Iechyd Rhywiol

Mae iechyd rhywiol yn llawer mwy na phenderfynu ar ddull atal cenhedlu a diogelu eich hunain rhag cael heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, mae ynghylch gwneud dewisiadau positif i chi a’ch cariad.

Mae iechyd rhywiol a dysgu sut i edrych ar ôl eich hun yn bwysig.

Gall unrhyw un sy’n cael rhyw fod mewn perygl o ddal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI). Nid yw rhai pobl yn dangos unrhyw symptomau ac mae canlyniadau difrifol os nad yw heintiau yn cael eu gadael eu heb driniaeth.  Mae’n bwysig defnyddio condomau fel nad ydych yn dal haint.

Yn y Siop Wybodaeth yn Wrecsam, rydym yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 26 oed, mae rhan o’r gwasanaeth rydym yn cynnig gwasanaeth iechyd rhywiol lle gall pobl ifanc gael condomau a dulliau eraill o atal cenhedlu am ddim.  Mae’n wasanaeth cyfrinachol, sy’n golygu na fyddwn yn dweud wrth unrhyw un arall oni bai ein bod yn poeni am ddiogelwch yr unigolyn ifanc.  Os ydych yn ansicr ynghylch y gyfraith mewn perthynas â rhyw, mae gan wefan The Mix wybodaeth gwych i chi ei ddarllen.

Os ydych yn meddwl am atal cenhedlu a ddim yn siŵr o’r hyn sydd ar gael, neu beth sy’n addas i chi, mae gan Brook  wefan gwych sydd yn edrych ar ddulliau gwahanol o atal cenhedlu sydd ar gael a pha un a all fod yr yn gywir i chi.  Mae’r GIG wedi creu fideo sy’n edrych ar atal cenhedlu, mae’n eithaf hir ond mae’n rhoi llawer o wybodaeth.

Mae llawer mwy i Iechyd Rhywiol nac atal cenhedlu yn unig, mae’n ymwneud â newidiadau i’r corff, mae pethau’n newid fel yr ydym yn mynd yn hŷn a’n corff yn datblygu.  Gall fod yn anodd ceisio deall beth sydd yn normal a beth sydd ddim, os nad ydych yn siŵr, edrychwch ar  a’r Cymdeithas Cynllunio Teulu.

Dolenni cyswllt defnyddiol

Os hoffech siarad â rhywun ynghylch unrhyw beth a soniwyd amdano uchod, gallwch alw heibio’r Siop Wybodaeth a siarad gyda naill ai gweithiwr ieuenctid neu nyrs.  Hefyd mae nyrsys o fewn meddygfeydd meddyg teulu a fyddai’n hapus iawn i helpu gydag unrhyw wybodaeth sydd arnoch angen.

Ychydig o Sefydliadau Cenedlaethol

Brook  – darparwr blaenllaw yn y DU sy’n darparu gwasanaethau a chyngor am iechyd rhywiol i bobl ifanc dan 25 oed.

Galw Iechyd Cymru  y gwasanaeth cyngor a gwybodaeth am iechyd sydd ar gael 24 awr y dydd, bob dydd.

The Mix – cymorth hanfodol ar gyfer unigolion dan 25 oed

 

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham