Wythnos Ymwybyddiaeth o’r Haul

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Does neb eisiau treulio’r haf i gyd dan do, ac mae rhywfaint o heulwen yn gallu bod yn dda i ni, gan helpu’r corff greu fitamin D a rhoi teimlad o ffyniant cyffredinol i lawer ohonom wrth i ni fwynhau gweithgareddau awyr agored.
Mae ffyrdd o gael lliw haul iach a gofalu am eich croen ar yr un pryd; felly pan fyddwch allan yn yr haul yr haf hwn, dyma ychydig o awgrymiadau diogelwch.

Gwisgwch grys – Gorchuddiwch eich croen gyda dillad a pheidiwch ag anghofio gwisgo het sy’n amddiffyn eich wyneb, gwddf a chlustiau.

Gwnewch am gysgod – Mae’r haul ar ei boethaf rhwng 11am a 3pm.

Heglwch o’r haul – cyn i’ch croen gael cyfle i losgi, does neb yn hoff edrych fel tomato.

Ewch am yr eli – Peidiwch ag anghofio rhoi digon o eli haul yn aml pan fyddwch allan yn yr haul. Edrychwch am ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) o 15 neu fwy gan ei fod yn amddiffyn rhag UVA ac UVB – ar gyfer coginio mae olew nid ar eich croen.

Wrth ddefnyddio eli haul cofiwch – mae’n gred gyffredin y gallwch ffeirio i eli haul gydag ffactor amddiffyn is pan fydd eich croen wedi cael lliw haul, ond nid yw hynny’n wir.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Edrychwch ar eich croen

Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r marciau ar eich croen fel y gallwch weld os bydd unrhyw newidiadau. Edrychwch am fannau geni sydd wedi newid neu sydd newydd ffurfio neu unrhyw newid lliw eich croen. Mae’n arferol i fannau geni newydd ymddangos nes byddwch o gwmpas 18 oed. Y ffordd orau o edrych ar eich croen yw:

Edrych ar eich gwddf a blaen eich corff uchaf yn y drych. Cael cyfaill neu riant i edrych ar groen eich pen a’ch cefn hefyd.

Edrych ar eich breichiau a’r ddau benelin, gan gynnwys y ceseiliau a’r dwylo.

Edrychwch ar gefn a blaen eich corff isaf, a hyd yn oed rhwng bysedd eich traed

Os oes unrhyw newidiadau yn eich croen neu os ydych yn ansicr dylech fynd i weld eich meddyg.
……Os ydwch yn amheus, sicrhewch.

Math o groen

Canser y croen yw un o’r canserau mwyaf cyffredin yn y DU ac mae nifer yr achosion yn cynyddu’n frawychus o gyflym. Y newyddion da yw y byddai modd osgoi mwyafrif yr achosion hyn. Ymbelydredd UV o’r haul sy’n achosi’r rhan fwyaf o ganserau’r croen. Os byddwn yn amddiffyn ein hunain rhag yr haul gallwn leihau’r perygl. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl ifanc y mae eu croen yn feinach a hawdd ei niweidio.

Gall llosg haul mewn plentyndod ddyblu’r perygl y cewch ganser y croen. Fyddwch chi ddim yn gweld y difrod ar unwaith oherwydd bod canser y croen yn gallu cymryd blynyddoedd i ddatblygu.

Nid yw croen pawb yn rhoi’r un faint o amddiffyniad rhag yr haul. Dyna pam fod angen i chi wybod pa fath o groen sydd gennych.

Math I – Llosgi’n aml, anaml yn cael lliw haul. Tueddu i fod â brychau haul, gwallt coch neu olau, a llygaid glas neu wyrdd.

Math II – Fel arfer yn llosgi, weithiau’n cael lliw haul. Tueddu i fod â gwallt golau, a llygaid glas neu frown.

Math III – Weithiau’n llosgi, fel arfer yn cael lliw haul. Tueddu i fod â gwallt a llygaid brown.

Math IV – Anaml yn llosgi, yn aml yn cael lliw haul. Tueddu i fod â llygaid a gwallt brown tywyll.

Math V – Croen brownddu’n naturiol. Yn aml gyda llygaid a gwallt brown tywyll.

Math VI – Croen brownddu’n naturiol. Fel arfer gyda llygaid a gwallt brownddu.

Os yw eich croen o Fath I neu II bydd angen i chi gymryd y gofal mwyaf yn yr haul, a defnyddio eli haul SPF ac amddiffyniad uchel rhag UVA. Os yw eich croen o Fath V neu VI, yn gyffredinol bydd angen i chi ddefnyddio amddiffyniad yn unig pan fydd yr haul yn gryf ond, serch hynny, cofiwch ddal i ddefnyddio eli haul.

Peidiwch fyth â gadael i’ch croen losgi, beth bynnag yw math eich croen

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham