Bywydau Ifanc Wrecsam – Y ffordd mae technoleg yn effeithio ar bobl ifanc yn Wrecsam

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Bywydau Ifanc Wrecsam

Mae Wrecsam Ifanc wedi ymuno â myfyrwyr Coleg Cambria yn Wrecsam i roi cipolwg ar fywydau pobl ifanc yn Wrecsam.  Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf byddwn yn arddangos eu herthyglau, sy’n cynnwys ‘Bywyd adolygwr pêl-droed’, ‘Barn am Brexit ar gyfer pobl ifanc’, ‘Taith i’r lleuad’, ‘Sut i adeiladu cyfrifiadur’, ‘Fy hoff albwm’, ‘Fy hoff gig’, ‘Pethau y buaswn yn newid yn Wrecsam’, ‘Pethau dw i’n eu hoffi am Wrecsam’.

Mae’r prosiect yn gyfle i chi siarad am lawer o bethau (dim byd anweddus) a gallwch wneud hynny drwy gyfrwng fideo, erthygl neu animeiddiad.   Os hoffech chi gymryd rhan ym mhrosiect ‘Bywydau Wrecsam Ifanc’ yna cysylltwch â ni.

Y ffordd mae technoleg yn effeithio ar bobl ifanc yn Wrecsam.

 

Mae’r traethawd hwn yn sôn am y ffordd mae technoleg a’r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi pwysau ar bobl ifanc. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o gysylltu gyda ffrindiau a theulu ond yn aml gall defnyddwyr eraill gael dylanwad afiach ar y ffordd mae pobl yn edrych, yn ymddwyn a’r hyn ddylen nhw ei wneud mewn sefyllfaoedd penodol.

 

Mae pobl fel Kim Kardashian yn postio ffotograffau mae pobl yn edrych i fyny arnyn nhw bob dydd. Fodd bynnag, cyn iddyn nhw bostio ffotograff maen nhw’n gallu pôsio a golygu i wneud eu hunain i edrych yn ‘berffaith’ er mwyn i’r ffotograff fod o safon ddigon uchel ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r holl ffotograffau ffug hyn yn golygu ei bod mynd yn fwy anodd drwy’r amser i bobl geisio cyrraedd y safonau hyn, yn wir, mae bron yn amhosibl eu cyrraedd. Mae hyn yn golygu bod pobl yn dechrau casáu eu nodweddion eu hunain ac mae’n golygu eu bod yn teimlo’n anghyfforddus yn eu cyrff eu hunain.

 

Mae hyn yn cael effaith ar Wrecsam gan fod rhai o’r dillad mae’r bobl enwog yn eu gwisgo ar y cyfryngau cymdeithasol yn gallu costio miloedd o bunnoedd, a does gan bobl gyffredin ddim arian o’r fath, yn enwedig y bobl ifanc sy’n cael eu dylanwadu fwyaf. Gall hyn arwain at bwysau i gadw a phrynu dillad sy’n costio llawer iawn o arian. Gallai hefyd wneud i bobl nad ydyn nhw’n gallu fforddio’r dillad hyn deimlo eu bod yn cael eu cau allan ac nad ydyn nhw’n ddigon da gan nad oes ganddyn nhw’r arian i ffitio i mewn gyda’r bobl eraill.

 

Gall hyn hefyd achosi rhwyg rhwng grwpiau oherwydd gall pobl â mwy o arian ystyried eu bod yn well na phobl heb arian, gan olygu y gallen nhw dechrau datblygu personoliaeth narsisaidd. Gallai’r pwysau i gael dillad drud hefyd olygu fod bwlio yn fwy tebygol gan fod “rheswm” dros eu bwlio.

 

Gall hyn hefyd fod yn broblem gyda thechnoleg wrth i bobl uwchraddio eu ffonau bob blwyddyn gan ddilyn tueddiadau’r enwogion. Gall hyn hefyd gostio miloedd o bunnoedd ac mae’r iphone diweddaraf yn costio dros £1000. Os nad oes gan bobl y ffôn diweddaraf mae hyn yn arwain at broblemau tebyg i’r broblem ddillad wrth i bobl gael eu bwlio a bydd yr unigolyn heb y cynnyrch diweddaraf yn teimlo’n israddol ac yn ddiwerth.

 

Nid yn unig mae Instagram yn broblem, gall llwyfannau eraill y cyfryngau cymdeithasol fel Snapchat achosi problemau i bobl ifanc Wrecsam. Mae hyn drwy seibrfwlio. Mae bywyd unigolyn ifanc yn Wrecsam yn eithaf anodd yn barod, ac mae’n llawer gwaeth os nad yw pobl yn gallu dianc rhag y pwysau hwn. Mae pwysau parhaus ynglŷn â’r pethau rydych yn eu postio ar eich stori, y pethau rydych yn eu hanfon at bobl a’r perygl bydd rhywbeth rydych yn ei ddweud yn cael ei rannu â phawb, gan achosi llawer o broblemau. Gall hyn arwain yr unigolyn ifanc i deimlo ei fod wedi’i ddal ac nad yw’n gallu dianc a gallai hyn olygu ei fod yn ceisio dianc neu ffoi gan ddefnyddio mecanweithiau ymdopi nad ydyn nhw’n rai da o reidrwydd. Mae cyfraddau hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn uwch nag mewn unrhyw grŵp oedran arall. Nid yw dylanwadau’r cyfryngau cymdeithasol a’r holl safonau afrealistig yn helpu hyn.

 

Yn gyffredinol, mae effaith y cyfryngau cymdeithasol ar bobl ifanc o bosibl yn niweidiol i’w llesiant. Fodd bynnag, mae’n galluogi pobl i fynegi eu hunain a dod o hyd i bobl sy’n debyg iddyn nhw. Mae angen sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu haddysgu am y cyfryngau cymdeithasol a sut i’w defnyddio’n gywir heb iddyn nhw gael effaith negyddol arnyn nhw neu eraill.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham