Straen Arholiadau

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Oes gennych chi arholiadau ar hyn o bryd?

Mae straen yn digwydd pan fyddwn yn teimlo dan bwysau; gall hwn fod yn ddigwyddiad pwysig fel priodas neu sefyllfaoedd fel arholiadau.    Ewch i’r dolenni isod i’ch helpu i ymdopi gyda’ch arholiadau, gall fod yn gyfnod pryderus iawn i rai, gobeithio y bydd yr erthygl hon yn eich helpu i fynd drwy eich arholiadau.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Mae’r fideo yn son am gwneslwyr yn yr ysgol, i wybod mwy am gwnsela, ewch i Outside In counselling , weithiau mae siarad yn gallu helpu.

Mae Student Minds yn cynnwys cyngor gwych ac mae’n cynnwys canllaw goroesi i’w lawrlwytho.

Mae ChildLine yn edrych ar reoli straen a phryder yn ystod arholiadau gyda chyngor gwych ar sut i reoli eich hwyliau.  Mae ganddynt daflen wych y gallwch ei lawrlwytho hefyd gyda cyngor ar sut i ofalu am eich hun.

Mae gan The Mix  apiau ar gael i’ch helpu i leihau straen, mae ganddynt hyd yn oed ap i’ch helpu i ysgogi eich hun ar adeg pan rydych angen eich ysgogi!

Mae Which wedi paratoi offer gwych i’ch helpu i gynllunio ar gyfer adolygu, mae cael cynllun a glynu ato yn helpu i leihau straen a phryder.

Peidiwch â phoeni os nad ydych yn cael y graddau rydych eu hangen, gwyliwch y fideo hwn i gael cyngor doeth.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Trwy hyn i gyd rydych angen sicrhau eich bod yn cael digon o gwsg, mae blinder yn cael effaith sylweddol ar ein gallu i ganolbwyntio ac ymgymryd â thasgau.    Cymerwch olwg ar y fideo hwn…

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham