{"id":7370,"date":"2024-07-24T14:59:12","date_gmt":"2024-07-24T14:59:12","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?page_id=7370"},"modified":"2024-08-06T13:59:15","modified_gmt":"2024-08-06T13:59:15","slug":"lsd","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/info\/drink-drugs-smoking\/cyffuriau-alcohol-ac-ysmygu\/lsd\/","title":{"rendered":"Cetamin"},"content":{"rendered":"<p><strong><u>Pwyntiau Allweddol<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Mae Cetamin yn sylwedd powdr gwyn sydd hefyd yn gallu bod mewn ffurf hylif clir neu dabled.\u00a0\u00a0 Pan mae\u2019n cael ei lyncu mae\u2019n gallu blasu\u2019n eithaf chwerw.<\/p>\n<p>Bydd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn snwffian Cetamin mewn ffurf powdr ond mae rhai yn ei chwistrellu.<\/p>\n<p>Rhai <strong>enwau stryd <\/strong>cyffredin yw:<\/p>\n<ul>\n<li>Donkey Dust<\/li>\n<li>K<\/li>\n<li>Ket<\/li>\n<li>Special K<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019n cael ei ddefnyddio\u2019n feddygol gan Barafeddygon a Meddygon fel math o esthetig neu boenladdwr i gleifion sy\u2019n dioddef trawma corfforol.\u00a0\u00a0 Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Filfeddygon ar anifeiliaid mawr a bach ar gyfer yr un defnydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019n cael ei adnabod fel cyffur datgysylltiol sy\u2019n rhoi profiad allan o\u2019r corff i ddefnyddwyr.<\/p>\n<p><strong><u>Y Gyfraith<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Mae Cetamin yn gyffur Dosbarth B.<\/p>\n<p>Mae\u2019n golygu ei fod yn anghyfreithlon ei gael yn eich meddiant, ei gyflenwi neu ei gynhyrchu.<\/p>\n<p>Os canfyddir rywun \u00e2 Cetamin yn ei feddiant, gallant wynebu 5 mlynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu\u2019r ddau.<\/p>\n<p>Gall rhywun sy\u2019n cyflenwi Cetamin wynebu 14 mlynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu\u2019r ddau.<\/p>\n<p>Mae gyrru dan ddylanwad Cetamin yn beryglus ac yn anghyfreithlon. Os canfyddir chi yn euog o hyn yna gallwch wynebu dirwy drom, eich atal rhag gyrru neu ddedfryd carchar ac o bosibl y tri o\u2019r rhain.<\/p>\n<p><strong><u>Effeithiau ar y corff a risgiau <\/u><\/strong><\/p>\n<p>Mae cymryd Cetamin yn gallu gwneud i chi deimlo yn:<\/p>\n<ul>\n<li>Freuddwydiol a datgysylltiol<\/li>\n<li>Ymlaciol a hamddenol<\/li>\n<li>Penysgafn a dryslyd<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae hefyd yn gallu gwneud i chi weld pethau a\u2019ch rhoi mewn rhywbeth a elwir yn \u201cK hole\u201d sy\u2019n fath o \u201cdaith\u201d ble rydych yn teimlo eich bod wedi eich datgysylltu o\u2019ch corff a dim rheolaeth dros eich corff na beth sy\u2019n digwydd iddo.<\/p>\n<p>Mae\u2019n cymryd oddeutu 15 munud i gael effaith ar \u00f4l ei snwffian ac mae\u2019n gallu para 30 munud i awr.\u00a0\u00a0 Mae\u2019n gallu cael ei ganfod yn eich system am tua wythnos.<\/p>\n<p><strong>Y Peryglon<\/strong><\/p>\n<p>Gan ei fod yn esthetig nid ydych yn teimlo unrhyw boen a phan mae\u2019n cael ei gymysgu gyda sylweddau eraill mae\u2019n gallu bod yn angeuol.<\/p>\n<p>Mae ei effeithiau datgysylltiol yn gallu gwneud i chi deimlo wedi eich parlysu ac felly yn gallu bod yn fregus i ymosodiad, dwyn oddi arnoch neu ymosodiad rhywiol.<\/p>\n<p>Y prif effaith ar y corff a\u2019r prif risg yw\u2019r effaith hirdymor ar y bledren.\u00a0\u00a0 Mae\u2019n gallu arwain at Syndrom Pledren Cetamin.\u00a0\u00a0 Dyma pryd mae Cetamin yn llosgi leinin mewnol y bledren sy\u2019n golygu bod angen triniaeth lawfeddygol neu hyd yn oed dynnu\u2019r bledren.<\/p>\n<p>Prif symptomau hyn yw crampiau difrifol a elwir yn \u201cgrampiau K\u201d neu waed yn y d\u0175r.<\/p>\n<p>Dylai defnyddiwr geisio cymorth meddygol ar unwaith ar y pwynt hwn.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r effeithiau a pheryglon corfforol. Mae Cetamin yn gallu gadael defnyddiwr gyda materion iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder drwy ddibynniaeth a hyd yn oed cyfnodau seicotig oherwydd effeithiau rhithweledol Cetamin.<\/p>\n<p>Gyda holl sylweddau mae yna berygl y gallwch gymryd gorddos a marw.<\/p>\n<hr \/>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-6276 aligncenter\" src=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"106\" srcset=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg 300w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-768x272.jpg 768w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg.jpg 886w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p><strong>Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i\u2019r Siop INFO neu cysylltwch \u00e2 ni ar 01978 295600 \/\u00a0<\/strong><a href=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/ask-wrex\/\"><strong>Neges wib<\/strong><\/a><strong>. \u00a0Gadewch neges a byddwn yn cysylltu \u00e2 chi cyn gynted \u00e2 phosib.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pwyntiau Allweddol Mae Cetamin yn sylwedd powdr gwyn sydd hefyd yn gallu bod mewn ffurf hylif clir neu dabled.\u00a0\u00a0 Pan mae\u2019n cael ei lyncu mae\u2019n gallu blasu\u2019n eithaf chwerw. Bydd&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":8749,"parent":6653,"menu_order":114,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-info.php","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"class_list":["post-7370","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/7370","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7370"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/7370\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8772,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/7370\/revisions\/8772"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6653"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8749"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7370"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}