Y Wifren Wib

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Wel, o’r diwedd, llwyddais i fynd ar y wifren wib ym Methesda ar ôl iddo gael ei ganslo ddwywaith oherwydd tywydd gwael.  Beth alla i ei ddweud, roedd yn ANHYGOEL!

Roedd y daith yn costio £60 ac yn para dwy awr, cewch eich gwisgo mewn troswisg a’ch harneisio, ac mae llawer o archwiliadau diogelwch!  Byddwch yn dechrau ar wifren fach (ddim mor fach â hynny) i chi gael arfer cyn y wifren wib fawr.  Unwaith eto, mwy o archwiliadau diogelwch, ac yna ar ôl i chi gyfrif i lawr o 3, byddwch yn hedfan drwy’r awyr.  Ar waelod y wifren sip bach, byddwch yn cyrraedd pen y chwarel mewn tryc mawr, lle byddwch yn paratoi ar gyfer y wifren wib gyflymaf yn y byd! Byddwch yn cael sgwrs am ddiogelwch a chyfarwyddyd o’r hyn i’w wneud os byddwch yn cael trafferthion; y cyngor hwn oedd peidio â mynd allan o’ch harnais!  Yna byddwch yn paratoi ar gyfer y wifren wib, yn cael profion diogelwch ac yn cyfrif i lawr o 3. Alla i ddim disgrifio sut mae 100 milltir yr awr yn teimlo pan fyddwch yn gwibio drwy’r awyr, ar un adeg collais fy anadl a bron i mi gau fy llygaid, ond wnes i ddim ac roedd yr holl brofiad yn WYCH!!!

roedd yn brofiad anhygoel, mor hapus i gyrraedd y diwedd.  Yn bendant, mi fydda i’n mynd eto, edrychwch ar eu gwefan i gael rhagor o wybodaeth http://www.zipworld.co.uk/location/detail/bethesda

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham