{"id":6433,"date":"2017-04-19T16:06:20","date_gmt":"2017-04-19T16:06:20","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?page_id=6433"},"modified":"2017-05-12T12:15:35","modified_gmt":"2017-05-12T12:15:35","slug":"secstio","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/info\/online-safety\/secstio\/","title":{"rendered":"Secstio"},"content":{"rendered":"<p>Secstio ydi anfon neges destun, llun neu fideo rhywiol at rywun arall. Gyda\u2019r ffordd rydym ni\u2019n defnyddio\u2019r rhyngrwyd a gwefannau dod o hyd i gariad, nid pobl ifanc yn unig sy\u2019n anfon lluniau ohonyn nhw eu hunain.<\/p>\n<p>Ond pam bod hyn yn broblem ymhlith pobl ifanc?<\/p>\n<p>Mae cyfraith y Deyrnas Unedig yn dweud nad ydych chi\u2019n oedolyn hyd nes eich pen-blwydd yn 18 oed. Efallai bod hyn yn swnio\u2019n rhyfedd oherwydd eich bod chi\u2019n gallu gyrru car, ymuno \u00e2&#8217;r fyddin a hyd yn oed cael trwydded beilot cyn eich pen-blwydd yn 18. Felly, os ydych chi\u2019n anfon llun, fideo neu neges destun at berson dan 18 oed rydych chi mewn gwirionedd yn ei anfon at blentyn. Os ydi\u2019r unigolyn yn y llun neu\u2019r fideo dan 18 oed yna rydych chi\u2019n anfon llun o blentyn. Mae\u2019r heddlu yn ystyried hyn yn fater difrifol iawn.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=1vRNAPe2vFE\">https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=1vRNAPe2vFE<\/a><\/p>\n<p>Ymwadiad.<\/p>\n<p>Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae\u2019r wybodaeth yn berthnasol iawn i\u2019r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.<\/p>\n<p>Efallai eich bod chi\u2019n credu nad ydi anfon llun at bartner rydych chi\u2019n ymddiried ynddo yn broblem. Ond mae&#8217;n rhaid i chi feddwl am oed y person, ac os ydi\u2019r person dan 18 oed yna mae\u2019n well i chi ddileu\u2019r llun, neges destun neu\u2019r fideo yn syth bin. Efallai bod rhai ohonoch chi\u2019n dod i gysylltiad \u00e2 phobl ar-lein, nad ydych chi\u2019n eu hadnabod, sy\u2019n gofyn am luniau ohonoch chi.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=TcMd468Pqbs\">https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=TcMd468Pqbs<\/a><\/p>\n<p>Ymwadiad.<\/p>\n<p>Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae\u2019r wybodaeth yn berthnasol iawn i\u2019r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.<\/p>\n<p>Os oes rhywun yn gofyn am lun ohonoch chi siaradwch efo rhywun, efallai nad ydyn nhw\u2019n dweud y gwir am bwy ydyn nhw. Fyddwch chi ddim yn mynd i helynt am siarad efo rhywun ac efallai y byddwch chi\u2019n helpu i ddiogelu pobl ifanc eraill. Os oes arnoch chi angen help efo unrhyw beth, ewch i\u2019r Siop Wybodaeth yn Wrecsam neu siaradwch efo gweithiwr ieuenctid neu oedolyn rydych chi\u2019n ymddiried ynddo.<\/p>\n<p>Os ydych chi wedi anfon llun ohonoch chi\u2019ch hun mae yna bethau fedrwch chi eu gwneud. Mae <a href=\"http:\/\/swgfl.org.uk\/products-services\/esafety\/resources\/So-You-Got-Naked-Online\">so you got naked online<\/a> yn adnodd sy\u2019n cynnwys gwybodaeth am yr hyn fedrwch chi ei wneud nesaf. Peidiwch \u00e2 phoeni, rydym ni i gyd yn gwneud camgymeriadau, ac mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i ddileu&#8217;r llun &#8211; peidiwch ag anwybyddu hyn, fe allwch chi neu rywun rydych chi\u2019n ymddiried ynddo sortio pethau allan.<\/p>\n<p>Mae gan <a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/info-advice\/bullying-abuse-safety\/online-mobile-safety\/sexting\/\">Childline<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.thinkuknow.co.uk\/14_plus\/Need-advice\/Selfies-and-sexting\/\">think you know<\/a> gyngor gwych ac mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.nspcc.org.uk\/preventing-abuse\/keeping-children-safe\/sexting\/\">NSPCC<\/a> yn egluro\u2019r gyfraith mewn mwy o fanylder.<\/p>\n<p>Os ydych chi\u2019n cael eich bwlio ar-lein ewch i <a href=\"http:\/\/www.youngwrexham.co.uk\/info\/mental-health\/bullying\/\">adran fwlio&#8217;r<\/a> wefan hon am gyngor a chefnogaeth. Cofiwch, dydych chi ddim ar eich pen eich hun, mae yna bobl sy\u2019n gallu\u2019ch helpu.<\/p>\n<h3>Gwefannau defnyddiol<\/h3>\n<p><a href=\"http:\/\/www.safetynetkids.org.uk\/personal-safety\/staying-safe-online\/\">Safety Net Kids<\/a><\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.childnet.com\/young-people\">Childnet.com<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.nspcc.org.uk\/preventing-abuse\/keeping-children-safe\/online-safety\/\">NSPCC<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/ceop.police.uk\/safety-centre\/\">CEOP<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.thinkuknow.co.uk\/\">Think you know<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<hr \/>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-6276 aligncenter\" src=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"106\" srcset=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg 300w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-768x272.jpg 768w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg.jpg 886w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p><strong>Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i&#8217;r Siop INFO neu cysylltwch \u00e2 ni ar 01978 295600 \/ <a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/ask-wrex\/\">Neges wib<\/a>. \u00a0Gadewch neges a byddwn yn cysylltu \u00e2 chi cyn gynted \u00e2 phosib. <\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Secstio ydi anfon neges destun, llun neu fideo rhywiol at rywun arall. Gyda\u2019r ffordd rydym ni\u2019n defnyddio\u2019r rhyngrwyd a gwefannau dod o hyd i gariad, nid pobl ifanc yn unig&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":6434,"parent":354,"menu_order":2,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-info.php","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"class_list":["post-6433","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6433","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6433"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6433\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6955,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6433\/revisions\/6955"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/354"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6434"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6433"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}