeth ar agor i breswylwyr Wrecsam a bydd 3 categori oedran

•           10 oed ac iau

•           11 – 16

•           17 – 25

4 – Dim ond un cofrestriad fydd yn cael ei dderbyn i bob person.

5 – Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru fydd 16 Tachwedd 2021. Ar ôl y dyddiad hwn, nid fydd cofrestriadau pellach i’r gystadleuaeth yn cael ei ganiatáu.

6 – Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth a’r telerau ac amodau heb rybudd os yw materion yn digwydd sydd tu hwnt i reolaeth yr hyrwyddwr. Bydd unrhyw newidiadau i’r gystadleuaeth yn cael eu hysbysu i’r sawl a gofrestrodd cyn gynted â phosib gan yr hyrwyddwr.

7- Mae’r wobr fel a ganlyn: Talebion o ddewis yr enillydd. Mae’r wobr fel a nodwyd, ac ni fydd arian parod neu ddewis amgen yn cael ei gynnig.

8- Bydd enillwyr yn cael eu dewis gan banel yn ystod digwyddiad ‘Eich Llais yn Wrecsam’ ar 18 Tachwedd, 2021.

9- Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod y digwyddiad, ond nad ydynt yn bresennol byddant yn cael eu hysbysu dros e-bost neu’r ffôn o fewn 28 diwrnod o’r dyddiad cau. Os nad oes modd cysylltu â’r enillydd neu nad ydynt yn hawlio’r wobr o fewn 14 diwrnod o’r hysbysiad, rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r wobr oddi ar yr enillydd a dewis enillydd arall.

10- Mae’r enillydd yn cytuno i ddefnyddio ei enw a’i lun mewn unrhyw ddeunyddiau cyhoeddusrwydd, yn ogystal â’u hymgais. Bydd unrhyw ddata perthnasol i’r enillydd neu unrhyw ymgeisydd arall yn cael ei ddefnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data cyfredol y DU yn unig, ac ni fydd yn cael ei ddatgelu i drydydd parti heb gydsyniad blaenorol gan yr ymgeisydd.

11 – Mae’n rhaid i’ch ymgais beidio hysbysebu eich hun, neu’n bennaf at ddibenion codi pres

12 – Mae’n rhaid i’ch ymgais beidio bod yn wahaniaethol, hiliol, senoffobig, camdriniol, rhywiaethol, rhegi neu’n meithrin trais.

13- Bydd ymgeisio ar gyfer y gystadleuaeth yn cael ei ystyried fel eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau hyn.

Mae manylion y gystadleuaeth a sut i ymgeisio fel a ganlyn:

  • Teitl – Beth mae cael llais yn ei olygu i chi?
  • Y categorïau oedran yw 10 ac iau, 11-16 ac 17-25
  • Y wobr gyntaf yw £100 mewn talebau o’ch dewis chi.
  • Y dyddiad cau ydi 16 Tachwedd 2021.
  • Bydd beirniadaeth yn cael ei chynnal ar 18 Tachwedd yn y digwyddiad ‘Eich Llais yn Wrecsam’. Bydd y beirniaid yn edrych ar greadigrwydd, gallu technegol a mynegiad ‘Beth mae cael llais yn ei olygu i chi?’ o fewn ceisiadau.
  • Y gystadleuaeth yw mynegi ‘Beth mae cael llais yn ei olygu i chi?’ mewn unrhyw gyfrwng o’ch dewis i gynnwys esboniad cryno o’ch ymgais.

Mae enghreifftiau o gyfryngau’n cynnwys:

  • Ffotograffiaeth
    • Cân
    • Animeiddiad
    • Ysgrifennu creadigol
    • Ffilm
    • Offerynnol
  • Mae angen ymgeiswyr gwblhau’r manylion isod, i’w anfon gyda’u cais. Bydd angen anfon recordiadau, fideos neu luniau o geisiadau atom cyn 16 Tachwedd 2021, dros e-bost ar youngvoices@wrexham.gov.uk neu Whatsapp gan ddefnyddio 07800688979. Gallant eu arddangos neu eu perfformio yn eu digwyddiad ar 18 Tachwedd os ydych chi’n dymuno.
Enw   
Dyddiad   
Oedran Nodwch y grŵp oedran rydych yn ymgeisio iddo   10 ac iau, 11-16 neu 17-25 
E-bost a rhif ffôn cyswllt (rhiant/gofalwr os yw’n briodol) 
Ticiwch i gadarnhau eich bod yn byw neu fod gennych gysylltiad â Wrecsam 
Cyfrwng, ym mha gyfrwng mae eich ymgais? 
Talebau, os ydych chi’n ddigon lwcus i ennill ein gwobr gyntaf, ar gyfer lle yr hoffech y talebau? 
  • Os oes eisiau rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni ar young.voices@wrexham.gov.uk neu ffoniwch Caroline ar 07800688979, Tricia ar 07800688985 neu Jane ar 07808787777.

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yn ein digwyddiad, yn ogystal â’ch ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham