Yr Etholiad Cyffredinol

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Ydych chi wedi diflasu ar yr holl siarad ‘ma am bleidleisio? Dim diddordeb mewn gwleidyddiaeth ac yn credu ei fod yn wastraff amser?

Os felly, rydych chi allan ohoni’n lân.

Nid rhywbeth sy’n digwydd yn Senedd Llundain neu’r Cynulliad yng Nghaerdydd ydi gwleidyddiaeth. Mae gwleidyddiaeth yn rhywbeth rydym ni’n ei drafod pob dydd.

Ydi gwasanaeth yr oeddech chi’n ei dderbyn wedi dod i ben? Ydych chi erioed wedi cael eich trin yn annheg? Ydych chi’n meddwl bod angen newid rhywbeth er gwell, neu gadw rhywbeth yr un fath?

Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â’r wlad rydym ni’n byw ynddi, ac fe ddylem ni gael dweud ein dweud am y ffordd y mae’r wlad yn cael ei rhedeg. O’r bobl sydd yn ei rhedeg i’r rhaglenni sydd ganddyn nhw a’r newidiadau y mae arnyn nhw eisiau eu gwneud. Dyma pam bod pleidleisio yn bwysig. Fe ddylech chi gael dweud eich dweud am y pethau sy’n effeithio arnoch chi ac mae pleidleisio yn ffordd i chi wneud hynny ar lefel genedlaethol a lleol.

Dal yn ansicr? Efallai y bydd y fideo hwn yn eich helpu…

 

Does yna ddim digon o bobl ifanc yn cael llais pan fo pleidleisio yn y cwestiwn.

 

Mae etholiadau a bwrw’ch pleidlais yn gallu bod yn gymhleth ar adegau, ond mae ein tudalen am faterion pleidleisio a gwefan Mae Dy Bleidlais Di’n Cyfrif yn egluro pethau yn well ac yn darparu mwy o wybodaeth.

 

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham