{"id":209,"date":"2016-03-29T11:44:03","date_gmt":"2016-03-29T11:44:03","guid":{"rendered":"http:\/\/dev.thesprout.co.uk\/?page_id=209"},"modified":"2017-05-12T13:40:56","modified_gmt":"2017-05-12T13:40:56","slug":"terms-conditions","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/terms-conditions\/","title":{"rendered":"Telerau ac Amodau"},"content":{"rendered":"<h3>Polisi Preifatrwydd<\/h3>\n<p>Mae preifatrwydd ein defnyddwyr yn bwysig i ni ac rydym yn gofalu ein bod yn ei ddiogelu. O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mae gennym rwymedigaethau cyfreithiol tuag atoch chi yn y ffordd yr ydym yn trin data a gasglwn gennych. Rydym yn defnyddio technoleg gyfredol a meddalwedd amgryptio i ddiogelu\u2019ch data ac rydym yn cadw safonau diogelwch caeth er mwyn atal unrhyw fynediad anawdurdodedig ato. Ni fyddwn yn trosglwyddo\u2019ch manylion i unrhyw drydydd parti nac adrannau\u2019r llywodraeth oni bai\u2019ch bod yn rhoi caniat\u00e2d i ni wneud hynny, neu oni bai fod y gyfraith yn ein gorfodi i\u2019w datgelu neu&#8217;n caniat\u00e1u i ni wneud hynny.<\/p>\n<p>Pan fyddwch yn cofrestru fel defnyddiwr, byddwn yn casglu\u2019r wybodaeth sy\u2019n angenrheidiol i ddarparu\u2019r gwasanaeth gan gynnwys o leiaf eich enw a\u2019ch cyfeiriad e-bost. Ar \u00f4l i chi gofrestru, gallwch ail-edrych ar eich proffil ar unrhyw adeg i newid y manylion hyn neu i ddarparu manylion ychwanegol.<\/p>\n<p>Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth gennych os ydych yn cwblhau unrhyw ffurflenni arall ar ein safle neu os ydych yn cysylltu \u00e2 ni gyda sylwadau neu geisiadau penodol. \u00a0Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaeth sy&#8217;n cael ei bersonoli i bob un o\u2019n hymwelwyr. Rydym hefyd am roi rheolaeth i chi dros yr hyn a dderbyniwch o ganlyniad i gofrestru gyda Wrecsam Ifanc. Rydym yn casglu gwybodaeth am eich ymweliad \u00e2\u2019n safle fel mater o drefn. Defnyddir y wybodaeth hon i wneud eich ymweliad \u00e2\u2019n safle yn fwy effeithlon, ac i\u2019n helpu i olrhain dewisiadau pori ar ein safle fel y gallwn wneud gwelliannau rheolaidd.<\/p>\n<h3>Dolenni<\/h3>\n<p>Ym mhob rhan o\u2019r wefan byddwch yn dod o hyd i ddolenni hyperdestun i\u2019ch cysylltu \u00e2 lleoliadau eraill ar y rhyngrwyd. Defnyddir y dolenni er gwybodaeth yn unig ac ni fydd unrhyw ddolen yn cael ei chymryd fel ardystiad o unrhyw fath.<\/p>\n<p>Rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau fod y dolenni hyn yn briodol ar y pryd. Nid yw Wrecsam Ifanc o reidrwydd yn cytuno \u00e2\u2019r farn a fynegir yn y gwefannau cysylltiedig hyn ac nid oes ganddo unrhyw reolaeth drostynt.<\/p>\n<p>Ni all Wrecsam Ifanc warantu dibynadwyedd y dolenni hyn na ph\u2019un a fyddant yn gweithio ai peidio bob amser.<\/p>\n<h3>Cwcis<\/h3>\n<p>Mae nifer o wefannau yn gosod cwcis pryd bynnag y bydd defnyddiwr yn ymweld \u00e2\u2019u gwefan er mwyn olrhain llif y traffig. Ffeiliau testun yw cwcis sy\u2019n adnabod eich cyfrifiadur i\u2019r gweinydd. Mae\u2019n bosibl y bydd Wrecsam Ifanc yn defnyddio cwcis o dro i dro ond dim ond er mwyn rhoi gwell profiad i chi o\u2019r we. Nid ydym yn olrhain ymwelwyr unigol \u00e2\u2019r we.<\/p>\n<p>Os hoffech ddysgu mwy am gwcis edrychwch ar wefan <a href=\"http:\/\/www.aboutcookies.org\/\">AboutCookies.org<\/a>.<\/p>\n<h3>Cais am Wybodaeth<\/h3>\n<p>Gallwch ofyn am gopi o\u2019r wybodaeth sydd gennym amdanoch ar unrhyw adeg (mae\u2019n bosibl y byddwn yn codi t\u00e2l bach arnoch am hyn). Byddwn hefyd yn cywiro unrhyw anghywirdeb yn eich gwybodaeth ar eich cais.<\/p>\n<h3>Newidiadau i&#8217;r Polisi Preifatrwydd hwn<\/h3>\n<p>Os ydym yn gwneud newidiadau i\u2019n Polisi Preifatrwydd sy\u2019n effeithio ar y ffordd yr ydym yn ymdrin \u00e2\u2019ch data, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost. Gallwch wirio ein Polisi Preifatrwydd ar y dudalen hon ar unrhyw adeg.<\/p>\n<h3>Cysylltu<\/h3>\n<p>Os oes gennych unrhyw ymholiadau yngl\u0177n \u00e2\u2019ch gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau yngl\u0177n \u00e2\u2019n defnydd o\u2019r wybodaeth, cysylltwch \u00e2 ni \u2013 info@youngwrexham.co.uk<\/p>\n<h3>Hawlfraint<\/h3>\n<p>Mae\u2019r deunydd ar wefan Wrecsam Ifanc yn cael ei amddiffyn gan Hawlfraint Y Goron oni nodir yn wahanol. Rhaid i unrhyw un sy\u2019n dymuno defnyddio unrhyw wybodaeth a ganfyddir ar y wefan hon gysylltu \u00e2 ni yn info@youngwrexham.co.uk. Nid yw caniat\u00e2d i atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan Hawlfraint y Goron yn berthnasol i unrhyw ddeunydd ar y safle hwn a nodir fel hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael caniat\u00e2d i atgynhyrchu deunyddiau felly gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.<\/p>\n<h3>Lluniau<\/h3>\n<p>Mae\u2019r term lluniau yn cwmpasu lluniau llonydd a symudol, ffotograffau a logos.<\/p>\n<p>Mae lluniau ar y wefan naill ai\u2019n perthyn i Wrecsam Ifanc, y sefydliadau eu hunain, neu maent wedi\u2019u trwyddedu gan drydydd parti. \u00a0Ni ellir atgynhyrchu lluniau a gymerwyd gan drydydd parti mewn unrhyw fformat.<\/p>\n<p>Mae rhai lluniau sy&#8217;n perthyn i Wrecsam Ifanc na ellir eu hatgynhyrchu ac eraill y gellir eu hatgynhyrchu mewn rhai achosion, ond nid heb gymeradwyaeth o flaen llaw.<\/p>\n<p>Os ydych yn dymuno atgynhyrchu unrhyw luniau, gan gynnwys logo Wrecsam Ifanc rhaid i chi gysylltu \u00e2 ni gyntaf am arweiniad pellach a chaniat\u00e2d. Rhowch fanylion eich sefydliad, pa luniau yr hoffech eu defnyddio a sut yr ydych yn bwriadu eu defnyddio.<\/p>\n<h3>Telerau ac Amodau<\/h3>\n<p>Croeso i delerau ac amodau gwefan wrecsamifanc.co.uk (y \u201cTelerau ac Amodau\u201d), sy\u2019n berthnasol wrth i chi ddefnyddio\u2019r wefan hon. Trwy ddefnyddio\u2019r wefan hon rydych yn cytuno cadw at y Telerau a\u2019r Amodau hyn. Darperir y wefan hon er budd preswylwyr gwledydd sy&#8217;n aelodau o&#8217;r Undeb Ewropeaidd (&#8220;UE&#8221;) a phreswylwyr Norwy, Gwlad Yr I\u00e2 a Liechtenstein. Os nad ydych yn byw yn un o\u2019r gwledydd hyn neu os nad ydych yn cytuno i gadw at y Telerau a\u2019r Amodau hyn, ni chaniateir i chi ddefnyddio&#8217;r wefan hon ac mae gennym hawl i gyfyngu neu atal mynediad i chi. \u00a0DIFFINIADAU Mae \u201cDefnyddiwr\/Defnyddwyr\u201d yn golygu defnyddiwr\/defnyddwyr y wefan naill ai ar y cyd neu\u2019n unigol, fel sy\u2019n ofynnol gan y cyd-destun; ar wah\u00e2n i mewn cysylltiad \u00e2 data personol, a fydd ond yn berthnasol i unigolion byw; bydd ystyr \u201cData Personol\u201d yr un fath \u00e2\u2019r diffiniad a nodir yn Neddf Diogelu Data 1998 (DDD 1998) a bydd yn cynnwys unrhyw fanylion personol a ddarperir gennych chi ar y wefan; mae \u201cRydym\/ni\/ein\u201d yn golygu wrecsamifanc.co.uk; mae \u201cGwefan&#8221; yn golygu gwefan www.wrecsamifanc.co.uk neu unrhyw URL dilynol a ddaw yn ei le; ac ystyr \u201cChi\/Eich\u201d yw chi fel defnyddiwr y Wefan.<\/p>\n<ol>\n<li>MYNEDIAD<br \/>\nByddwn yn darparu mynediad i chi at y wefan yn unol \u00e2\u2019r Telerau a\u2019r Amodau hyn.<\/li>\n<li>EICH RHWYMEDIGAETHAU<br \/>\n2.1 Chi:<br \/>\n2.1.1 cytuno i beidio \u00e2 defnyddio\u2019r Wefan (nac unrhyw ran ohoni) at ddibenion anghyfreithlon a chytuno ei defnyddio yn unol \u00e2 phob cyfraith berthnasol;<br \/>\n2.1.2 cytuno i beidio ag uwchlwytho neu drosglwyddo drwy\u2019r Wefan unrhyw firysau cyfrifiadurol, macro firysau, ceffylau Caerdroia, llyngyr nac unrhyw beth arall a ddyluniwyd i ymyrryd, torri ar draws neu darfu ar weithdrefnau gweithredu cyfrifiadurol arferol;<br \/>\n2.1.3 cytuno i beidio ag uwchlwytho na throsglwyddo drwy\u2019r wefan unrhyw ddeunydd difenwol, sarhaus, neu o natur anllad neu fygythiol, neu a allai achosi blinder, anghyfleustra neu bryder diangen;<br \/>\n2.1.4 cytuno i beidio \u00e2 defnyddio&#8217;r wefan mewn modd a allai darfu arni neu achosi iddi gael ei difrodi, ei gwneud yn llai effeithiol neu a allai arwain at ddiffygio effeithiolrwydd neu ymarferoldeb y wefan mewn unrhyw ffordd;<br \/>\n2.1.5 cytuno i beidio \u00e2 defnyddio\u2019r wefan mewn unrhyw ffordd sy\u2019n torri neu\u2019n amharu ar hawliau unrhyw unigolyn neu gwmni (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, hawliau eiddo deallusol, hawliau cyfrinachedd neu hawliau preifatrwydd);<br \/>\n2.1.6 cytuno i beidio \u00e2 chreu a chyhoeddi dolen hyperdestun yn unrhyw ran o\u2019r wefan na cheisio cael unrhyw fynediad anawdurdodedig at unrhyw ran neu gydran o\u2019r wefan; a<br \/>\n2.1.7 chytuno, pan fydd gennych unrhyw hawl, hawliad neu gamau yn erbyn unrhyw Ddefnyddwyr sy\u2019n codi o ddefnydd y Defnyddiwr hwnnw o\u2019r wefan, byddwch yn mynd ar drywydd hawl, hawliad neu gamau felly yn annibynnol a heb geisio cymorth gennym ni<\/li>\n<li>INDEMNIAD<br \/>\nRydych yn cytuno i fod yn gwbl gyfrifol am, ac yn ein indemnio yn gyfan gwbl yn erbyn, pob hawliad, atebolrwydd, difrod, colledion, costau a threuliau, gan gynnwys ffioedd cyfreithiol a ddioddefwn ac sy\u2019n codi o unrhyw achos o dorri\u2019r Telerau a\u2019r Amodau neu unrhyw ddeddfau, rheoliadau a rheolau eraill gennych chi neu unrhyw asiant (neu gynrychiolwyr) sy\u2019n gweithredu ar eich rhan; neu unrhyw atebolrwydd arall sy\u2019n codi o\u2019ch defnydd o\u2019r wefan, neu ddefnydd unrhyw unigolyn arall sy\u2019n defnyddio&#8217;ch cyfrifiadur neu gyfrif mynediad rhyngrwyd i gael mynediad at y wefan. Byddwch hefyd yn ein hindemnio yn erbyn unrhyw honiadau fod gwybodaeth neu ddeunydd yr ydych wedi&#8217;u cyflwyno i ni yn torri unrhyw gyfraith neu&#8217;n torri hawliau unrhyw drydydd parti (gan gynnwys cyfyngiad, honiadau mewn perthynas \u00e2 difenwad, amharu ar breifatrwydd, torri hyder, amharu ar hawlfraint neu unrhyw hawl eiddo deallusol arall). Rydym yn cadw\u2019r hawl i amddiffyn a rheoli unrhyw hawliadau sy\u2019n codi o\u2019r uchod ac unrhyw faterion indemnio tebyg. Rydych yn cytuno i gydweithredu \u00e2 ni\u2019n gyfan gwbl mewn unrhyw achos tebyg.<\/li>\n<li>EIN HAWLIAU<br \/>\n4.1 Rydym yn cadw\u2019r hawl i:<br \/>\n4.1.1 addasu&#8217;r wefan neu ei thynnu i lawr (neu ran ohoni), dros dro neu\u2019n barhaol, gan roi rhybudd i chi neu beidio a rydych yn cadarnhau na fyddwn yn atebol i chi nac unrhyw drydydd parti am unrhyw addasiad neu am dynnu&#8217;r wefan i lawr; a\/neu,<br \/>\n4.1.2 newid y Telerau a\u2019r Amodau hyn o dro i dro, ac os byddwch yn parhau i ddefnyddio&#8217;r wefan (neu ran ohoni) ar \u00f4l i newid tebyg gael ei gwneud, tybir eich bod yn derbyn y newid. Bydd unrhyw newidiadau tebyg yn dod i rym ar unwaith ar \u00f4l eu postio, gan hynny, chi sy\u2019n gyfrifol am wirio\u2019n rheolaidd i bennu a yw\u2019r Amodau a\u2019r Telerau wedi newid. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw newid i\u2019r Telerau a\u2019r Amodau rhaid i chi roi\u2019r gorau i ddefnyddio\u2019r wefan ar unwaith.<br \/>\n4.2 Byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i gynnal a chadw\u2019r wefan. Mae\u2019n bosibl y bydd y wefan yn newid o dro i dro. Ni fyddwch yn gymwys am unrhyw iawndal os na fyddwch yn gallu defnyddio unrhyw ran o\u2019r wefan neu oherwydd fod y wefan neu ran ohoni wedi methu, wedi&#8217;i gwahardd neu wedi&#8217;i thynnu i lawr oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i&#8217;ch rheolaeth.<\/li>\n<li>CYSYLLTIADAU \u00c2 THRYDYDD PART\u00cfON<br \/>\nEr mwyn ceisio gwneud y wefan yn fwy gwerthfawr i\u2019n Defnyddwyr, mae\u2019n bosibl y byddwn yn darparu dolenni at wefannau neu adnoddau eraill. Rydych yn cydnabod ac yn cytuno nad ydym yn gyfrifol am argaeledd safleoedd neu adnoddau allanol tebyg, ac nad ydym yn ardystio, yn gyfrifol nac yn atebol, boed yn uniongyrchol neu\u2019n anuniongyrchol, am arferion preifatrwydd neu gynnwys (gan gynnwys testun difenwol neu destun camgynrychiadol) gwefannau tebyg, gan gynnwys (heb fod yn gyfyngedig i) unrhyw ddeunyddiau hysbysebu, nwyddau neu ddeunyddiau eraill neu wasanaethau ar neu sydd ar gael ar wefannau neu adnoddau tebyg, nac am unrhyw ddifrod, colledion neu droseddau a achosir neu a honnir a achoswyd gan, neu mewn cysylltiad \u00e2, defnyddio neu ddibynnu ar unrhyw gynnwys, nwyddau neu wasanaethau tebyg sydd ar gael ar safleoedd neu adnoddau allanol tebyg.<\/li>\n<li>MONITRO<br \/>\nMae gennym hawl i fonitro unrhyw weithgareddau a chynnwys sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;r wefan, ond nid yw hynny&#8217;n orfodol. Mae\u2019n bosibl y byddwn yn ymchwilio i unrhyw achos a adroddwyd o dorri\u2019r Telerau a\u2019r Amodau hyn neu unrhyw gwynion eraill, ac yn cymryd camau y tybiwn sy\u2019n briodol (a allai gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, roi rhybuddion, gwaharddiadau, terfynu neu osod amodau ar eich mynediad a\/neu dynnu unrhyw ddeunyddiau oddi ar y wefan).<\/li>\n<li>EICH DATA<br \/>\n7.1 Rydym yn parchu&#8217;ch Data Personol ac yn mynd ati i gydymffurfio \u00e2 deddfwriaeth Diogelu Data perthnasol yr UE a\u2019r DU o dro i dro mewn grym.<br \/>\n7.2 Dylech fod yn ymwybodol o\u2019r canlynol:<br \/>\n7.2.1 os gofynnir i ni gan yr heddlu neu unrhyw awdurdod rheoleiddio neu lywodraethu sy\u2019n ymchwilio i amheuon o weithgareddau anghyfreithlon, neu ar \u00f4l derbyn gorchymyn llys, i ddarparu\u2019ch Data Personol a\/neu wybodaeth yngl\u0177n \u00e2\u2019ch gweithgareddau wrth ddefnyddio\u2019r wefan byddwn yn gwneud hynny; ac,<br \/>\n7.2.2 os ydych yn cytuno, drwy dicio\u2019r blychau priodol ar y ffurflenni perthnasol, gallwn werthu\u2019ch manylion cyswllt a dewisedig i drydydd part\u00efon ag enw da i\u2019w galluogi i anfon gwybodaeth atoch y credant a fyddai o ddiddordeb i chi. Mae\u2019n bosibl y bydd y trydydd part\u00efon hyn mewn gwledydd y tu allan i\u2019r DU ac nad oes ganddynt gyfreithiau i ddiogelu\u2019ch Data Personol. Bydd modd i fanylion y trydydd part\u00efon a\u2019r gwledydd sy\u2019n derbyn eich Data Personol gael eu darparu i chi ar gais.<br \/>\n7.3 Rydym yn cadw\u2019r hawl yn ein disgresiwn rhesymol i ddatgelu manylion eich defnydd o\u2019r wefan mewn perthynas ag unrhyw achosion llys, neu unrhyw fygythiad o achos llys mewn perthynas \u00e2\u2019ch defnydd chi, neu ddefnydd rhywun arall dan eich rheolaeth, o\u2019r wefan boed hynny mewn cysylltiad \u00e2 materion a osodir yn y Telerau a&#8217;r Amodau hyn neu beidio.<br \/>\n7.4 Mae Wrecsam Ifanc yn gweithredu fel gwasanaeth cyfrinachol i chi fel pobl ifanc. Mae hyn yn golygu y bydd yr hyn a ddywedwch ar Wrecsam Ifanc yn aros yn anhysbys ac ar gyfer Wrecsam Ifanc yn unig. Fodd bynnag, bydd adegau pan fydd raid i ni yn unol \u00e2\u2019r gyfraith anfon y wybodaeth a rowch i ni ymlaen, os yw\u2019n golygu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl mawr o niwed. Gelwir hyn yn \u201camddiffyn plant\u201d.<br \/>\nMewn achosion felly, byddwn yn ceisio cysylltu \u00e2 chi i roi gwybod i chi ein bod yn anfon y wybodaeth ymlaen i sefydliadau eraill a all eich cefnogi. Rhaid i ni wneud hyn, p&#8217;un a ydych yn rhoi caniat\u00e2d ai peidio. Fodd bynnag, byddwn yn cadw mewn cysylltiad \u00e2 chi i roi gwybod i chi beth ydym yn ei wneud.<br \/>\n7.5 Ewch i waelod pob tudalen i ddarllen ein Polisi Preifatrwydd, sy\u2019n ffurfio rhan o\u2019r Telerau a\u2019r Amodau hyn.<\/li>\n<li>EIDDO DEALLUSOL A HAWL I DDEFNYDDIO<br \/>\n8.1 Rydych yn cydnabod ac yn cytuno bod pob hawlfraint, nodau masnach a&#8217;r holl hawliau eiddo deallusol eraill ym mhob deunydd neu gynnwys a ddarperir fel rhan o&#8217;r wefan (gan gynnwys heb gyfyngiad, testun, lluniau, tudalennau gwe, sain, meddalwedd (gan gynnwys cod, rhyngwyneb a strwythur y wefan), fideo, ffotograffau a lluniau graffigol, ac edrychiad a theimlad, dyluniad a chyfansoddiad y rheiny) yn parhau i gael eu breinio ynom ni neu ein trwyddedwyr bob amser. Caniateir i chi ddefnyddio\u2019r deunydd hwn fel yr awdurdodwyd yn benodol gennym yn unig ac, ar wah\u00e2n i\u2019r ddarpariaeth yn y Telerau a&#8217;r Amodau hyn, nid yw defnyddio&#8217;r wefan yn rhoi unrhyw hawl, teitl, buddiant na thrwydded i chi i unrhyw eiddo deallusol tebyg a welir ar y wefan. Ar wah\u00e2n i ddarpariaeth y Telerau a\u2019r Amodau hyn, gwaherddir defnyddio neu atgynhyrchu\u2019r eiddo deallusol.<br \/>\n8.2 Rydych yn cydnabod ac yn cytuno fod y deunydd a\u2019r cynnwys ar y wefan ar gael i chi eu defnyddio at ddibenion personol ac anfasnachol ar y seiliau canlynol:<br \/>\n8.2.1 gallwch lawrlwytho deunydd a chynnwys tebyg i yriant caled un cyfrifiadur yn unig; a<br \/>\n8.2.2 ni ddylid addasu unrhyw destun, dogfennau, graffigwaith nac unrhyw gynnwys arall ar y wefan hon mewn unrhyw ffordd; a 8.2.3 ni ddylid defnyddio unrhyw graffigwaith ar y wefan hon heb gynnwys y testun cysylltiedig hefyd; ac<br \/>\n8.2.4 mae ein hysbysiad hawlfraint a&#8217;r hysbysiad caniat\u00e1u hwn yn ymddangos ym mhob copi.<br \/>\n8.3 Gwaherddir defnyddio deunydd a chynnwys y wefan at unrhyw ddibenion eraill yn gyfan gwbl. Rydych yn cytuno peidio \u00e2 (ac yn cytuno peidio \u00e2 chynorthwyo neu hwyluso unrhyw drydydd parti i) gop\u00efo, atgynhyrchu, trosglwyddo, cyhoeddi, arddangos, dosbarthu, camfanteisio\u2019n fasnachol neu greu gwaith deilliannol o ddeunyddiau a chynnwys tebyg.<br \/>\n8.4 Os ydych yn torri unrhyw un o\u2019r Telerau a\u2019r Amodau hyn, bydd eich caniat\u00e2d i ddefnyddio\u2019r wefan hon yn terfynu\u2019n awtomatig a bydd raid i chi ddinistrio unrhyw ddyfyniadau a lawrlwythwyd neu a argraffwyd ar y wefan hon ar unwaith.<\/li>\n<li>CYFRANIADAU I wrecsamifanc.co.uk<\/li>\n<\/ol>\n<p>Os ydych yn cael eich gwahodd i gyflwyno unrhyw gyfraniad i wrecsamifanc.co.uk (gan gynnwys testun, ffotograffau, graffigwaith, fideo neu sain) rydych yn cytuno, drwy gyflwyno\u2019ch cyfraniad, eich bod yn rhoi hawl a thrwydded parhaol, di-freindal, di-gyfyngedig, is-drwyddedadwy i ddefnyddio, atgynhyrchu, newid, addasu, cyhoeddi,cyfieithu, creu gwaith deilliannol o, dosbarthu, perfformio, chwarae, ei wneud ar gael i&#8217;r cyhoedd, ac ymarfer holl hawliau hawlfraint a chyhoeddusrwydd o ran eich cyfraniad yn fyd-eang a\/neu i ymgorffori&#8217;ch cyfraniad mewn gweithiau eraill mewn unrhyw gyfrwng sy&#8217;n hysbys nawr neu a ddatblygir yn ddiweddarach am gyfnod llawn unrhyw hawliau sy&#8217;n bodoli yn eich cyfraniad, ac yn unol \u00e2 chyfyngiadau preifatrwydd a osodir ym Mholisi Preifatrwydd wrecsamifanc.co.uk. Os nad ydych yn dymuno rhoi&#8217;r hawliau a restrir uchod i wrecsamifanc.co.uk, peidiwch \u00e2 chyflwyno&#8217;ch cyfraniad i wrecsamifanc.co.uk.<\/p>\n<p>Trwy gyflwyno\u2019ch cyfraniad i wrecsamifanc.co.uk, rydych yn:<br \/>\n9.1. gwarantu:<\/p>\n<p>9.1.1 mai\u2019ch gwaith gwreiddiol chi\u2019ch hun yw\u2019r cyfraniad a bod gennych hawl i\u2019w roi i wrecsamifanc.co.uk at yr holl ddibenion a nodir uchod;<br \/>\n9.1.2. nad yw\u2019ch cyfraniad yn difenwol; ac<br \/>\n9.1.3. nad yw\u2019ch cyfraniad yn torri unrhyw gyfraith; ac<\/p>\n<p>9.2. indemnio wrecsamifanc.co.uk yn erbyn pob ffi gyfreithiol, iawndal a chostau eraill y gallai wrecsamifanc.co.uk orfod eu talu oherwydd eich bod chi wedi torri&#8217;r gwarant uchod; ac<br \/>\n9.3. ildio unrhyw hawliau moesol yn eich cyfraniad er mwyn ei gyflwyno i a\u2019i gyhoeddi ar wrecsamifanc.co.uk a\u2019r dibenion a nodir uchod.<\/p>\n<ol start=\"10\">\n<li>HYSBYSIADAU<br \/>\n10.1 Gallwch anfon hysbysiadau atom o dan neu mewn cysylltiad \u00e2\u2019r Telerau a\u2019r Amodau hyn:<br \/>\n10.1.1 trwy\u2019r post at; Wrecsam Ifanc, ProMo-Cymru, Uned 12, Gweithdai Royal Stuart, Adelaide Place, Caerdydd, CF10 5BR<br \/>\n10.2 Gan na fydd prawf anfon yn gwarantu ein bod wedi derbyn eich hysbysiad, rhaid i chi sicrhau eich bod wedi derbyn cydnabyddiaeth gennym, a anfonir cyn pen 3 diwrnod gwaith ar \u00f4l ei dderbyn, a\u2019ch bod yn cadw\u2019r dderbynneb.<\/li>\n<li>CYFYNGIAD ATEBOLRWYDD<br \/>\n11.1 ER Y BYDDWN YN GWNEUD POB YMDRECH RESYMOL I WIRIO CYWIRDEB UNRHYW WYBODAETH A RODDWN AR Y WEFAN, NID ALLWN WARANTU EI CHYWIRDEB O GWBL, BOED HYNNY TRWY DDATGANIAD NEU AWGRYM.<br \/>\n11.2 Darperir y wefan ar sail \u201cfel ag y mae\u201d ac \u201cfel y mae ar gael\u201d heb unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth. Oni bai fod telerau ac amodau ar wah\u00e2n ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth penodol yn nodi hynny, nid ydym yn gwneud unrhyw warantau o unrhyw fath, boed hynny\u2019n ddatganiad neu\u2019n awgrym, yngl\u0177n \u00e2\u2019r wefan, neu nwyddau neu wasanaethau a gynigir ar y wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwythiadau meddalwedd am ddim) gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, warantau awgrymedig o safon boddhaol, addasrwydd i ddiben penodol, heb dor-cyfraith, cydweddoldeb, diogelwch, cywirdeb, cyflwr neu gyflawnrwydd, neu unrhyw warant a awgrymir sy&#8217;n codi yn ystod ymdrin neu ddefnyddio neu fasnachu.<br \/>\n11.3 Oni bai fod telerau ac amodau ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth ar wah\u00e2n yn nodi hynny, nid ydym yn gwarantu o gwbl y bydd y wefan neu nwyddau neu wasanaethau a gynigir ar y wefan, boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwythiadau meddalwedd am ddim), yn diwallu\u2019ch gofynion neu\u2019n cael eu darparu yn ddi-dor, yn brydlon, yn ddiogel neu heb unrhyw wallau, y bydd diffygion yn cael eu hunioni, neu nad oes unrhyw firysau neu fygiau ar y wefan neu&#8217;r gweinydd sy&#8217;n cyflwyno&#8217;r wefan neu nwyddau neu wasanaethau a gynigir ar y wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwythiadau meddalwedd am ddim) neu eu bod yn gwbl ymarferol, yn gywir neu&#8217;n ddibynadwy. Ni fyddwn yn gyfrifol neu\u2019n atebol i chi am unrhyw gynnwys neu ddeunyddiau a gollir o ganlyniad i uwchlwytho i\u2019r wefan neu lawrlwytho o\u2019r wefan.<br \/>\n11.4 Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Telerau a\u2019r Amodau, ni fydd unrhyw beth yma yn cyfyngu ar eich hawliau fel defnyddiwr o dan gyfraith Lloegr.<br \/>\n11.5 Rydych yn cydnabod na allwn warantu a gan hynny ni fyddwn yn gyfrifol am ddiogelwch na phreifatrwydd y wefan nac unrhyw wybodaeth a ddarperir i neu a gymerir o\u2019r wefan gennych mewn unrhyw ffordd.<br \/>\n11.6 Ni fyddwn yn atebol mewn contract, y gyfraith gamweddau neu fel arall os byddwch yn cael unrhyw golled neu ddifrod wrth gysylltu \u00e2\u2019r wefan drwy ddolen hyperdestun trydydd parti.<br \/>\n11.7 Ni fyddwn yn atebol, mewn contract, y gyfraith gamweddau (gan gynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, esgeulustod), cyn contract neu gynrychiolaethau eraill (heblaw am gamliwio twyllodrus) neu fel arall allan o neu mewn cysylltiad \u00e2\u2019r wefan neu nwyddau neu wasanaethau a gynigir ar y wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwythiadau meddalwedd am ddim) am:<br \/>\n11.7.1 unrhyw golledion economaidd (gan gynnwys heb fod yn gyfyngedig i golli refeniw, elw, contractau, busnes neu arbedion disgwyliedig); neu<br \/>\n11.7.2 unrhyw golled o ewyllys da neu enw da; neu<br \/>\n11.7.3 unrhyw golledion arbennig neu anuniongyrchol neu ganlyniadol; mewn unrhyw achos p\u2019un a oedd colledion tebyg yn rhagweladwy i\u2019r naill neu\u2019r llall ohonom ar ddyddiad y digwyddiad a arweiniodd at y golled.<br \/>\n11.8 Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau a\u2019r Amodau yn gwahardd neu\u2019n cyfyngu ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy\u2019n digwydd o ganlyniad i&#8217;n hesgeulustod neu esgeulustod ein gweision, asiantau neu gyflogeion.<\/li>\n<li>TORIAD<br \/>\nOs bernir fod unrhyw ran o\u2019r Telerau a\u2019r Amodau yn anghyfreithlon, yn ddi-rym neu&#8217;n anymarferol am unrhyw reswm, bernir fod y ddarpariaeth honno yn doradwy o\u2019r Telerau a\u2019r Amodau ac ni fydd yn effeithio ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd unrhyw un o&#8217;r darpariaethau sydd ar \u00f4l yn y Telerau a&#8217;r Amodau hyn.<\/li>\n<li>Ni fydd unrhyw beth yn cael ei ddehongli fel ildiad gennym ni o unrhyw doriad blaenorol neu olynol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau a\u2019r Amodau.<\/li>\n<li>CYTUNDEB CYFAN<br \/>\nMae\u2019r Telerau a\u2019r Amodau hyn (fel y\u2019i diwygir o dro i dro), gan gynnwys y Polisi Preifatrwydd, yn cyfrif fel y cytundeb cyfan rhyngoch chi \u00e2 ni mewn perthynas \u00e2&#8217;r pwnc a gwmpesir, ac mae\u2019n disodli unrhyw gytundebau, trefniadau, ymgymeriadau neu gynigion, ysgrifenedig neu ar lafar, rhyngoch chi a ni mewn perthynas \u00e2 materion tebyg. Ni fydd unrhyw esboniad neu wybodaeth a roddir ar lafar gan y naill neu\u2019r llall ohonom yn newid dehongliad y Telerau a\u2019r Amodau hyn. Wrth gytuno i dderbyn y Telerau a\u2019r Amodau hyn, rydych yn cadarnhau nad ydych wedi dibynnu ar unrhyw gynrychiolaeth ac eithrio i&#8217;r graddau bod yr un peth wedi\u2019i fynegi yn benodol fel cynrychiolaeth yn y Telerau a\u2019r Amodau hyn, ac rydych yn cytuno na fyddwch yn ceisio unioni unrhyw gamliwio nad yw wedi ei gynnwys yn y Telerau a&#8217;r Amodau ac eithrio na fydd eich cytundeb a gynhwysir yn y ddarpariaeth hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gamliwio twyllodrus p\u2019un a yw wedi&#8217;i ymgorffori yn y Telerau a\u2019r Amodau hyn ai peidio. Os byddwn yn methu ag ymarfer neu orfodi unrhyw hawl neu ddarpariaeth yn y Telerau a\u2019r Amodau hyn, ni fydd hynny\u2019n arwain at ildio hawl neu ddarpariaeth debyg.<\/li>\n<li>Y GYFRAITH<br \/>\nBydd y Telerau a\u2019r Amodau hyn yn cael eu llywodraethu yn gyfan gwbl gan ac yn cael eu dehongli yn unol \u00e2 chyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd gan eu Llysoedd awdurdodaeth unigryw mewn unrhyw anghydfod, ac eithrio fod gennym yr hawl, yn \u00f4l ein disgresiwn, i ddechrau a chyflwyno achosion mewn awdurdodaethau eraill.<\/li>\n<\/ol>\n<h3><\/h3>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Polisi Preifatrwydd Mae preifatrwydd ein defnyddwyr yn bwysig i ni ac rydym yn gofalu ein bod yn ei ddiogelu. O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mae gennym rwymedigaethau cyfreithiol tuag&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-sidebar.php","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"class_list":["post-209","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/209","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=209"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/209\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7008,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/209\/revisions\/7008"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=209"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}