{"id":6472,"date":"2017-04-20T12:00:24","date_gmt":"2017-04-20T12:00:24","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?page_id=6472"},"modified":"2021-06-18T08:13:46","modified_gmt":"2021-06-18T08:13:46","slug":"bwlio","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/info\/bwlio\/","title":{"rendered":"Bwlio"},"content":{"rendered":"<p><strong>Cwestiwn:<\/strong><strong>\u00a0<\/strong> Beth yw bwlio?<\/p>\n<p><strong>Ateb:<\/strong><strong>\u00a0<\/strong> Gwneud i rywun arall deimlo\u2019n ofnus, yn ddi-werth, unig, euog neu\u2019n drist\u2013 waeth a yw wedi gwneud rhywbeth i achosi hynny ai peidio. Mae fel arfer yn digwydd dro ar \u00f4l tro.<\/p>\n<p><strong>Ffaith:<\/strong><strong>\u00a0<\/strong> Mae\u2019n gallu digwydd ar y cyfrifiadur (seiber fwlio), gartref, ar dy ff\u00f4n symudol, yn yr ysgol,\u00a0 yn y brifysgol neu hyd yn oed yn y gweithle.<\/p>\n<p>Bwlio yw pan mae rhywun yn gwneud rhywbeth i dy frifo di, mi allai gynnwys:<\/p>\n<p><strong>Bwlio geiriol <\/strong>sy\u2019n gallu cynnwys galw enwau, pryfocio, gwneud sylwadau sydd ddim yn briodol amdanat ti a gwneud bygythiadau tuag atat ti neu rywun ti&#8217;n gofalu amdanyn nhw.<\/p>\n<p><strong>Bwlio cymdeithasol <\/strong>sy\u2019n gallu cynnwys gadael pobl allan o weithgareddau ar bwrpas, dweud straeon wrth bobl eraill amdanat ti neu dy deulu, neu godi cywilydd arnat ti\u2019n gyhoeddus.<\/p>\n<p><strong>Bwlio corfforol <\/strong>sy&#8217;n gallu cynnwys dy daro, dy gicio, dy wthio neu boeri arnat ti, mae hyn hefyd yn gallu cynnwys pobl yn malu dy eitemau.<\/p>\n<p><strong>Seiber fwlio <\/strong>yw pan mae pobl yn defnyddio\u2019r rhyngrwyd, e-bost, gemau ar-lein neu unrhyw dechnoleg i dy frifo, dy bryfocio neu godi cywilydd arnat ti.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/youtu.be\/ItCXmtxTBm8\">https:\/\/youtu.be\/ItCXmtxTBm8<\/a><\/p>\n<p><em>Ymwadiad.<\/em><\/p>\n<p><em>Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae\u2019r wybodaeth yn berthnasol iawn i\u2019r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.\u00a0 <\/em><\/p>\n<p>Mae pobl yn gallu cael eu bwlio mewn llawer o wahanol ffyrdd, efallai y byddi di wedi cael profiad o un, neu sawl un, o\u2019r rhestr uchod.\u00a0 Mae pobl yn cael eu bwlio am sawl rheswm; y ffordd maent yn edrych, y dillad maent yn gwisgo, tydi rhai pobl ddim yn gwybod pam maen nhw&#8217;n cael eu bwlio.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"I AM HOLLY - An Anti-Bullying Film by Bedford High School\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/yFknG5heyPA?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p><em>Ymwadiad.<\/em><\/p>\n<p><em>Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae\u2019r wybodaeth yn berthnasol iawn i\u2019r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.\u00a0 <\/em><\/p>\n<p>Wyddost ti fod gen ti hawliau? Bod yna gyfreithiau i dy ddiogelu di?<\/p>\n<p>Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau\u2019r Plentyn yn cofnodi hawliau pob plentyn, mae\u2019r <strong>42<\/strong> o hawliau\u2019n berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc yn y Deyrnas Unedig.\u00a0\u00a0 Mae hyn yn cynnwys yr hawl i adael i bobl ifanc fyw bywyd diogel, iach a hapus, un o dy hawliau di yw;<\/p>\n<p><strong>Erthygl 12<\/strong><\/p>\n<p><strong>Mae gan blant hawl i ddweud beth y maent yn credu dylai ddigwydd, pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy&#8217;n effeithio arnyn nhw, ac i gael ystyriaeth o&#8217;u safbwyntiau. <\/strong><\/p>\n<p>Mae hyn yn golygu bod gen ti hawl i ddweud beth wyt ti\u2019n credu dylai ddigwydd, pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy&#8217;n effeithio arnat ti, ac i gael ystyriaeth o dy safbwyntiau.<\/p>\n<p><strong>Y Gyfraith<\/strong><\/p>\n<p><strong>Yn \u00f4l y gyfraith, mae\u2019n rhaid i ysgolion gael polisi a gweithdrefn ymddygiad sy\u2019n cynnwys bwlio, mae Adran 89 <em>Deddf Addysg ac Arolygiadau (2006)<\/em> yn nodi bod yn rhaid i \u2018bob ysgol gael mesurau i annog ymddygiad da ac atal pob ffurf ar fwlio ymhlith disgyblion\u2019<\/strong><\/p>\n<p>Mae polis\u00efau ymddygiad ym mhob ysgol, bydd bwlio naill ai\u2019n cael ei drafod yn y dogfennau hyn neu mewn polisi bwlio unigol, mi ddylai pa un bynnag sydd yn dy ysgol fod ar gael i unrhyw un sy&#8217;n gofyn amdanyn nhw.\u00a0 Os wyt ti heb gopi, gofynna yn y dderbynfa, mae\u2019r polisi yn nodi beth fydd yr ysgol yn ei wneud i dy gefnogi di, a\u2019r gweithdrefnau y bydd yn eu cymryd wrth ddelio efo bwlio<\/p>\n<p><strong>Deddf Cydraddoldeb 2010<\/strong><\/p>\n<p><strong>O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae yn erbyn y gyfraith i aflonyddu ar rywun, gwneud iddyn nhw ddioddef neu wahaniaethu yn eu herbyn nhw oherwydd oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.<\/strong><\/p>\n<p>Mae gan ysgolion ddyletswydd gyfreithiol i fodloni telerau\u2019r Ddeddf Cydraddoldeb.\u00a0 Mae\u2019n rhaid i staff weithredu i atal aflonyddu ar rywun, gwneud i rywun ddioddef a gwahaniaethu yn yr ysgol.<\/p>\n<p><strong>Deddf Hawliau Dynol 1998 Mae\u2019r Ddeddf Hawliau Dynol\u00a0 yn rhestr o bethau mae pobl yn y DU efo hawl iddyn nhw, a beth y mae pob corff cyhoeddus, yn cynnwys ysgolion, yn gorfod dilyn.<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019n rhaid i ysgolion gael polis\u00efau sy\u2019n cydymffurfio efo\u2019r Ddeddf, yn enwedig Erthygl 3, sy\u2019n dweud \u2018Ni fydd unrhyw un yn cael ei arteithio, neu&#8217;n cael cosb neu driniaeth annynol neu ddiraddiol\u2019, os yw ysgolion yn gwybod dy fod yn cael dy drin yn wael, mae&#8217;n rhaid iddyn nhw ymyrryd i roi&#8217;r gorau iddo.<\/p>\n<p>Cefnogaeth Leol<\/p>\n<p>Os wyt ti&#8217;n teimlo bod pobl ddim yn gwrando arnat ti neu ddim yn dy gymryd o ddifrif, mi alli di bob amser ofyn am eiriolwr i dy helpu i ddweud beth yw dy ddymuniadau a dy deimladau.\u00a0 Mae gwasanaeth Eiriolaeth Ail Lais yn annibynnol ar yr ysgol, ac mae\u2019n gallu dy helpu i ddweud beth yw dy ddymuniadau a dy deimladau mewn cyfarfodydd.\u00a0\u00a0 Mi alli di gysylltu efo Ail Lais dy hun, drwy riant neu drwy athro\/athrawes yn yr ysgol.<\/p>\n<p>Ff\u00f4n: 01978 295600<\/p>\n<p>E-bost: secondvoiceadvocacy@wrexham.gov.uk<\/p>\n<p>Cefnogaeth Genedlaethol<\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/\">Childline<\/a> \u00a0yn Wasanaeth cwnsela a chyngor dros y ff\u00f4n i blant a phobl ifanc sy&#8217;n cael eu bwlio neu mewn perygl neu gydag unrhyw broblem arall.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"http:\/\/www.childnet.com\/\">Childnet<\/a> yn cynnig cyngor a gwybodaeth ar sut i ddiogelu plant rhag risgiau posib ar-lein. www.childnet.com<\/p>\n<p>Mae gan yr <a href=\"http:\/\/www.nspcc.org.uk\/\">NSPCC<\/a> linell gymorth i unrhyw un, yn cynnwys plant, sy\u2019n dioddef, yn poeni, neu mewn perygl o gamdriniaeth plant.<\/p>\n<p>Canllaw i ddiogelwch y rhyngrwyd a phori ar y rhyngrwyd yn ddiogel i bobl ifanc, wedi&#8217;i redeg gan <a href=\"http:\/\/www.thinkuknow.co.uk\/\">CEOP<\/a> , Gorchymyn Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"http:\/\/www.redballoonlearner.org\/\">Red Balloon<\/a> yn cefnogi pobl ifanc sydd ddim yn cynnwys eu hunain mewn gweithgareddau, neu sy\u2019n unig yn yr ysgol oherwydd bwlio neu drawma arall.<\/p>\n<p>Sefydliad sy\u2019n cynnig cyngor ar bob agwedd o fwlio yw <a href=\"http:\/\/www.bullying.co.uk\/\">bullying.co.uk<\/a><\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\">Meic Cymru<\/a> yn wasanaeth llinell gymorth a gwybodaeth ac fe allwch gysylltu os ydych angen siarad \u00e2 rhywun am unrhyw sefyllfa.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<hr \/>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-6276 aligncenter\" src=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"106\" srcset=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg 300w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-768x272.jpg 768w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg.jpg 886w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p><strong>Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i&#8217;r Siop INFO neu cysylltwch \u00e2 ni ar 01978 295600 \/ <\/strong><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/ask-wrex\/\"><strong>Neges wib<\/strong><\/a><strong>. \u00a0Gadewch neges a byddwn yn cysylltu \u00e2 chi cyn gynted \u00e2 phosib. <\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cwestiwn:\u00a0 Beth yw bwlio? Ateb:\u00a0 Gwneud i rywun arall deimlo\u2019n ofnus, yn ddi-werth, unig, euog neu\u2019n drist\u2013 waeth a yw wedi gwneud rhywbeth i achosi hynny ai peidio. Mae fel&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":7176,"parent":58,"menu_order":10,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-info.php","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"class_list":["post-6472","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6472","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6472"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6472\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7086,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6472\/revisions\/7086"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/58"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7176"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6472"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}