{"id":7362,"date":"2024-08-06T14:01:57","date_gmt":"2024-08-06T14:01:57","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?page_id=7362"},"modified":"2024-08-06T14:01:57","modified_gmt":"2024-08-06T14:01:57","slug":"alcohol","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/info\/drink-drugs-smoking\/cyffuriau-alcohol-ac-ysmygu\/alcohol\/","title":{"rendered":"Alcohol"},"content":{"rendered":"<p><strong><u>Pwyntiau Allweddol<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Mae alcohol yn dod mewn amrywiaeth eang o ddiodydd ac mewn amrywiaeth o gryfderau, lliwiau a blasau. Mae&#8217;n ofynnol yn \u00f4l y gyfraith i ddiodydd alcoholig nodi cryfder yr Alcohol yn y ddiod.<\/p>\n<p>Yr enw gwyddonol ar Alcohol yw ethanol. Argymhellir bod oedolion yn ceisio cadw at yfed dim mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos.\u00a0 Dylid gwneud hyn dros gyfnod o 3 diwrnod neu fwy yn hytrach na chadw\u2019r unedau i\u2019w hyfed i gyd mewn 1 diwrnod. Mae uned yn fesuriad sy&#8217;n egluro faint o Alcohol pur sydd yn y ddiod. Er enghraifft, can 500cl o gwrw 4% = 2 uned.<\/p>\n<p>Mae bwyta pryd bwyd sylweddol cyn yfed llawer iawn o Alcohol bob amser yn syniad da yn ogystal ag yfed diodydd meddal ac Alcohol am yn ail yn ystod noson allan.<\/p>\n<p><strong><u>Y Gyfraith<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019n erbyn y gyfraith i unrhyw un dan 18 brynu Alcohol mewn tafarn, bar, siop ddiodydd drwyddedig, archfarchnad neu ar-lein.<\/p>\n<p>Mae\u2019n rhaid i blant 16 mlwydd oed neu iau fod yng nghwmni oedolyn mewn tafarn neu far. Gall yr heddlu fynd ag Alcohol oddi ar rywun y maen nhw\u2019n amau sy\u2019n yfed dan 18 mlwydd oed.<\/p>\n<p>Mae\u2019n anghyfreithlon i oedolyn brynu alcohol i rywun dan 18 oed, ar wah\u00e2n i pan fo\u2019r unigolyn hwnnw\u2019n prynu cwrw, gwin neu seidr i rywun dan 16 neu 17 i\u2019w yfed \u00e2 phryd bwyd yng nghwmni unigolyn dros 18 oed.<\/p>\n<p>Mae gyrru dan ddylanwad Alcohol yn beryglus ac yn anghyfreithlon. Os canfyddir chi yn euog o hyn, gallwch chi gael dirwy drom, eich atal rhag gyrru neu ddedfryd o garchar ac o bosibl y tri o\u2019r rhain.<\/p>\n<p><strong><u>Effeithiau ar y corff a Risgiau <\/u><\/strong><\/p>\n<p>Gall yfed alcohol gael yr effeithiau canlynol arnoch chi:<\/p>\n<ul>\n<li>Eich gwneud chi\u2019n flinedig<\/li>\n<li>Eich gwneud chi\u2019n benysgafn<\/li>\n<li>Eich gwneud chi\u2019n gyfoglyd<\/li>\n<li>Colli rheolaeth ar weithrediadau\u2019r corff, fel cerdded<\/li>\n<li>Lleferydd aneglur<\/li>\n<li>Newid eich emosiynau, er enghraifft mynd yn emosiynol neu\u2019n flin<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae yfed llawer iawn o Alcohol yn gallu eich gwneud chi i chwydu ac achosi salwch bore drannoeth. Gall hyn ddatblygu\u2019n gur pen o ganlyniad i ddiffyg hylif.<\/p>\n<p><strong>Y Peryglon<\/strong><\/p>\n<p>Mae sawl perygl corfforol a meddyliol yn gysylltiedig \u00e2 goryfed neu yfed Alcohol yn rheolaidd.<\/p>\n<p>O ganlyniad i\u2019r ffaith bod Alcohol yn gallu amharu ar weithrediad echddygol fel cerdded a chydsymud, mae llawer o anafiadau yn ymwneud ag Alcohol yn digwydd o ganlyniad i bobl yn baglu a chwympo neu hyd yn oed o ymosodiadau corfforol.<\/p>\n<p>Gall effeithiau corfforol hirdymor yfed yn rheolaidd ac yn ormodol gynnwys colli celloedd yr ymennydd, methiant yr afu, wlserau\u2019r stumog, rhai mathau o ganser, trawiad ar y galon, epilepsi, magu pwysau (mae can cryf o lager yn cynnwys yr un faint o galor\u00efau \u00e2 bar siocled Mars), problemau \u00e2\u2019r croen \u2013 pan fo\u2019r afu wedi\u2019i niweidio, ni all brosesu fitaminau yn eich corff.<\/p>\n<p>Yn y tymor byr, mae Alcohol yn effeithio ar eich hwyliau (gall deimlo fel pe bai\u2019n eich gwneud chi\u2019n hapus i ddechrau ond mae&#8217;n dawelyn), posibilrwydd o wenwyn alcohol (mae lefel yr alcohol yn eich gwaed chi\u2019n codi mor uchel, gallwch chi fynd yn anymwybodol, mynd i mewn i goma neu waeth), chwydu, gall wneud i chi deimlo&#8217;n flinedig neu i&#8217;r gwrthwyneb, yn ddryslyd ac achosi golwg aneglur.<\/p>\n<p>Mae\u2019n hawdd gadael i\u2019ch arferion yfed fynd dros ben llestri a gall hyn arwain yn y pen draw at fynd yn gaeth i alcohol, dibyniaeth ac Alcoholiaeth. Mae eich goddefiad yn cynyddu po fwyaf y byddwch chi\u2019n yfed ac felly mae angen mwy o Alcohol arnoch chi i gael yr un effaith.<\/p>\n<hr \/>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-6276 aligncenter\" src=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"106\" srcset=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg 300w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-768x272.jpg 768w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg.jpg 886w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p><strong>Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i\u2019r Siop INFO neu cysylltwch \u00e2 ni ar 01978 295600 \/\u00a0<\/strong><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/ask-wrex\/\"><strong>Neges wib<\/strong><\/a><strong>. \u00a0Gadewch neges a byddwn yn cysylltu \u00e2 chi cyn gynted \u00e2 phosib.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pwyntiau Allweddol Mae alcohol yn dod mewn amrywiaeth eang o ddiodydd ac mewn amrywiaeth o gryfderau, lliwiau a blasau. Mae&#8217;n ofynnol yn \u00f4l y gyfraith i ddiodydd alcoholig nodi cryfder&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":8736,"parent":6653,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-info.php","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"class_list":["post-7362","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/7362","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7362"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/7362\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8776,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/7362\/revisions\/8776"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6653"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8736"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7362"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}