Fy mhrofiad i fel Aelod o’r Senedd Ieuenctid (ASI)

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Fy enw i yw Yasmin Sides. Ar hyn o bryd, fi yw aelod gweithredol ardal Wrecsam yn y Senedd Ieuenctid. Ganol mis Tachwedd y llynedd, cefais gyfle i fynd i ddadl flynyddol yn Nhŷ’r Cyffredin. Buom yn trafod y pum mater pwysicaf y pleidleisiodd rhai 11-18 oed drostynt o bob cwr o’r DU, sef: Pleidleisio’n 16 oed, Trechu Hiliaeth a Gwahaniaethu ar sail Crefydd, Rhoi stop ar doriadau sy’n effeithio ar y GIG, Cwricwlwm i’n paratoi at fywyd a Chludiant. Canlyniadau’r DU gyfan – Pleidleisio’n 16 oed a ddaeth i’r brig wrth drafod.

Mae ASIau ar draws y DU yn gweithio i roi llais i bobl ifanc trwy weithio gyda’u ASau, rhai sy’n penderfynu, cynghorwyr a grwpiau ieuenctid lleol ar faterion y mae pobl ifanc wedi pleidleisio drostynt.

Roedd y cyfle i eistedd yn Nhŷ’r Cyffredin fel ASI, gyda chymaint o bobl ifanc brwdfrydig ac egnïol o’m hamgylch, yn brofiad mor anhygoel ac yn agoriad llygad. Rwy’n edrych ymlaen at weddill fy nghyfnod fel ASI a’r heriau sy’n dod law yn llaw gyda’r rôl.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth, yna cysylltwch â Senedd yr Ifanc Wrecsam:  

Canolfan Fictoria, 11-13 Stryt yr Allt, Wrecsam, LL11 1SN – 01978 317961

youngvoices@wrexham.gov.uk

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham