Grŵp Cynghori Pobl Ifanc

Nod eiriolaeth ail lais yw helpu pobl ifanc i leisio eu barn.
Felly ni fyddai’n gwneud synnwyr cael gwasanaeth sy’n cael ei redeg gan oedolion a dim mewnbwn gan bobl ifanc o gwbl …. dyna lle rydym ni’n dod i mewn.

Ni yw’r Grŵp Cynghori ar gyfer y Gwasanaeth Eiriolaeth Ail Lais; daeth rhai ohonom i’r grŵp cynghori ar ôl derbyn cefnogaeth eiriolaeth ac mae rhai ohonom wedi dod i gwrdd â phobl a gwneud ffrindiau.

Mae rhai o’r pethau rydym wedi cyfrannu atynt hyd yma yn cynnwys;

• Rydym yn cyfweld holl eiriolwyr gwirfoddol newydd cyn iddynt ddechrau’r hyfforddiant.
• Rydym yn ymgynghori ar bolisïau a chanllawiau newydd a anelwyd at bobl ifanc, rydym yn gadael iddynt wybod ein barn
• Rydym yn helpu i hybu’r gwasanaeth; rydym wedi cynhyrchu fideo yn ddiweddar.
• Dylunio unrhyw gyhoeddusrwydd ar gyfer Ail Lais

Rydym hyd yn oed wedi dylunio’r dudalen hon!

Jacob

Cerys

Yn y grŵp cynghori rydym wedi dysgu sgiliau newydd sy’n cynnwys hyfforddiant cyfweld, roedd hyn yn ein helpu i gyfweld eiriolwyr gwirfoddol newydd. Mae ein horiau i gyd wedi eu cofnodi gyda Gwirfoddolwyr y Mileniwm a Gwobr Sêr yn Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam fydd yn edrych yn wych ar ein CV.

Os hoffech ymuno â’r grŵp cynghori neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod ychydig mwy am yr hyn rydym yn ei wneud dewch draw ddydd Mawrth i’r Siop Wybodaeth. Rydym yn dechrau tua 5.00pm, peidiwch â phoeni os ydych ychydig yn hwyr, a’n bod yn gorffen tua 7.00pm, gall hyn amrywio gan ein bod yn rhedeg drosodd weithiau.

Gallwch gysylltu â Lowri y Cydlynydd Eiriolaeth ar

Ffôn: 01978 295600
E-bost: Lowri.kendrick@wrexham.gov.uk

 


Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham