Everyman yn Hybu Mis Ymwybyddiaeth o Ganser ymysg Dynion

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Beth yw’r Mis Ymwybyddiaeth o Ganser ymysg Dynion gan Everyman?

  • Yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan Everyman yn 2006 dim ond 28% o ddynion sy’n archwilio eu ceilliau’n rheolaidd er mwyn gweld a oes ganddynt ganser y gaill.
  • Mae Ymgyrch Everyman yn tynnu sylw dynion a merched at ganser y gaill a’r prostad.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddynion sy’n dioddef gan ganser y brostad yn hŷn na 60 oed ac anaml iawn y mae dynion o dan 50 oed yn cael y clefyd hwn.
  • Mae canser y gaill yn effeithio ar ddynion ieuengach yn bennaf a dyma’r math mwyaf cyffredin o ganser ymysg dynion rhwng 15 a 44 oed.  Mae e’n dal i fod yn eithaf anghyffredin a byddwn ond yn cael bron 2,000 o achosion newydd y flwyddyn yn y DU.  Ers 1978 mae amlder canser y gaill wedi cynyddu ddwywaith a rhagor, ond ni wyddys hyd yma beth yw’r rhesymau dros hyn.  Gellir iachau 99% o achosion canser y gaill os oes modd mynd i’r afael â hwy’n brydlon; os caiff yr achosion eu trin mae’r gyfradd iachau drwyddi draw yn uwch na 95%.  Mae canser y gaill yn achosi oddeutu 70 marwolaeth bob blwyddyn yn y DU.

 Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Beth yw Canser y Gaill?

  • Mae canser y gaill yn datblygu o’r tu mewn i’r celloedd yn y ceilliau.  Fel arfer bydd i’w weld fel lwmp yn y gaill.
  • Os bydd dynion yn archwilio eu hunain yn rheolaidd gall hynny eu cynorthwyo i weld, yn brydlon, a ydynt yn dioddef gan ganser.
  • Os nad yw’r canser yn cael ei drin mewn da bryd, gall celloedd y canser ymwahanu ac ymledu i’r lymffgnotiau gerllaw neu i’r organau eraill.
  • Os bydd lwmp neu newid yn y ceilliau’n cael ei weld, bydd y Meddyg Teulu yn trefnu prawf er mwyn gweld yn union a yw’r lwmp yn ddiberygl neu’n dyfiant o bosibl.

Mae’r rhan fwyaf o lympiau’n ddi-ganser ond mae’n bwysig ichi gael archwiliad meddygol gan eich Meddyg Teulu er mwyn ichi fod yn dawel eich meddwl.

 Ffactorau Perygl

 

  • Oed – yn amlach na pheidio dynion ifanc a chanol oed ac nid yr henoed, sy’n dioddef gan ganser y gaill.  Mae e’n digwydd yn amlach ymysg dynion 15-44 oed nag ymysg neb arall.
  • Gallai caill gudd, ar enedigaeth y person, olygu bod pump i ddeg gwaith rhagor o berygl iddo ddioddef canser y gaill.
  • Hanes teulu – mae cael tad, brawd neu fab sydd wedi cael canser y gaill yn golygu y bydd llawer mwy o berygl i’r person gael y clefyd hwn.
  • Dioddef gan ganser y gaill o’r blaen – os bydd y person eisoes wedi cael canser y gaill yna bydd mwy o berygl iddo gael canser yn y gaill arall hefyd.  Fodd bynnag, anaml iawn y ceir canser yn y ddwy gaill.
  • Hil ac ethnigrwydd – mae canser y gaill yn fwy cyffredin ymysg Cawcasiaid nag ymysg unrhyw bobloedd eraill.

 Arwyddion a Symptomau

Os byddwch yn archwilio eich hun yn rheolaidd bydd hynny’n eich cynorthwyo i fod yn fwy ymwybodol o deimlad a maint arferol eich caill sy’n golygu y byddwch yn sylwi, mewn da bryd, ar unrhyw beth na ddylai fod yno; lwmp yn un o’r ceilliau, unrhyw chwydd i’r gaill, y ceillgwd yn teimlo’n drwm; poen mud yn yr abdomen neu gesail y forddwyd, hylif yn cronni’n sydyn yn y ceillgwd; rhan uchaf y frest yn chwyddo neu’n dyner i’w chyffwrdd.  Os bydd gennych unrhyw un o’r symptomau hyn, peidiwch ag oedi gan obeithio y byddant yn diflannu – ewch i weld eich meddyg ar unwaith er mwyn cael archwiliad.  Bydd y rhan fwyaf o lympiau’n ddi-ganser ond cyntaf yn y byd y cewch chi wybod beth yw beth, cyntaf yn y byd y cewch chi unrhyw driniaeth angenrheidiol.  Byddwch yn fwy tebygol o gael gwell canlyniad hefyd.

 Diagnosis a Thriniaeth

Os yw’ch meddyg o’r farn y gallech chi fod yn dioddef gan ganser y gaill, yna mae e’n debygol o argymell un neu ragor o’r dewisiadau hyn:  eich atgyfeirio at lawfeddyg; prawf gwaed; biopsi; pelydr-x; sganiad uwchsain.  Diben y profion hyn yn y lle cyntaf yw cael gwybod a ydych chi’n dioddef gan ganser y gaill ac yn ail, gweld yn union a yw’r canser wedi ymledu ac, os ydyw, i ba raddau mae hynny wedi digwydd.  Os ydych chi’n dioddef gan ganser y gaill a’i fod yn cael ei ganfod yn brydlon ac nad yw’r canser wedi ymledu, bydd y driniaeth fel rheol yn ymwneud â chael llawdriniaeth er mwyn cael gwared â’r gaill ganseraidd.  Os yw’r canser wedi ymledu, bydd y driniaeth hon fel arfer yn cael ei dilyn gan driniaeth cemotherapi am dri i bedwar mis.

Gall y driniaeth ar gyfer canser y gaill fod yn un ddwys iawn, ond ni fydd y rhan fwyaf o gleifion sy’n cael iachâd llwyr ar ôl canser y gaill, yn dioddef unrhyw sgil-effeithiau hirdymor ar ôl y driniaeth.  Yn ôl pob tebyg bydd eich ffrwythlondeb a’ch bywyd rhywiol yn cael adferiad llwyr ar ôl i’r driniaeth ddod i ben.

Os bydd rhaid cael gwared ag un o’ch ceilliau dylech gael y cynnig canlynol; sef gosod un prosthetig yn ei lle.  Bydd y gaill iach arall yn tueddu i gynhyrchu digonedd o sberm i wneud iawn am y golled.

Hunanarchwiliad am Ganser y Gaill

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

  • Dylech gymryd y camau rhwydd hyn yn rheolaidd.  Ar ôl cael bath neu gawod gynnes mae croen y ceillgwd yn llacio ac wedyn fe allai fod yn haws i chi wneud archwiliad trylwyr.  Mae’r rhan fwyaf o lympiau a geir ar y ceilliau yn ddiberygl ond os ceir unrhyw newidiadau mewn maint, siap neu bwysau, yna dylech fynd at eich Meddyg Teulu am archwiliad.
  • Defnyddiwch gledr eich llaw i gynnal y ceillgwd er mwyn ichi ddod yn gyfarwydd â maint a phwysau’r ddwy gaill.
  • Archwiliwch y ddwy gaill trwy rolio’r naill a’r llall rhwng eich bysedd a’ch bawd.  Teimlwch, yn ofalus, er mwyn gweld a oes lympiau neu chwyddiadau yno neu a yw’r ffyrfder wedi newid o gwbl.
  • Mae gan y ceilliau epididymis ar eu pen uchaf, sy’n mynd â sberm i’r pidyn.  Peidiwch â chynhyrfu os byddwch chi’n teimlo hyn – mae’n iawn, does dim byd o’i le.
  • Os byddwch chi’n archwilio eich hun yn rheolaidd fe ddowch yn fwy ymwybodol o deimlad a maint arferol eich ceilliau er mwyn ichi sylwi mewn da bryd ar unrhyw beth na ddylai fod yno.  Os gwelwch chi rywbeth anarferol, cofiwch fynd i weld eich Meddyg Teulu cyn gynted ag y gallwch.

 Cysylltiadau Buddiol

www.macmillan.org.uk                                    0808 808 2020 (9am-9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)

youthline@macmillan.org.uk                           0800 808 0800 (9am-9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)

www.nhsdirect.nhs.uk                                     0845 46 47

www.samaritans.org.uk                                  08457 90 90 90

www.teencancer.org                                       0207 387 1000

www.cancerbacup.org.uk                               0808 800 1234 (9am-8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)

www.mariecurie.org.uk                                   0800 716 146

www.childline.org.uk                                      0800 1111

www.crusebereavementcare.org.uk                 0844 477 9400(Llinell Gymorth o Ddydd i Ddydd)

0808 808 1677(Llinell Gymorth i Bobl Ifanc)

www.clicsargent.org.uk                                  0800 197 00689 (9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)

www.click4tic.org.uk/Home                             TIC (Gwybodaeth am Ganser i’r Glasoed)

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham