SEXTEMBER

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

 

Y rhan fwyaf o’r amser, mae unigolion yn ei gweld yn anodd siarad am broblemau iechyd rhyw. Mae Ymgyrch SEXtember yn ceisio annog unigolion i drafod materion iechyd rhyw yn agored a heb gywilydd yn ystod mis Medi (a drwy’r flwyddyn).

Eleni, pwyslais yr ymgyrch yw annog unigolion i gael hwyl yn ddiogel drwy wisgo condom.

Gwisgwch gondom!

Gallwch gael hwyl a bod yn ddiogel…gwisgwch gondom. Pam trafferthu?

Maent yn ymarferol, yn hawdd eu cario, a dyma’r ffordd fwyaf fforddiadwy o osgoi heintiau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhywiol a beichiogrwydd heb ei gynllunio.

Maent yn rhoi tawelwch meddwl i chi fel y gallwch ymlacio a chanolbwyntio ar yr hwyl. Felly, gwisgwch gondom!

Yng Ngogledd Cymru, mae condomau ar gael o lawer o lefydd megis fferyllfeydd, archfarchnadoedd, peiriannau gwerthu ac ar-lein. Prynwch gondomau sydd â nod barcud y BSI a’r nod CE Ewropeaidd. Mae hyn yn golygu eu bod wedi cael eu profi i’r safonau diogelwch gofynnol. Gallwch gael condomau’n rhad ac am ddim gan y GIG mewn ffordd ddiffwdan a chyfrinachol, hyd yn oed os ydych dan 16 oed. Gallwch gael mwy o wybodaeth am gondomau ar wefan GIG Cymru

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham