{"id":8750,"date":"2024-07-23T16:30:11","date_gmt":"2024-07-23T16:30:11","guid":{"rendered":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?page_id=8750"},"modified":"2024-08-06T13:58:42","modified_gmt":"2024-08-06T13:58:42","slug":"cocen","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/info\/drink-drugs-smoking\/cyffuriau-alcohol-ac-ysmygu\/cocen\/","title":{"rendered":"Coc\u00ean"},"content":{"rendered":"\n<p id=\"tw-target-text\"><em><u>Pwyntiau Allweddol:<\/u><\/em><em><u><\/u><\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Mae coc\u00ean yn gyffur adfywiol ac nid yw\u2019r effaith yn para\u2019n hir ar \u00f4l ei ddefnyddio, dywedir yn aml ei fod yn gyffur sy\u2019n gwneud i bobl fod eisiau mwy a mwy ohono.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel pob cyffur adfywiol, ar \u00f4l ei ddefnyddio bydd cyfnod isel gan eich bod wedi defnyddio eich egni i gyd.&nbsp; Bydd hyn yn gwneud i chi deimlo\u2019n ofnadwy a gall arwain at iselder.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae coc\u00ean yn cael ei gamddefnyddio drwy ei snwffian, ysmygu neu ei chwistrellu, mae modd ei rwbio ar y deintgig hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan fydd coc\u00ean yn cael ei snwffian, fel arfer mae\u2019r cyffur yn cael ei osod ar ddrych, pl\u00e2t neu arwyneb llyfn arall, ei rannu\u2019n \u2018linellau\u2019 a\u2019i snwffian drwy\u2019r trwyn gyda gwelltyn, pres papur wedi\u2019i rolio neu ddyfais anadlol arall.&nbsp; Mae coc\u00ean yn cael ei amsugno i\u2019r gwaed drwy feinwe\u2019r trwyn.&nbsp; Bydd yr effaith neu\u2019r \u2018anterth\u2019 drwy snwffian yn para 15 i 30 munud, ond nid yw\u2019n digwydd mor gyflym ag y mae wrth ei ysmygu neu ei chwistrellu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae effaith coc\u00ean yn cael ei ddisgrifio fel ewfforig gyda mwy o egni, llai o flinder, a mwy o ymwybyddiaeth feddyliol.&nbsp; Efallai y bydd y rhai sy\u2019n ei ddefnyddio yn siaradus, yn hwyliog ac yn colli eu chwant am fwyd neu ddim yn teimlo bod angen cysgu arnynt.&nbsp; Mae effaith seicoweithredol a phleserus coc\u00ean yn fyr-dymor heb ei gymryd dro ar \u00f4l tro.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae enwau stryd yn cynnwys: Chang, Charlie, coke, crack, flake, snow, sniff, pebbles, freebase, toot, wash, rocks, sniff.<\/p>\n\n\n\n<p><em><u>Y Gyfraith:<\/u><\/em><em><u><\/u><\/em><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae Coc\u00ean yn gyffur Dosbarth A, sy\u2019n golygu ei bod yn anghyfreithlon ei gael yn eich meddiant, ei roi i rywun arall neu ei werthu.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae ei feddiannu yn gallu arwain at hyd at 7 mlynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu\u2019r ddau.<\/li>\n\n\n\n<li>Gallwch gael eich carcharu am oes a derbyn dirwy ddiderfyn, neu\u2019r ddau, am gyflenwi peth i rywun arall, gan gynnwys eich ffrindiau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Fel gyrru dan ddylanwad alcohol, mae gyrru dan ddylanwad cyffuriau yn beryglus ac anghyfreithlon.&nbsp; Os cewch eich dal yn gyrru dan ddylanwad, efallai y cewch ddirwy drom, eich gwahardd rhag gyrru, neu gyfnod yn y carchar.<\/p>\n\n\n\n<p><em><u>Effeithiau ar y corff a risgiau:<\/u><\/em><em><u><\/u><\/em><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae coc\u00ean yn beryglus i unrhyw un sydd \u00e2 phwysedd gwaed uchel neu gyflwr ar y galon, ond gall hyd yn oed pobl ifanc sy\u2019n iach brofi ffit, trawiad ar y galon neu str\u00f4c ar \u00f4l defnyddio\u2019r cyffur.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r perygl o orddos yn cynyddu os ydych chi\u2019n cymysgu coc\u00ean gyda sylweddau eraill neu alcohol.\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Dros amser, mae snwffian coc\u00ean yn gwneud niwed i\u2019r cartilag yn eich trwyn sy\u2019n gwahanu eich ffroenau.\u00a0 Gall rhai sy\u2019n ei ddefnyddio\u2019n aml golli\u2019r cartilag a dim ond un ffroen fydd ganddynt wedi hynny.\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Gall cymryd coc\u00ean pan yn feichiog achosi niwed i\u2019r babi, arwain at golli\u2019r plentyn, esgor yn gynnar a phwysau geni isel.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae ysmygu coc\u00ean yn rheolaidd yn gallu achosi problemau anadlu a phoen yn y frest.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall chwistrellu coc\u00ean ddifrodi gwythiennau ac achosi briwiau a madredd.\u00a0 Gall rhannu nodwyddau neu offer chwistrellu ledaenu haint HIV a hepatitis hefyd.\u00a0 Mae hefyd yn haws cymryd gorddos wrth chwistrellu coc\u00ean.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae defnydd rheolaidd o goc\u00ean yn gallu gwneud i bobl deimlo\u2019n:<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>isel<\/li>\n\n\n\n<li>blinedig<\/li>\n\n\n\n<li>pryderus<\/li>\n\n\n\n<li>paranoid<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p id=\"tw-target-text\">Gall coc\u00ean ddod \u00e2 hen broblemau iechyd meddwl yn \u00f4l i\u2019r wyneb hefyd, ac os oes gan berthynas i chi broblemau iechyd meddwl, efallai y bydd mwy o risg ohonynt i chi.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pwyntiau Allweddol: Mae coc\u00ean yn gyffur adfywiol ac nid yw\u2019r effaith yn para\u2019n hir ar \u00f4l ei ddefnyddio, dywedir yn aml ei fod yn gyffur sy\u2019n gwneud i bobl fod&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":21,"featured_media":8751,"parent":6653,"menu_order":79,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"class_list":["post-8750","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8750","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/21"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8750"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8750\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8771,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8750\/revisions\/8771"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6653"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8751"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8750"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}