{"id":7437,"date":"2019-03-21T12:35:44","date_gmt":"2019-03-21T12:35:44","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?p=7437"},"modified":"2019-03-21T12:56:31","modified_gmt":"2019-03-21T12:56:31","slug":"bywydau-ifanc-wrecsam-1","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/bywydau-ifanc-wrecsam-1\/","title":{"rendered":"\u2018Bywydau Ifanc Wrecsam\u2019 &#8211; 1"},"content":{"rendered":"<blockquote>\n<h3><strong><u>Bywydau Wrecsam Ifanc <\/u><\/strong><\/h3>\n<\/blockquote>\n<p><strong><u>\u00a0<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Mae Wrecsam Ifanc wedi ymuno \u00e2 myfyrwyr Coleg Cambria yn Wrecsam i roi cipolwg ar fywydau pobl ifanc yn Wrecsam.\u00a0 Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf byddwn yn arddangos eu herthyglau, sy\u2019n cynnwys \u2018Bywyd adolygwr p\u00eal-droed\u2019, \u2018Barn am Brexit ar gyfer pobl ifanc\u2019, \u2018Taith i\u2019r lleuad\u2019, \u2018Sut i adeiladu cyfrifiadur\u2019, \u2018Fy hoff albwm\u2019, \u2018Fy hoff gig\u2019, \u2018Pethau y buaswn yn newid yn Wrecsam\u2019, \u2018Pethau dw i\u2019n eu hoffi am Wrecsam\u2019.<\/p>\n<p>Mae\u2019r prosiect yn gyfle i chi siarad am lawer o bethau (dim byd anweddus) a gallwch wneud hynny drwy gyfrwng fideo, erthygl neu animeiddiad. \u00a0 Os hoffech chi gymryd rhan ym mhrosiect \u2018Bywydau Wrecsam Ifanc\u2019 yna cysylltwch \u00e2 ni.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<blockquote>\n<h3><u>Bywyd ym myd y b\u00eal<\/u><\/h3>\n<\/blockquote>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-7439\" src=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/young-wrexham-welsh-300x153.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"153\" srcset=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/young-wrexham-welsh-300x153.png 300w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/young-wrexham-welsh.png 354w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-7440\" src=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/Colegcambria-logo.png\" alt=\"\" width=\"220\" height=\"220\" srcset=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/Colegcambria-logo.png 220w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/Colegcambria-logo-150x150.png 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 220px) 100vw, 220px\" \/><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-7441\" src=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/Daniel-Roberts-225x300.png\" alt=\"\" width=\"225\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/Daniel-Roberts-225x300.png 225w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/Daniel-Roberts-768x1024.png 768w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/Daniel-Roberts.png 800w\" sizes=\"auto, (max-width: 225px) 100vw, 225px\" \/><\/p>\n<p>Helo bawb, Daniel Roberts ydw i, neu @danthemannw ar twitter. Fe gefais fy ngeni gyda Pharlys yr Ymennydd, sy\u2019n effeithio ar fy nghoesau a fy ngallu i siarad. Oherwydd hynny dwi\u2019n defnyddio cadair olwyn fodur i fynd o le i le. I siarad dwi\u2019n defnyddio TTSReader ar-lein gan nad ydi fy mheiriant siarad DynaVox yn gweithio mwyach.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae gen i ddiddordeb brwd mewn adolygu gemau gartref Clwb P\u00eal-droed Wrecsam ar Tumblr. Fe ddechreuais i ysgrifennu adolygiadau pan oeddwn i\u2019n aelod o d\u00eem lleol o\u2019r enw CPD Cynhwysol Wrecsam. Roedd y t\u00eem yn cynnwys pobl ag anableddau, anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl, ac yn chwarae mewn amrywiaeth o dwrnameintiau. Fedra i ddim chwarae p\u00eal-droed oherwydd fy anabledd, ond roeddwn i\u2019n cael cofnodi enwau\u2019r rhai oedd yn sgorio yn y sesiynau hyfforddiant. Fi oedd yn gyfrifol am ysgrifennu adroddiadau o\u2019r gemau lleol, ac roedd gen i golofn yn y newyddlen bob mis.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Bu\u2019n rhaid imi roi\u2019r gorau i fynd i\u2019r clwb gan fod pethau eraill yn fy nghadw\u2019n brysur. Felly penderfynais ymuno \u00e2 Tumblr ac ysgrifennu adolygiadau o gemau Wrecsam. Fe ges i flas ar ysgrifennu adolygiadau o gemau CPD Cynhwysiant ac roedd pobl yn eu canmol yn y sylwadau, ac felly roedd hi\u2019n gwneud synnwyr i ddal ati.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Dwi wedi cefnogi Wrecsam ers pan dwi\u2019n cofio, ond fe ddechreuais i fynd i\u2019r gemau cartref yn rheolaidd ddechrau tymor 2015-16. Roeddwn i\u2019n mynd i\u2019r gemau gyda fy ngofalwr a oedd efo fi am saith awr bob wythnos ar y pryd. Dydi o ddim efo fi rwan, ac felly mae Mam a Nana\u2019n mynd \u00e2 fi i\u2019r gemau pan maen nhw\u2019n gallu.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Beth sy\u2019n aros fwyaf yn y cof? Fe gafodd CPD Cynhwysiad wahoddiad i chwarae\u2019n erbyn Cynghorwyr Wrecsam yn stadiwm Queensway, lle mae\u2019r Croesgadwyr yn chwarae eu gemau rygbi\u2019r gynghrair, ar 13 Hydref 13 2016. Rheolwr t\u00eem y Cynghorwyr oedd Maer Wrecsam ar y pryd, John Pritchard. Fe enillon ni o chwe g\u00f4l i bedair, ac ar \u00f4l y g\u00eam fe gawsom ein gwahodd i Neuadd y Dref i gael ychydig o luniaeth. Mae\u2019r diwrnod wedi aros yn fy nghof am mai dyma pryd ddechreuodd fy adolygiadau fod yn ddifyr ac yn dda.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Fy hoff atgof o adolygu gemau Wrecsam yw\u2019r adeg pan es i i\u2019w gweld nhw\u2019n chwarae oddi cartref yn Solihull ar 27 Awst 2018. Mi gefais i fynd ar y daith diolch i Swyddog Cyswllt Anabledd y clwb, Kerry, a chwmni Valentine Travel. Er bod y Dreigiau wedi colli 0 &#8211; 1, fe ges i amser da gan mai hon oedd fy ng\u00eam gyntaf erioed oddi cartref, gan na fedra i fynd ar y bws fel y rhan fwyaf o gefnogwyr.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Waeth imi gyfaddef, dw i\u2019n defnyddio\u2019r adroddiadau ar wefan Wrecsam i fy atgoffa o\u2019r g\u00eam dwi\u2019n ei hadolygu. Fyddwn i byth yn dwyn na lladrata eu gwaith. Dwi wrth fy modd efo beth mae t\u00eem y cyfryngau\u2019n ei wneud, a\u2019r sylwebaeth radio ar Calon FM. Fe fyddai\u2019n gwrando arnyn nhw os na fedra i fynd i\u2019r g\u00eam.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Fel y soniais i, rydw i ar Tumblr os hoffech chi ddarllen fy adolygiadau. Chwiliwch am danthemannw.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bywydau Wrecsam Ifanc \u00a0 Mae Wrecsam Ifanc wedi ymuno \u00e2 myfyrwyr Coleg Cambria yn Wrecsam i roi cipolwg ar fywydau pobl ifanc yn Wrecsam.\u00a0 Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":7440,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-7437","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-eu-hagor"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7437","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7437"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7437\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7444,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7437\/revisions\/7444"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7440"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7437"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7437"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7437"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}