{"id":6914,"date":"2017-03-27T09:52:49","date_gmt":"2017-03-27T09:52:49","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?p=6914"},"modified":"2017-05-15T14:20:13","modified_gmt":"2017-05-15T14:20:13","slug":"be-syn-bod-ar-ecstasi-mdma","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/be-syn-bod-ar-ecstasi-mdma\/","title":{"rendered":"Be sy\u2019n bod ar&#8230;.. Ecstasi (MDMA)"},"content":{"rendered":"<p>Ecstasi (neu MDMA) ydi\u2019r cyffur adfywiol a oedd yn cael ei alw\u2019n gyffur parti yn yr 80au a\u2019r 90au. Mae ganddo sawl enw arall hefyd e.e. pils, Garys, Mastercard, Gold, E, MDMA. Yn ddiweddar, mae gweithwyr In2change wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl ifanc yn Wrecsam sy\u2019n cymryd ecstasi ac mae yna hefyd bryderon cenedlaethol ynghylch cynnydd ym mhurdeb y cyffur. Rydym ni wedi cael sawl rhybudd ac mae tabledi wedi eu darganfod sy\u2019n cynnwys dwywaith a hyd yn oed teirgwaith yn fwy o\u2019r dos, sydd wedi arwain at ddigwyddiadau difrifol a marwolaethau.<\/p>\n<p>Mai 2016 \u2013 adroddodd Heddlu Manceinion Fwyaf fod merch 17 mlwydd oed wedi cymryd tabledi ecstasi \u2018MasterCard\u2019. Bu farw yn yr ysbyty.<\/p>\n<p>Mehefin 2016 \u2013 rhuthrwyd tair merch 12 mlwydd oed i&#8217;r ysbyty ar \u00f4l cymryd tabledi ecstasi &#8216;Teddy&#8217; yn Salford, Manceinion Fwyaf.<\/p>\n<p>Gorffennaf 2016 \u2013 bu farw dau berson yn eu harddegau (un ferch ac un bachgen) yng Ng\u0175yl Gerddoriaeth yr Alban ar \u00f4l cymryd tabledi ecstasi \u2018Rolex\u2019.<\/p>\n<p>Mae ecstasi, fel pob cyffur arall, yn effeithio ar bawb yn wahanol a dydych chi ddim yn gwybod efo beth mae wedi ei dorri.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, rydym ni\u2019n annog pobl ifanc a phawb arall i beidio \u00e2 chymryd cyffuriau ond, os ydych chi\u2019n cymryd cyffuriau, cofiwch y cyngor yma:<\/p>\n<ul>\n<li>Cymrwch nhw mewn lle diogel ac efo pobl rydych chi&#8217;n ymddiried ynddyn nhw &#8211; peidiwch byth \u00e2 chymryd cyffuriau pan rydych chi ar eich pen eich hun!<\/li>\n<li>Byddwch yn ofalus efo\u2019r dos.<\/li>\n<li>Rhowch amser i\u2019r cyffur weithio cyn cymryd mwy.<\/li>\n<li>Peidiwch \u00e2 chymysgu&#8217;r cyffur gydag alcohol neu gyffur arall.<\/li>\n<li>Peidiwch \u00e2 rhannu unrhyw offer, hyd yn oed os ydych chi\u2019n sniffian.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Os ydych chi&#8217;n camddefnyddio sylweddau ac arnoch chi angen cymorth i ddefnyddio llai neu i roi&#8217;r gorau iddi\u2019n gyfan gwbl, neu os ydych chi\u2019n adnabod rhywun sydd angen gwybodaeth a chefnogaeth, yna ffoniwch ni ar (01978) 295629 neu anfonwch e-bost i <a href=\"mailto:in2change@wrexham.gov.uk\">in2change@wrexham.gov.uk<\/a>.<\/p>\n<p>Mae In2Change yn wasanaeth cyfrinachol a rhad ac am ddim sy\u2019n gweithio efo pobl ifanc 11-18 oed (hyd at eu pen-blwydd yn 19 oed). Mae\u2019r gwasanaeth yn un gwirfoddol ac felly os ydych chi\u2019n atgyfeirio person ifanc at y gwasanaeth mae\u2019n rhaid i chi ddweud wrthyn nhw cyn gwneud hynny.<\/p>\n<p>Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth yn <a href=\"http:\/\/www.talktofrank\">www.talktofrank<\/a> neu fe allwch chi fynd i wefan Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru (<a href=\"http:\/\/www.dan247.org.uk\">www.dan247.org.uk<\/a>) neu eu ffonio ar 0808 808 2234.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ecstasi (neu MDMA) ydi\u2019r cyffur adfywiol a oedd yn cael ei alw\u2019n gyffur parti yn yr 80au a\u2019r 90au. Mae ganddo sawl enw arall hefyd e.e. pils, Garys, Mastercard, Gold,&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":6915,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[1,9],"tags":[],"class_list":["post-6914","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-eu-hagor","category-pethau-i-wneud"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6914","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6914"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6914\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7028,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6914\/revisions\/7028"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6915"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6914"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6914"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6914"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}