Gwasanaeth Atal Digartrefedd Ieuenctid Wrecsam

Rydym yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n cael problemau gyda’u llety ar sail gwirfoddol.

Efallai bod yna ystod eang o resymau pam eich bod chi’n cael problemau gyda’ch llety, fel anghytundebau ynghylch ffiniau, tensiynau yn y cartref, cyffuriau ac alcohol, aros yng nghartref teulu ffrind.

Gall ein tîm eich helpu i edrych ar y rhesymau hyn a’ch cefnogi chi i’w goresgyn. Efallai y byddwn yn eich cysylltu â gwasanaethau sy’n arbenigo yn y maes hwnnw, neu mewn unrhyw ffordd arall, megis llenwi ffurflenni, cyrchu darparwyr addysg, eich cyfeirio at gyfryngu.

Gallwn eich cefnogi chi CYN i chi fynd i argyfwng. Rydym am leihau nifer y bobl ifanc sy’n dod yn ddigartref.  Canolbwyntio ar bobl ifanc â risg uchel o ddod yn ddigartref, gan aros yn y cartref/rhwydwaith teuluol lle bo’n ddiogel gwneud hynny.

Dyma restr o rai o’r pethau a all gynyddu eich risg o ddod yn ddigartref:

  • Peidio mynd i’r ysgol neu gael eich gwahardd.
  • Mynd yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol
  • Rhedeg i ffwrdd neu beidio mynd adref gyda’r nos
  • Camddefnyddio sylweddau

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni:

  • Cymorth a chyngor i’ch galluogi chi i wneud penderfyniadau gwybodus am eich ffordd o fyw.
  • Gwybodaeth ffeithiol a pherthnasol yn seiliedig ar eich anghenion.
  • Gallwn gwrdd â chi yn rhywle sy’n gyfleus i chi
  • Clust i wrando arnoch chi

Gallwch atgyfeirio eich hun ar gyfer y gefnogaeth gyfrinachol hon sy’n rhad ac am ddim, neu gallwch ofyn i rywun rydych yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo/ynddi i’ch atgyfeirio chi.  Mae ffurflen atgyfeirio syml y mae’n rhaid ei chwblhau.

Os nad ydych chi’n siŵr a allwn ni eich helpu chi, mae croeso i chi gysylltu ag un o’r tîm, ein lleoliad ni yw

Lucy – 07585 103 647

Jenna – 07585 103 648

Deb – 07585 103 705

Katie – 07585 103 649

Info Shop, Lambpit Street, Wrexham, LL11 1AR or you can email us on YHPS@wrexham.gov.uk or call the office 01978 295580.

Siop Wybodaeth, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AR, neu gallwch anfon e-bost atom ni yn YHPS@wrexham.gov.uk neu ffonio’r swyddfa ar 01978 295580.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham