{"id":7459,"date":"2019-04-04T09:01:14","date_gmt":"2019-04-04T09:01:14","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?p=7459"},"modified":"2019-04-04T09:18:07","modified_gmt":"2019-04-04T09:18:07","slug":"bywydau-ifanc-wrecsam-brexit","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/bywydau-ifanc-wrecsam-brexit\/","title":{"rendered":"Bywydau Ifanc Wrecsam &#8211; Brexit"},"content":{"rendered":"<h3>Bywydau Ifanc Wrecsam<\/h3>\n<h3>Mae Wrecsam Ifanc wedi ymuno \u00e2 myfyrwyr Coleg Cambria yn Wrecsam i roi cipolwg ar fywydau pobl ifanc yn Wrecsam.\u00a0 Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf byddwn yn arddangos eu herthyglau, sy\u2019n cynnwys \u2018Bywyd adolygwr p\u00eal-droed\u2019, \u2018Barn am Brexit ar gyfer pobl ifanc\u2019, \u2018Taith i\u2019r lleuad\u2019, \u2018Sut i adeiladu cyfrifiadur\u2019, \u2018Fy hoff albwm\u2019, \u2018Fy hoff gig\u2019, \u2018Pethau y buaswn yn newid yn Wrecsam\u2019, \u2018Pethau dw i\u2019n eu hoffi am Wrecsam\u2019.<\/h3>\n<h3>Mae\u2019r prosiect yn gyfle i chi siarad am lawer o bethau (dim byd anweddus) a gallwch wneud hynny drwy gyfrwng fideo, erthygl neu animeiddiad. \u00a0 Os hoffech chi gymryd rhan ym mhrosiect \u2018Bywydau Wrecsam Ifanc\u2019 yna cysylltwch \u00e2 ni.<\/h3>\n<p>Yn anffodus, dim ond yn Saesneg y mae\u2019r stori newyddion yma ar gael.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Brexit-B En\" src=\"https:\/\/player.vimeo.com\/video\/314724192?dnt=1&amp;app_id=122963\" width=\"500\" height=\"281\" frameborder=\"0\" allow=\"autoplay; fullscreen; picture-in-picture; clipboard-write\"><\/iframe><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<blockquote>\n<h5><\/h5>\n<h5><strong>Brexit<\/strong><\/h5>\n<\/blockquote>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Ar ddiwedd mis Mawrth 2017 fe wnaethon ni ddechrau newid llwybr ein gwlad. Gyda mwyafrif o 51.9% fe wnaethon ni ddewis gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE); fe wnaeth y penderfyniad ysgwyd y wlad a\u2019r byd fel ei gilydd. Roedd llawer yn credu, ynghyd \u00e2\u2019r rhagolygon cynnar, y bydden ni\u2019n pleidleisio i aros yn yr UE.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Yn fy marn i, mae\u2019n bwysig edrych ar yr hinsawdd roedden ni\u2019n byw ynddi ar y pryd. Ar 20fed Ionawr roedd Donald Trump wedi dechrau yn ei swydd. Roedd llawer o bobl ar draws y byd yn teimlo effaith hyn. Ers hynny, mae llawer o wledydd wedi mynd yn fwy cenedlaetholgar, e.e. Gwlad Pwyl, Ffrainc, America, y Deyrnas Unedig a De Affrica. Mae llawer o bobl yn credu bod y byd yn fwy rhanedig nag erioed.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Bellach, mae\u2019n ymddangos bod tri dewis yn wynebu ein gwlad;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Gadael \u2013 heb gytundeb <\/strong><\/p>\n<p>Os na fyddwn yn cytuno ar gytundeb cyn 29ain Mawrth, neu chyn hynny, byddwn yn cael ein gorfodi i adael yr UE heb gytundeb. Bydd gadael heb gytundeb yn ein torri i ffwrdd o weddill y byd (nid yr UE yn unig), bydd yn rhaid ciwio am filltiroedd wrth ein ffiniau, bydd hyn yn cyfyngu ar ein gallu i gael bwyd sy\u2019n cael ei fewnforio\u2019n bennaf i\u2019r wlad. Rydyn ni\u2019n ceisio lleihau\u2019r effaith drwy storio rhai nwyddau ond does dim ffordd o atal hyn rhag cael effaith enfawr ar ein heconomi. Er na wnaeth yr ymgyrch dros adael yr UE bleidleisio o blaid hyn, dyma\u2019r peth agosaf maen nhw\u2019n mynd i\u2019w gael at Brexit go iawn.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Aros \u2013 Refferendwm newydd <\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r ymgyrch o blaid Aros yn gefnogol iawn i\u2019r dewis hwn; mae\u2019r ymgyrchwyr dros Aros yn credu bod yr ymgyrch Gadael wedi dweud celwydd wrth y wlad ac nad dyma beth wnaeth pobl bleidleisio drosto. Mae\u2019n debygol byddai refferendwm newydd yn pleidleisio o blaid aros gan y byddai mwy o bleidleiswyr ifanc yn cael cymryd rhan. Mae\u2019r dewis hwn yn annhebygol o ddigwydd gan fod y Prif Weinidog wedi dweud na fydd hi\u2019n cynnig refferendwm newydd. Er bod llawer o bobl yn erbyn refferendwm arall, dydyn nhw ddim yn gallu penderfynu beth ddylai gael ei ysgrifennu ar y papur pleidleisio. Gadael neu aros, dim cytundeb neu gytundeb gwael, ac oherwydd nad oes dim dealltwriaeth glir ar hyn, mae hyn yn annhebygol o ddigwydd.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Gadael \u2013 Cytundeb Gwael <\/strong><\/p>\n<p>Mae ein Prif Weinidog presennol, Theresa May, wedi treulio\u2019r misoedd diwethaf yn creu cytundeb a fydd yn ein galluogi i adael yr UE. Gallwch weld fanylion y cytundeb yma: <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/politics\/2018\/nov\/14\/theresa-mays-draft-brexit-deal-what-is-it-and-what-happens-next\">Cytundeb Drafft<\/a>. Mae\u2019n ymddangos bod y cytundeb wedi cael ei lunio i fodloni\u2019r rhai sydd o blaid aros a\u2019r rhai sydd o blaid gadael, ac oherwydd hyn mae\u2019n ymddangos ei fod wedi gwylltio\u2019r ddwy garfan. Er mwyn i\u2019r cytundeb hwn weithio bydd yn rhaid i fwyafrif bleidleisio o\u2019i blaid yn y senedd. Mae\u2019n debygol bydd y bleidlais hon yn fethiant i May.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bywydau Ifanc Wrecsam Mae Wrecsam Ifanc wedi ymuno \u00e2 myfyrwyr Coleg Cambria yn Wrecsam i roi cipolwg ar fywydau pobl ifanc yn Wrecsam.\u00a0 Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf byddwn&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":7460,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-7459","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-eu-hagor"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7459","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7459"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7459\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7464,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7459\/revisions\/7464"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7460"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7459"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7459"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7459"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}