Mae gennyf gyfaddefiad …..Helen Jones Tîm Ysgolion Iach

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Rydw i’n gwau. Ie dyna chi. Rydw i’n gwau.

Na, does gen i ddim gwallt gwyn.

O, a dydw i ddim yn Nain i neb.

Mae’n rhywbeth rydw i wirioneddol yn ei fwynhau.  Byddaf yn gwneud pêl o wlân yn rhywbeth arbennig, rhywbeth y gallaf ei wisgo, rhywbeth unigryw.  Nid oes gan unrhyw un arall yr un fath.   – Pa mor cŵl ydi hynny?

Mae rhai pobl yn mwynhau chwarae gemau cyfrifiadurol ar-lein, eraill ar ‘snap chat’…wel gallaf wau a gwylio teledu ar yr un pryd.

Rydw i hefyd yn ymlacio, a dyna rywbeth mae pob un ohonom ei angen yn ein bywydau – ymlacio ychydig.  Rhywbeth i gymryd ein meddyliau oddi ar y diwrnod rydym wedi ei gael, problemau sy’n eich poeni, neu’r ffaith nad oes dim i’w wylio ar y teledu.

Rydw i wedi gwau sanau, hetiau, menig a theis ond mae gen i uchelgais i wau rhywbeth mwy, gwell, ac i mi fy hun – felly dyma yw’r hyn rydw i’n bwriadu ….

Unwaith y byddaf wedi gorffen (ac efallai y bydd yn cymryd cryn amser i mi) mi ddangosaf lun o’r hyn rydw i wedi ei lunio a gweld os allaf eich darbwyllo chi ei fod o’n beth da i fod ychydig yn anarferol!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham