{"id":2326,"date":"2016-07-27T15:25:25","date_gmt":"2016-07-27T15:25:25","guid":{"rendered":"http:\/\/thesprout.co.uk\/?page_id=2326"},"modified":"2017-05-11T14:56:25","modified_gmt":"2017-05-11T14:56:25","slug":"young-wrexham-style-guide","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/about-us\/young-wrexham-style-guide\/","title":{"rendered":"Canllaw Arddull Wrecsam Ifanc"},"content":{"rendered":"<p><strong>Canllaw Arddull Wrecsam Ifanc<\/strong><\/p>\n<p><em>DS: Cyn darllen y canllaw, cofiwch mai adnodd cyfeirio ydi o felly peidiwch \u00e2 gadael iddo eich atal rhag cyfrannu. Mae\u2019r canllaw yn eich helpu chi i wella&#8217;ch arddull ysgrifennu, ond bydd ein t\u00eem o olygyddion yn gallu gwneud hyn drosoch chi.<\/em><\/p>\n<p>Bydd y canllaw yma yn eich helpu chi i ysgrifennu a llwytho erthyglau i fyny ar gyfer Wrecsam Ifanc. Mae\u2019n s\u00f4n am bethau fel cyfrif geiriau, atalnodi, cop\u00efo a gludo, athrodi, cyfieithu, delweddau a fideos, hawlfraint a gosodiadau tudalen. Mae\u2019r canllaw hwn yn syml, ond os hoffech chi fwy o wybodaeth am lwytho i fyny a Wrecsam Ifanc yn gyffredinol, darllenwch ein <u>Cwestiynau Cyffredin<\/u>, <u>Amodau a Thelerau<\/u> a\u2019n <u>Polisi Defnydd Derbyniol<\/u>.<\/p>\n<p>Os ydych chi\u2019n credu ein bod ni wedi anghofio cynnwys rhywbeth yn y canllaw hwn, neu os oes adran nad ydych chi\u2019n ei deall, anfonwch e-bost atom ni:\u00a0<a href=\"mailto:infoshop@wrexham.gov.uk\"><strong>infoshop@wrexham.gov.uk<\/strong><\/a>, neu ffoniwch y swyddfa ar\u00a0<strong>029 2046 2222<\/strong>.<\/p>\n<p><strong>Rydym ni\u2019n argymell eich bod chi\u2019n ysgrifennu eich erthyglau yn Microsoft Word yn gyntaf a chadw copi wrth gefn rhag ofn i bethau fynd o chwith (fel rhywun yn datgysylltu eich cysylltiad rhyngrwyd).<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#whatisstyleguide\">1. Beth ydi Canllaw Arddull?<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#whatcanIupload\">2. Beth fedraf i uwch lwytho?<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#howdoIupload\">3. Sut ydw i\u2019n uwch lwytho pethau?<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Moderation\">4. Cymedroli<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#News\">5. Newyddion \/ Ysbrydoliaeth<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Newsworthiness\">6. Gwerth<\/a><u> Sylw<\/u><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Research\">7. Ymchwil<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#TopPicks\">8. Pigion<\/a><u> Gorau<\/u><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Yourarticlestitle\">9. Teitl eich Erthygl<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Writingthearticle\">10. Ysgrifennu\u2019r Erthygl<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#subheadings\">11. Is-benawdau<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Yourpersonality\">12. Eich Personoliaeth<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Swearing\">13. Rhegi<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Offensivematerial\">14. Deunydd Sarhaus<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Drugsetc\">15. Cyffuriau, Alcohol, Tybaco, Trais, Pornograffi, Gamblo ac ati<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Religiousviews\">16. Barn Grefyddol neu Wleidyddol<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Wordcount\">17. Cyfrif Geiriau<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Spelling\">18. Sillafu ac Atalnodi <\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#ArticleLayout\">19. Gosodiad eich Erthygl<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#CopyingPasting\">20. Cop\u00efo a Gludo<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Exclamationmarks\">21. Ebychnodau<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Capitalisingwords\">22. Priflythrennu Geiriau<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Cliches\">23. Ystrydebau<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Repetition\">24. Ailadrodd<\/a><\/li>\n<li><u>25. Athrodi<\/u><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#MovieTitles\">26. Teitlau Ffilmiau, Llyfrau, Teitlau Swyddi ac ati<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#BulletPoints\">27. Pwyntiau Bwled<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Reviews\">28. Adolygiadau<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Links\">29. Dolenni<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Translation\">30. Cyfieithu<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Comments\">31. Sylwadau<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Imagesizes\">32. Maint Lluniau<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Resizingimages\">33. Newid main lluniau<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Copyright\">34. Hawlfraint<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#CreativeCommons\">35. Creative Commons<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Creditingphotographers\">36. Priodoli lluniau i ffotograffwyr ac artistiaid<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-admin\/post.php?post=2326&amp;action=edit#Uploadingavideo\">37. Llwytho fideo i fyny<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p>###<\/p>\n<ol>\n<li><strong> Beth ydi Canllaw Arddull?<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae gan bapurau newydd, cylchgronau a gwefannau eu strwythur ysgrifennu eu hunain. Canllaw arddull rydym ni&#8217;n ei alw. Mae\u2019n bwysig bod pethau yn cael eu hysgrifennu mewn ffordd gyson, sy\u2019n gwneud i\u2019r cyhoeddiad neu\u2019r wefan edrych yn broffesiynol.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"2\">\n<li><strong> Beth fedraf i lwytho i fyny?<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Unrhyw beth sydd arnoch chi eisiau. Mae Wrecsam Ifanc yn llwyfan i chi fynegi\u2019ch hun yn emosiynol ac yn greadigol. Os oes yna rywbeth yn eich cythruddo chi yn eich ardal, rhowch wybod i bawb amdano. Os ydych chi wedi cyfansoddi cerdd am falwod, rhannwch honno hefyd.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"3\">\n<li><strong> Sut ydw i\u2019n llwytho pethau i fyny?<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae dwy ffordd.<\/p>\n<ol>\n<li><a href=\"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/register\/\">Cofrestru i gyfrannu<\/a>. Bydd hyn yn eich galluogi i lwytho lluniau a fideos i fyny gyda\u2019ch erthygl, eu gosod yn daclus a\u2019u gweld cyn iddyn nhw fynd yn fyw. Byddwch yn derbyn cyfrif a gallwch drefnu\u2019ch erthyglau dan eich enw defnyddiwr.<\/li>\n<li>Neu, os nad oes arnoch chi eisiau cyfrif, fe allwch chi gyflwyno erthygl neu hysbysebu digwyddiad drwy\u2019r <a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/contact\/\">dudalen gysylltu<\/a>. Fel rheol bydd erthyglau yn cael eu cyhoeddi yn ddienw ac ni fyddwch yn gallu ychwanegu lluniau.<\/li>\n<\/ol>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"4\">\n<li><strong> Cymedroli<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Ni fydd unrhyw beth yn mynd yn fyw hyd nes y bydd wedi ei wirio a\u2019i olygu gan y golygydd neu\u2019r is-olygyddion. Byddwn yn gwneud ein gorau i gyhoeddi pob erthygl ond, weithiau, bydd yn rhaid i ni gysylltu efo chi os oes rhywbeth yn anaddas neu&#8217;n aneglur.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"5\">\n<li><strong> Newyddion \/ Ysbrydoliaeth<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae cynnwys ym mhob man ac yn haws nag erioed i\u2019w ddilyn yn yr oes hon o ffonau clyfar, tecstio, Trydar a Facebook. Os hoffech chi ysgrifennu erthygl, meddyliwch am eich cynulleidfa, sef pobl ifanc 11-25 oed.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"6\">\n<li><strong> Gwerth Sylw<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Pam y byddai ar bobl eisiau darllen eich erthygl? Ydi hi&#8217;n ddiddorol ac yn addysgiadol? Ydi hi\u2019n archwilio pwnc ac yn datgelu pethau na fyddai llawer o bobl yn gwybod? Fysech chi\u2019n ei darllen hi? Dyma bethau y dylech chi eu hystyried cyn mynd ati i ysgrifennu\u2019ch erthygl.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"7\">\n<li><strong> Ymchwil<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Oni bai eich bod chi\u2019n arbenigo yn y pwnc rydych chi\u2019n ysgrifennu amdano, bydd arnoch chi angen ychydig o wybodaeth gefndir. Gwnewch yn si\u0175r bod eich ffeithiau a\u2019ch ffigyrau yn gywir a chofiwch, mae pobl yn gallu gwneud sylw o dan eich erthygl ac amlygu unrhyw gamgymeriad.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"8\">\n<li><strong> Pigion Gorau<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Dyma erthyglau hirach nad ydyn nhw o reidrwydd yn s\u00f4n am faterion cyfoes. Bydd yn erthygl o ddiddordeb i bobl, hyd yn oes os nad ydi\u2019r testun yn rhywbeth maen nhw fel arfer yn ymddiddori ynddo. Os hoffech chi awgrymu testun ar gyfer Pigion Gorau, anfonwch e-bost at\u00a0infoshop@wrexham.gov.uk.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"9\">\n<li><strong> Teitl eich Erthygl<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Hynny ydi, eich pennawd. Bydd arnoch chi angen defnyddio\u2019ch dychymyg i feddwl am bennawd byr a bachog. Ceisiwch feddwl am bennawd 6 gair neu lai. Methu meddwl am bennawd? Peidiwch \u00e2 phoeni, fe allwn ni wneud hynny drosoch chi os oes angen.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"10\">\n<li><strong> Ysgrifennu\u2019r Erthygl <\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Rydym ni\u2019n argymell yn gryf eich bod yn ysgrifennu\u2019r erthygl mewn dogfen Word yn gyntaf a&#8217;i chadw bob hyn a hyn. Mae hyn yn golygu y bydd gennych chi gopi wrth gefn o\u2019ch erthygl. Fe allwch chi wedyn gop\u00efo a gludo\u2019r erthygl i\u2019r dudalen ychwanegu erthygl newydd ar System Rheoli Cynnwys Wrecsam Ifanc, fe allwch chi fynd at y dudalen hon ar \u00f4l i chi <a href=\"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/become-a-writer\/\">gofrestru<\/a> a chreu\u2019ch cyfrif. Fel arall, mi fedrwch chi ludo\u2019r erthygl i&#8217;r ffurflen gysylltu.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"11\">\n<li><strong> Is-benawdau<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Gall wal fawr o destun fod yn anodd iawn i\u2019w darllen ac mae pobl yn dueddol o frysio drwy erthyglau ar-lein. Mae is-benawdau sy\u2019n crynhoi cynnwys y tamaid nesaf o destun neu ddewis a dethol dyfyniadau da a gwneud maint y ffont yn fwy yn gallu gwneud eich erthygl yn haws i\u2019w darllen.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"12\">\n<li><strong> Eich Personoliaeth <\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Pl\u00ees, pl\u00ees rhowch ychydig o\u2019ch personoliaeth yn eich erthyglau. Rydym ni\u2019n eich annog i wneud hynny. Os ydi&#8217;r testun rydych chi&#8217;n ysgrifennu amdano wedi effeithio arnoch chi, dywedwch wrthym ni a soniwch sut. Mae croeso i chi ddweud eich dweud neu ddweud rhywbeth \u00e2\u2019ch tafod yn eich boch ond peidiwch \u00e2 bod yn ddigywilydd nac yn sarhaus.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"13\">\n<li><strong> Rhegi<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Dydyn ni ddim yn caniat\u00e1u rhegi ar Wrecsam Ifanc oherwydd ystod oedran ein darllenwyr (11-25 oed). Ond, os ydych chi\u2019n teimlo bod yn rhaid i chi regi, gwnewch hynny mewn ffordd ysgafn gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd \u00e2&#8217;ch erthygl. Fodd bynnag, ni allwn sicrhau y byddem yn cynnwys y rhegfeydd, a byddwn yn defnyddio s\u00ear ar gyfer y rhegfeydd gwaethaf.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"14\">\n<li><strong> Deunyddiau Sarhaus<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw erthygl neu sylw (gwelwch bwynt 31) sy\u2019n cynnwys iaith fygythiol, bwlio, homoffobig a hiliol ac ati.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"15\">\n<li><strong> Cyffuriau, Alcohol, Tybaco, Trais, Pornograffi, Gamblo ac ati.<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Bydd erthyglau neu luniau sy\u2019n canu clod y pethau hyn yn cael eu golygu\u2019n drwm, neu ddim yn cael eu cyhoeddi o gwbl, am yr un rhesymau ag erthyglau sy&#8217;n cynnwys rhegfeydd. Os ydych chi\u2019n ysgrifennu erthygl gytbwys neu stori addysgiadol am un o\u2019r testunau uchod, yna byddwn yn eich cefnogi a\u2019ch helpu.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"16\">\n<li><strong> Barn Grefyddol neu Wleidyddol<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Beth bynnag eich credoau chi, cofiwch barchu credoau pobl eraill.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"17\">\n<li><strong> Cyfrif Geiriau<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Er nad oes cyfyngiad ar nifer y geiriau mewn erthygl, os ydych chi ond yn ysgrifennu ychydig o frawddeg bydd eich erthygl yn rhy fyr. Fel rheol mae erthyglau yn oddeutu 250 gair, ond mae cerddi yn gallu bod yn fyrrach.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"18\">\n<li><strong> Sillafu ac Atalnodi <\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Peidiwch \u00e2 phoeni os nad ydych chi\u2019n si\u0175r iawn o\u2019ch gramadeg a&#8217;ch atalnodi, mae gennym ni olygyddion sy\u2019n gallu cywiro gwallau. Pl\u00ees peidiwch \u00e2 defnyddio iaith tecstio (LOLZ \/ MSL \/ THNX) ac wynebau gwenog (ond mae rhwydd hynt i chi eu defnyddio wrth wneud sylwadau o dan erthyglau).<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"19\">\n<li><strong> Gosodid eich Erthygl<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Yn ogystal \u00e2 defnyddio is-benawdau (gwelwch 11 uchod), defnyddiwch frawddegau a pharagraffau byr gan eu bod yn haws eu darllen ac yn edrych yn well ar y dudalen. Unwaith eto, peidiwch \u00e2 phoeni\u2019n ormodol am hyn oherwydd y bydd ein golygyddion yn gallu helpu i olygu\u2019ch erthygl yn briodol. Fe allwch chi hefyd ddefnyddio lluniau a fideos (gwelwch 32 a 37 isod) yn eich erthygl i wella ansawdd darllenadwy ac edrychiad eich erthygl.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"20\">\n<li><strong> Cop\u00efo a Gludo <\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Peidiwch \u00e2 chop\u00efo a gludo mwy nag ychydig eiriau o wefannau eraill. <a href=\"http:\/\/www.dictionary.com\/browse\/plagiarism\">Ll\u00ean-ladrad<\/a> rydym ni\u2019n galw hyn ac fe allwn ni fynd i helynt. Yr unig eithriad i hyn ydi dyfynnu o wefannau ac ati, ond cofiwch nodi enw\u2019r wefan mewn cromfachau ar \u00f4l y dyfyniad.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"21\">\n<li><strong> Ebychnodau<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Efallai eich bod chi\u2019n teimlo bod yn rhaid i chi roi ebychnod (!) ar ddiwedd pob brawddeg er mwyn cyfleu\u2019ch emosiynau. Ond does dim angen i chi wneud hyn o gwbl. Bydd pobl yn dal yn gallu teimlo\u2019ch dicter, eich digrifwch neu\u2019ch anghrediniaeth hebddyn nhw.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"22\">\n<li><strong> Priflythrennu Geiriau <\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae hyn fwy neu lai yr un peth \u00e2 defnyddio ebychnodau. Mae priflythrennu geiriau i geisio cyfleu\u2019ch neges neu\u2019ch rhwystredigaeth yn edrych yn fl\u00ear ar y dudalen ac mae\u2019n gallu edrych fel petaech yn gweiddi ar eich cynulleidfa.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"23\">\n<li><strong> Ystrydebau<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Cyfle na ddylid ei golli, gwledd i\u2019r teulu cyfan, i gael hwyl a sbri dewch draw i&#8230;. Mae\u2019r rhain i gyd yn ystrydebau y dylech chi eu hosgoi. Mae geiriau fel gwych, ardderchog ac anhygoel yn iawn ond ceisiwch ddefnyddio disgrifiadau gwreiddiol i gyfleu\u2019ch neges.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"24\">\n<li><strong> Ailadrodd<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae\u2019n hawdd iawn dechrau ailadrodd geiriau neu ymadroddion, yn enwedig pan fyddwch chi&#8217;n ysgrifennu erthygl hir. Cyn anfon eich erthygl beth am i chi ei darllen yn uchel i aelod o\u2019ch teulu neu i ffrind, a defnyddio thesawrws i\u2019ch helpu chi ganfod geiriau gwahanol?<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"11\">\n<li><strong> Athrodi <\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Ystyr hyn ydi gwneud datganiad neu adroddiad maleisus, ffug neu ddifenwol (<a href=\"http:\/\/www.dictionary.com\/browse\/slander?s=t\">www.dictionary.com<\/a><u>)<\/u>. Hynny ydi cyhuddo rhywun o wneud rhywbeth heb dystiolaeth neu reswm da dros gredu hynny. Fe allwn ni (a chithau hefyd) fynd i helynt am hynny.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"26\">\n<li><strong> Teitlau Ffilmiau a Llyfrau ac ati<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Dylai llythyren gyntaf pob gair fod \u00e2 phrif lythyren a dylai\u2019r enw fod mewn italig e.e.\u00a0<em> Harry Potter And The Order Of The Phoenix.<\/em> Nid oes yn rhaid iddyn nhw fod mewn \u2018dyfynodau\u2019.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"27\">\n<li><strong> Pwyntiau Bwled<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li>Dylech chi roi prif lythyren ar ddechrau\u2019r pwynt bwled, ond does dim rhaid i chi roi atalnod llawn ar y diwedd<\/li>\n<\/ul>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"28\">\n<li><strong> Adolygiadau<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Os ydych chi\u2019n adolygu rhywbeth (ffilm, c\u00e2n, gig, llyfr, sioe), cofiwch gynnwys dolenni i wefannau a phethau fel oedran a hyd ffilmiau. Cofiwch hefyd gynnwys fideo o raglun y ffilm neu fideo o\u2019r g\u00e2n (gwelwch bwynt 33).<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"29\">\n<li><strong> Dolenni<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Dylai pob erthygl gynnwys dolenni. Rhowch eich dolenni mewn cromfachau ar \u00f4l y testun perthnasol. Fe allwch chi wedyn ychwanegu hyperddolen pan fyddwch chi\u2019n gosod eich erthygl (neu fe allwn ni wneud hyn drosoch chi os ydych chi\u2019n defnyddio\u2019r ffurflen gysylltu).<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"30\">\n<li><strong> Cyfieithu <\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Os ydych chi\u2019n gallu ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg, byddai\u2019n wych gweld eich erthygl yn ddwyieithog. Fel arall, bydd rhai erthyglau, fel rheol y Pigion Gorau (gwelwch bwynt 8 uchod), yn cael eu cyfieithu.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"31\">\n<li><strong> Sylwadau<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>O dan pob erthygl fe welwch chi flwch i adael sylwadau. Mae croeso i chi ymateb i sylwadau, ond cofiwch barchu barn pobl eraill a bod y sylwadau hefyd wedi eu gwirio cyn eu cyhoeddi. Mae\u2019n rhaid i chi gofrestru gyda <a href=\"https:\/\/disqus.com\/\">Disqus<\/a> i adael sylwadau ac rydym ni\u2019n argymell yn gryf eich bod chi\u2019n defnyddio cyfeiriad e-bost yn hytrach na\u2019ch enw go iawn.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"32\">\n<li><strong> Maint Lluniau<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Gallwch lwytho lluniau JPG, PNG neu GIF i fyny (ydi, mae hyn yn cynnwys \u2018gifs\u2019 wedi eu hanimeiddio). Gallwch ddefnyddio lluniau tua 1000px o led. Bydd lluniau llai yn niwlog os ydych chi\u2019n eu defnyddio fel lluniau clawr, ond mae modd eu cynnwys mewn erthyglau (rhowch nhw yn y canol). Os ydyn nhw rhy fawr ni fydd y wefan yn gallu ymdopi efo nhw (y terfyn llwytho i fyny ydi 8MB) ac mae unrhyw beth dros 1500px yn gallu achosi trafferthion. Peidiwch \u00e2 phoeni os nad ydych chi\u2019n gallu dod o hyd i luniau addas, fe allwn ni wneud hynny drosoch chi.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"33\">\n<li><strong> Newid maint a golygu lluniau<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae yna swyddogaeth yn y System Rheoli Cynnwys sydd yn eich galluogi chi i docio a lleihau maint lluniau. Lluniau tirlun neu si\u00e2p bocs llythyrau sydd orau, gan fod llawer o luniau hir yn golygu gwaith sgrolio i lawr. Fe allwch chi hefydd ddefnyddio safleoedd fel <a href=\"https:\/\/pixlr.com\/\">pixlr.com<\/a>\u00a0i olygu a newid maint lluniau os ydyn nhw\u2019n rhy fawr i\u2019w llwytho i fyny (gwelwch bwynt 32 uchod)<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"34\">\n<li><strong> Hawlfraint<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Os ydych chi&#8217;n llwytho lluniau rhywun arall i fyny bydd arnoch chi angen caniat\u00e2d y person. Os nad ydych chi wedi derbyn caniat\u00e2d, peidiwch \u00e2 llwytho\u2019r llun i fyny. Yn hytrach, rhowch ddolen i\u2019r wefan sy\u2019n cynnwys y llun ac fe wnawn ni edrych i mewn i\u2019r peth. Mae mwy o wybodaeth am hawlfraint ar gael <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/copyright\/overview\">yma<\/a>.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"35\">\n<li><strong> Creative Commons (CC)<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/creativecommons.org\/\">Creative Commons<\/a> yn ffordd boblogaidd iawn o rannu gwaith creadigol. Bydd yr artistiaid sy\u2019n cymryd rhan yn eich caniat\u00e1u chi i ddefnyddio eu lluniau ar yr amod eich bod chi\u2019n priodoli\u2019r lluniau iddyn nhw ac yn cadw at reolau syml. Rydym ni\u2019n argymell eich bod chi\u2019n defnyddio <a href=\"http:\/\/compfight.com\/\">Compfight.com<\/a> i chwilio am luniau CC ar Flickr.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"36\">\n<li><strong> Priodoli lluniau i ffotograffwyr ac artistiaid<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Os ydych chi\u2019n defnyddio llun rhywun arall (gyda\u2019u caniat\u00e2d) bydd gofyn i chi ychwanegu dolen at eu tudalennau oriel neu wefan o dan y llun er mwyn priodoli\u2019r llun iddyn nhw. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod yn rhaid i bob llun Creative Commons gael eu priodoli er mwyn i ni allu eu defnyddio ar wefan Wrecsam Ifanc.<\/p>\n<p>###<\/p>\n<ol start=\"37\">\n<li><strong> Llwytho Fideo i Fyny<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae gludo dolen i fideo ar YouTube neu Vimeo i\u2019ch erthygl ar y system rheoli cynnwys yn mewnosod y ddolen yn awtomatig. Ond gwnewch yn si\u0175r a) eich bod wedi derbyn caniat\u00e2d i ddefnyddio\u2019r fideo, b) nad yw\u2019r fideo yn cynnwys unrhyw beth sarhaus ac c) nad yw\u2019r fideo wedi ei analluogi ar gyfer ei fewnosod.<\/p>\n<p><strong>Os ydych chi\u2019n ansicr ynghylch unrhyw ran o\u2019r Canllaw Arddull, anfonwch neges at <\/strong><a href=\"mailto:infoshop@wrexham.gov.uk\"><strong>infoshop@wrexham.gov.uk<\/strong><\/a><strong> neu ffoniwch y swyddfa ar 029 2046 2222 i siarad efo aelod o\u2019r t\u00eem, a fydd yn fwy na pharod i\u2019ch helpu chi. <\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Canllaw Arddull Wrecsam Ifanc DS: Cyn darllen y canllaw, cofiwch mai adnodd cyfeirio ydi o felly peidiwch \u00e2 gadael iddo eich atal rhag cyfrannu. Mae\u2019r canllaw yn eich helpu chi&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":40,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"class_list":["post-2326","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2326","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2326"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2326\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6927,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2326\/revisions\/6927"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/40"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2326"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}