{"id":7410,"date":"2018-12-21T15:01:57","date_gmt":"2018-12-21T15:01:57","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?p=7410"},"modified":"2018-12-21T15:08:39","modified_gmt":"2018-12-21T15:08:39","slug":"awgrymiadau-gwych-am-noson-allan-arbennig-yn-wrecsam-dros-y-nadolig-yma","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/awgrymiadau-gwych-am-noson-allan-arbennig-yn-wrecsam-dros-y-nadolig-yma\/","title":{"rendered":"Awgrymiadau Gwych am Noson Allan Arbennig yn Wrecsam dros y Nadolig yma"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-7412\" src=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2018\/12\/logo-welsh.png\" alt=\"\" width=\"225\" height=\"225\" srcset=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2018\/12\/logo-welsh.png 225w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2018\/12\/logo-welsh-150x150.png 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 225px) 100vw, 225px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<blockquote><p>Os ydych yn mentro allan i Wrecsam dros gyfnod yr \u0175yl, rydym eisiau gwneud yn si\u0175r eich bod yn cael noson gofiadwy \u2013 a hynny am y rhesymau cywir. Cymerwch olwg ar ein hawgrymiadau gwych all eich helpu i sicrhau fod eich noson allan yn un diogel a dymunol.<\/p><\/blockquote>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Awgrym 1: Peidiwch \u00e2 llwytho\u2019ch hun ag alcohol yn y t\u0177 <\/strong><\/p>\n<p>Gall ymddangos yn syniad gwych i gael ambell ddiod adref cyn eich noson allan. Mae\u2019n bosib eich bod yn meddwl y gallai hyn arbed arian i chi a sicrhau eich bod yn ymlacio fwy, ond gall yfed gormod adref cyn noson allan dorri eich noson yn fyr yn y pen draw. Mae pobl sy\u2019n yfed adref cyn mynd allan yn tueddu i golli cyfrif ar faint y maent wedi ei yfed, ac yn y pen draw yn meddwi mwy nac yr oeddent wedi ei fwriadu. Gall hyn yn aml eich gwneud yn fwy tebygol o:<\/p>\n<ul>\n<li>Ddioddef salwch oherwydd goryfed alcohol, gan gynnwys chwydu \u2013 sy\u2019n gallu bod yn ddiweddglo annymunol i\u2019ch noson;<\/li>\n<li>Fod yn rhan o sgarmes;<\/li>\n<li>Gael eich anafu trwy ddisgyn;<\/li>\n<li>Fod yn fwy agored i niwed.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Awgrym 2: Gwyliwch allan am yr arwyddion Braf Bob Nos (ychwanegu delwedd)<\/strong><\/p>\n<p>Pan fyddwch yn cerdded i fewn i safle drwyddedig ac yn gweld yr arwydd hwn, mae&#8217;n golygu y gallwch ymlacio \u2013 rydych newydd gamu i mewn i leoliad sydd wedi\u2019i achredu gan Braf Bob Nos (BBN) Wrecsam. Mae pob lleoliad BBN wedi rhoi eu safleoedd ar brawf er mwyn profi pa mor ymrwymedig ydynt i&#8217;ch cadw chi yn fwy diogel ar eich noson allan.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Awgrym 3: Bwytewch cyn yfed<\/strong><\/p>\n<p>Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn bwyta cyn i chi fynd allan. Mae bwyd yn amsugno alcohol, gan ei arafu cyn iddo fynd i lif y gwaed. Bydd yn darparu mwy o egni ac yn lleihau\u2019r effeithiau drannoeth.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Awgrym 4: Nid ras yw hyn \u2013 yfwch ar eich cyflymder eich hun<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019n cymryd hyd at awr i\u2019ch corff brosesu pob uned o alcohol. Cymerwch hoe rhwng diodydd, felly. Boed denau, byr, gwryw, benyw &#8230;. mae pawb yn dygymod ag alcohol yn wahanol, felly pam ymdrechu i ddal i fyny \u00e2\u2019ch ffrindiau? Arbedwch eich wyneb (a\u2019ch arian) trwy gadw at rowndiau llai gydag ychydig o ffrindiau, neu ceisiwch eu hosgoi yn gyfan gwbl. Mae gwrthod diod yn peri llai o embaras o lawer na thaflu un i fyny.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>O orffen eich diod yn rhy gyflym, byddwch yn teimlo dan bwysau i archebu un arall. Yn lle hyn, gwnewch i\u2019ch diod (a\u2019ch noson) barhau am yn hirach. Sgwrsiwch, sipiwch, bwytewch fyrbryd, sicrhewch eich bod yn cael awyr iach, a sgwrsiwch fwy.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<h3><strong>Awgrym 5:<\/strong> <strong>Gwyliwch allan am eich ffrindiau<\/strong><\/h3>\n<p>Os am noson allan wych, byddwch am i\u2019ch ffrindiau fod ar eu gorau hefyd. Gallai n\u00f4l byrbrydau a jwg o dd\u0175r ar gyfer y bwrdd cyfan felly fod yn dda i bawb. Gwyliwch allan am eich gilydd rhag ofn fod rhywun yn dechrau mynd dros ben llestri. Os ydynt, ewch i n\u00f4l rhywfaint o dd\u0175r neu ddiod ysgafn o\u2019r bar, gan eu hannog i arafu eu hyfed. Ni fyddwch eisiau gorfod eu gosod mewn tacsi, glanhau ch\u0175yd oddi ar eu hesgidiau na methu allan ar y noson trwy orfod mynd \u00e2 nhw adref.<\/p>\n<h3><strong>Awgrym 6:<\/strong> <strong>Aros gyda\u2019ch gilydd<\/strong><\/h3>\n<p>Sicrhewch eich bod yn ymadael \u00e2\u2019r dafarn neu\u2019r clwb mewn parau neu fel gr\u0175p. Os oes rhywun wedi diflannu peidiwch a chymryd eu bod yn iawn \u2013 gwnewch yn si\u0175r o hynny. Peidiwch \u00e2 gadael neb ar \u00f4l. Nid merched yn unig sydd angen gwylio allan am hyn \u2013 gall dynion ar eu pennau eu hunain fynd i drafferth hefyd. Cadwch ffrind \u00e2 chi, felly, a cheisiwch beidio a threulio gormod o amser yn loetran ar ddiwedd y noson.<\/p>\n<p><strong>Awgrym 7: Mae cymorth wrth law os oes arnoch ei angen<\/strong><\/p>\n<p>Os ydych yn teimlo ychydig yn rhy feddw, gwyliwch allan am Fugeiliaid Stryd Wrecsam sydd yn cynnig cefnogaeth tosturiol yng nghanol y dref ac a all eich helpu. Maent yn gweithio mewn partneriaeth \u00e2\u2019r heddlu ac fe allant roi d\u0175r a chymorth ymarferol i chi os arnoch ei angen.<\/p>\n<p>Gallwch hefyd ymweld \u00e2\u2019r Ganolfan Lesiant yn Hafod y Wern, Rhodfa San Silyn, Wrecsam. Mae&#8217;r ganolfan wedi ei hariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a\u2019r Bwrdd Iechyd. Caiff ei staffio gan berson\u00e9l y Groes Goch Brydeinig ac mae\u2019n cynnig cymorth meddygol, lle i adfer, a gofal os ydych wedi cael gormod i\u2019w yfed, wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon, neu\u2019n teimlo yn agored i niwed.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Awgrym 8: Troi am adref \u2013 peint arall &#8230; o dd\u0175r<\/strong><\/p>\n<p>Os ydych yn stopio yfed alcohol cyn diwedd y noson ac yn yfed rhywfaint o dd\u0175r, gall eich corff gael y blaen trwy gychwyn adfer ei hun, sydd yn golygu y byddwch yn cyrraedd adref yn ddiogel ac \u00e2 siawns well o ddelio \u00e2\u2019r hangofyr drannoeth. Yfwch wydraid o dd\u0175r pan fyddwch yn cyrraedd adref er mwyn ceisio ail hydradu \u2013 byddwch yn diolch am hyn yn y bore. Mae\u2019n bosib y bydd arnoch hefyd eisiau ystyried rhoi ychydig ddyddiau heb yfed i\u2019ch corff er mwyn iddo adfer wedi sesiwn yfed drom.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3><strong>Awgrym 9:<\/strong> <strong>Cynlluniwch eich taith adref \u2013 a yw eich tacsi yn dacsi go iawn?<\/strong><\/h3>\n<p>\u201cHoffech chi dacsi?\u201d Wel, mae hynny\u2019n dibynnu ar y tacsi \u2013 ydi o\u2019n un go iawn?\u00a0 Mae gyrwyr tacsi didrwydded yn ddynion (fel arfer) sydd yn mynd allan yn hwyr y nos ac yn chwilio am bobl sydd wedi cael gormod i\u2019w yfed er mwyn eu gyrru adref. Am nad ydynt wedi eu rheoleiddio, nid oes unrhyw ffordd i chi wybod a yw\u2019r gyrrwr neu\u2019r cerbyd yn ddiogel. Waeth pa mor hwyr yw hi, does dim rheswm dros fynd am dacsi amheus.<\/p>\n<p>Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn cadw rhifau neu apiau ar gyfer cwmn\u00efau tacsis lleol ar eich ff\u00f4n neu ofynnwch i aelod o staff yn y lleoliad \u2013 dylent fod \u00e2 rhai. Sicrhewch eich bod yn gwirio fod unrhyw dacsi y byddwch yn mynd iddo wedi ei drwyddedu yn gywir. Dylai pob cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacni yn Wrecsam fod yn arddangos platiau trwydded gwyn a phiws y tu allan i\u2019r cerbydau.<\/p>\n<p>Bydd gan gerbydau hurio preifat arwyddion melyn yn y ffenestri cefn hefyd.<\/p>\n<p>Dylai fod gan yr holl yrwyr fathodyn ID yn dangos eu henw, llun ohonynt, rhif trwydded a\u2019r dyddiad y mae\u2019r drwydded yn dod i ben arno. Os na allwch weld y bathodyn, gofynnwch i&#8217;w weld cyn i chi fynd i unman.<\/p>\n<p>Os oes yn rhaid i chi aros am amser hir am dacsi, arhoswch yn rhywle diogel sydd wedi ei oleuo\u2019n dda nes i\u2019r tacsi ymddangos \u2013 gyda ffrind, yn ddelfrydol.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Rhagor o Wybodaeth<\/strong><\/p>\n<p>Gall unrhyw un sydd eisiau mwy o wybodaeth am y niweidiau posibl a achosir gan yfed ymweld \u00e2\u2019r gwefannau hyn:<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.nhs.uk\/Livewell\/alcohol\/Pages\/Alcoholhome.aspx\">http:\/\/www.nhs.uk\/Livewell\/alcohol\/Pages\/Alcoholhome.aspx<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.drinkaware.co.uk\/\">https:\/\/www.seneddieuenctid.cymru\/hafan\/<\/a><\/p>\n<p><u>\u00a0<\/u><\/p>\n<p>Gall unrhyw un sydd yn pryderu ynghylch eu harferion yfed gysylltu \u00e2 Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru DAN 24\/7 ar y rhif rhadff\u00f4n 0808 2234 neu fynd i <a href=\"http:\/\/www.dan247.org.uk\/\">www.dan247.org.uk<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Dysgwch fwy am ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy <strong>yma<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>&nbsp; Os ydych yn mentro allan i Wrecsam dros gyfnod yr \u0175yl, rydym eisiau gwneud yn si\u0175r eich bod yn cael noson gofiadwy \u2013 a hynny am y rhesymau cywir&#8230;.<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":7412,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-7410","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-eu-hagor"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7410","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7410"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7410\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7417,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7410\/revisions\/7417"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7412"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7410"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7410"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7410"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}