Meddyliwch cyn llyncu peint ar eich talcen…

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Dros y gaeaf y llynedd, lansiom brosiect hirdymor i annog pobl i yfed yn gyfrifol yng nghanol y dref.

Rydym wedi gweithio â Sefydliad Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl i werthuso’r data gan bobl y buom yn eu harolygu yng nghanol y dref, a rydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â nifer o bartneriaid i wneud llawer o waith pwysig.

Yn ôl y canlyniadau yr ydym wedi’u casglu hyd yma ar gyfer y prosiect Yfed Llai, Mwynhau Mwy, mae’n ymddangos bod yr ymgyrch wedi dechrau’n wych.

Mae’r ymchwil yr ydym wedi’i gasglu yn awgrymu bod gostyngiad wedi bod yng ngwerthiant alcohol i bobl sydd wedi meddwi yn safleoedd trwyddedig Wrecsam – gan gynnwys tafarndai a chlybiau, ers i’r ymgyrch ddechrau, yn ogystal â hynny, mae’n ymddangos bod ymwybyddiaeth pobl ynghylch cyfreithiau sy’n ymwneud â gwerthu alcohol i bobl sydd wedi meddwi wedi gwella. 

Cyflwynwyd yr ymgyrch am y tro cyntaf yn Wrecsam ym mis Tachwedd y llynedd, a’r nod yw codi ymwybyddiaeth am y gyfraith yn ymwneud â gwerthu alcohol i bobl sydd wedi meddwi a pherswadio pobl i beidio ag yfed cyn mynd am noson allan i Wrecsam.

Prif amcanion Yfed Llai, Mwynhau Mwy yw:

  • Codi ymwybyddiaeth am y gyfraith yn ymwneud â gwerthu a phrynu alcohol i bobl sydd wedi meddwi
  • Cefnogi staff bar i wrthod gwerthu alcohol i bobl sydd wedi meddwi
  • Perswadio pobl i beidio ag yfed gormod gartref cyn mynd am noson allan i Wrecsam
  • Hyrwyddo yfed yn gyfrifol yn Wrecsam

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r ymgyrch Yfed Llai Mwynhau Mwy yn annog pobl i gyfyngu ar, a meddwl am faint y maent yn ei yfed ar noson allan, a allai, yn ei dro, eu rhwystro rhag mynd i helynt yn nes ymlaen yn y noson.

“Mae’r ymgyrch wedi cael effaith gadarnhaol ar economi’r nos yn Wrecsam, a byddai’n wych gweld sut y gallwn ni ychwanegu at y llwyddiannau hyn yn arwain at y Nadolig ac yn ystod digwyddiadau allweddol dros y flwyddyn.”

Fel rhan o’r ymgyrch, rydym wedi ymuno â Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), y Bwrdd Cynllunio Ardal, Prifysgol Glyndŵr a Choleg Cambria i ddarparu:

  • Sesiwn hyfforddi i bob un o’r 26 safle trwyddedig a sesiwn hyfforddi arall i’r 26 o brif swyddogion diogelwch drws
  • 2 sesiwn hyfforddi gyda chapteiniaid chwaraeon a chlybiau cymdeithasol/cymdeithasau’r Brifysgol.
  • Ymwelodd yr heddlu a chydlynydd y prosiect â phob un o’r 26 safle trwyddedig, darparwyd posteri wedi’u fframio iddynt a thrafodwyd eu dyletswyddau ynghylch y gyfraith yn ymwneud â gwerthu alcohol i bobl sydd wedi meddwi.
  • Arolygon i bobl ar noson allan yn Wrecsam i fesur eu hymwybyddiaeth ynghylch y gyfraith
  • Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac erthyglau newyddion i godi ymwybyddiaeth pobl ynghylch y peryglon o fod yn ddiamddiffyn o ganlyniad i yfed gormod, yn ogystal ag atgoffa pobl am y cyfreithiau yn ymwneud â phrynu diodydd i ffrindiau sydd wedi meddwi.

Mae’r ymgyrch hwn yn seiliedig ar raglen a gafodd ei chyflwyno am y tro cyntaf yn Sweden, ac mae’r dull yn cyfuno gweithio mewn partneriaeth, ennyn cefnogaeth y gymuned, hyfforddiant a gorfodi’r gyfraith.

Meddai Ailson Watkin, cydlynydd y prosiect “Mae’r prosiect, hyd yma, wedi bod yn llwyddiannus, ond rydym yn ymwybodol bod llawer mwy o waith i’w wneud. Bydd Yfed Llai Mwynhau Mwy yn parhau dros y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig, a byddwn yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ac ychwanegu at lwyddiannau’r llynedd.

“Ein nod yw parhau i wneud Wrecsam yn lle diogel i fynd am noson allan, a gwneud pobl yn ymwybodol o beryglon yfed gormod sy’n eu rhoi mewn sefyllfa ddiamddiffyn.”

Cyhoeddwyd adroddiad gwerthuso llawn o Gynhadledd Alcohol Gogledd Cymru heddiw, ac mae ar gael i’w weld yma (ychwanegu dolen i’r wefan)

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham