Ffordd newydd i bobl ifanc gael dweud eu dweud yng Nghymru

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Senedd Ieuenctid Cymru – Un Lle, Pob Llais

Mae ffordd gwbl newydd i bobl ifanc gael dweud eu dweud ar yr hyn sy’n bwysig iddynt yng Nghymru.

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn llwyfan i sicrhau bod lleisiau ifanc yn cael eu clywed, gyda 60 o bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed ar fin dod yn Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru. Bydd  pobl ifanc yn dewis 40 ohonynt drwy bleidleisio drostynt yn yr etholiad ym mis Tachwedd 2018. Bydd yr 20 sydd ar ôl yn cael eu dewis gan sefydliadau partner.

Mae dod â’r Senedd at ei gilydd yn y modd hwn yn sicrhau bod cynrychiolaeth o amrywiaeth eang o grwpiau o bobl ifanc o bob rhan o Gymru.

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Mae hon yn ffordd wych i bobl ifanc yn Wrecsam gael dweud eu dweud ar benderfyniadau a wneir yng Nghymru. Mae’n gyfle gwych i annog pobl ifanc i ymwneud â gwleidyddiaeth, neu hyd yn oed i gychwyn eu gyrfa eu hunain mewn gwleidyddiaeth. Byddwn yn annog pawb sydd rhwng 11 ac 18 oed i gymryd rhan a chofrestru i bleidleisio yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru.”

Mwy am bleidleisio

Ydych chi’n adnabod rhywun fyddai’n ddelfrydol fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru?

Os ydych yn byw yng Nghymru neu’n cael eich addysgu yng Nghymru a rhwng 11 ac 18 oed, gallwch roi eich enw ymlaen i ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

Fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru byddwch yn nodi, yn trafod ac yn codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n bwysig i bobl ifanc ar draws Cymru.

Darganfod mwy am sut i sefyll fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

Sut mae’n gweithio?

Bydd pob sesiwn dwy flynedd o Senedd Ieuenctid Cymru yn:

  • Grymuso pobl ifanc Cymru i nodi, codi ymwybyddiaeth o faterion pwysig a’u trafod.
  • Gwrando ar bobl ifanc Cymru, cynrychioli eu barn a gweithredu ar y materion sy’n bwysig
  • Gweithio’n agos gyda phobl ifanc yng Nghymru

Dyddiadau allweddol…

  • Cofrestru ar gyfer pleidleisio – 28 Mai – 16 Tachwedd 2018
  • Etholiadau – 5 Tachwedd – 25 Tachwedd 2018
  • Ymgeisio i fod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru – 3 Medi – 30 Medi 2018
  • Canlyniadau etholiad – cyhoeddir ym mis Rhagfyr 2018

Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth am Senedd Ieuenctid Cymru

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham