{"id":7466,"date":"2019-04-11T09:40:05","date_gmt":"2019-04-11T09:40:05","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?p=7466"},"modified":"2019-04-11T09:44:08","modified_gmt":"2019-04-11T09:44:08","slug":"mae-pobl-ifanc-yn-siarad-am-y-ffordd-y-mae-prosiect-a-redir-gan-y-cyngor-wediu-helpu-i-drawsnewid-eu-bywydau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/mae-pobl-ifanc-yn-siarad-am-y-ffordd-y-mae-prosiect-a-redir-gan-y-cyngor-wediu-helpu-i-drawsnewid-eu-bywydau\/","title":{"rendered":"Mae Pobl Ifanc yn siarad am y ffordd y mae prosiect a redir gan y Cyngor wedi\u2019u helpu i drawsnewid eu bywydau"},"content":{"rendered":"<p>Mae T\u00eem ADTRAC yn cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed o bob cwr o Wrecsam a Sir y Fflint ac yn eu helpu i oresgyn unrhyw rwystrau sy&#8217;n gallu ei gwneud yn anodd iddyn nhw gael swydd, lle ar gwrs hyfforddi neu fynd ymlaen i addysg bellach.<\/p>\n<p><strong>Beth mae ADTRAC yn ei gynnig? <\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Cymorth dwys un i un<\/li>\n<li>Cynlluniau gweithredu personol<\/li>\n<li>Cefnogaeth i feithrin hyder a goresgyn rhwystrau<\/li>\n<li>Cymorth lles gan gynnwys cyfle i gael mynediad at ddarpariaeth ar gyfer anghenion iechyd meddwl ysgafn \/ cymedrol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr<\/li>\n<li>Mynediad i hyfforddiant<\/li>\n<li>Cefnogaeth cyflogadwyedd<\/li>\n<\/ul>\n<p>Dywedodd Jack (17), sydd wedi bod yn rhan o raglen ADTRAC ers mis Ionawr 2018, \u201cMae wedi fy helpu mewn ffyrdd cadarnhaol \u00e2 dweud y gwir. Rydw i\u2019n berson mwy positif, mae fy nheulu hyd oed wedi sylwi ar hynny ers i mi ddechrau ADTRAC ac ers i mi fod yn gweithio gyda Nathan rydw i wedi bod yn llawer mwy positif a hapus.\u201d<\/p>\n<p>Mae Jack hefyd yn dweud ei fod bellach yn barod i chwilio am swydd ac yn teimlo bod y prosiect wedi\u2019i helpu i deimlo\u2019n ddigon hyderus i wneud hynny. Nid yn unig y mae\u2019r prosiect wedi cael effaith bositif ar gyflogadwyedd Jack ond mae wedi cael effaith bositif ar ei fywyd adref hefyd.<\/p>\n<p>Meddai Jack: \u201cRydym ni wastad wedi bod yn deulu clos, ond ers i mi fod yn rhan o&#8217;r prosiect rydym wedi dod hyd yn oed yn agosach.&#8221;<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Jack: ADTRAC (Cymraeg)\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/o1b4q2bIux4?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Mae ADTRAC wedi bod ar waith ers ychydig dros flwyddyn ac mae eisoes yn gweld canlyniadau positif:<\/p>\n<ul>\n<li>Roedd 74% o bobl ifanc wedi cael trafferth ymgysylltu ag addysg, gwaith a hyfforddiant. Gostyngodd y ffigwr hwn i 12% wrth iddynt ymadael.<\/li>\n<li>Roedd 81% o bobl ifanc yn nodi diffyg hyder fel un o&#8217;u prif rwystrau i addysg, gwaith a hyfforddiant.<\/li>\n<li>Roedd 63% o bobl ifanc wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir pan gawsant addysg<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae cyfanswm o dros 468 o bobl ifanc wedi cael eu hatgyfeirio i brosiect ADTRAC ledled Wrecsam a Sir y Fflint yn y flwyddyn gyntaf. \u00a0Mae\u2019r prosiect, a gefnogir gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop, yn anelu at ddarparu cymorth pwrpasol i bobl ifanc yn unigol gan fentoriaid personol ADTRAC neu ymarferwyr iechyd meddwl y GIG, yn ogystal \u00e2 chyrsiau a hyfforddiant pwrpasol a lunnir i ddiwallu anghenion penodol y bobl ifanc 16-24 oed a gwella eu lles.<\/p>\n<p>Dywedodd Joseph (22), sydd wedi bod yn rhan o raglen ADTRAC ers mis Mai 2018; \u201cRoeddwn i\u2019n arfer aros i mewn o hyd, mynd i fy nghragen a chau\u2019r byd allan. Doeddwn i ddim wedi cael cefnogaeth o\u2019r blaen, felly roedd popeth yn anodd o hyd. Ond, mae help y t\u00eem iechyd meddwl a Nathan (mentor ADTRAC) wedi bod yn help garw. Rydw i bob amser wedi bod yn angerddol am helpu pobl ac rydw i\u2019n gwybod r\u0175an fy mod am ddilyn y llwybr mentora a bod yn fentor fy hun\u201d<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Joseph: ADTRAC (Cymraeg)\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/Bsnc6_FYN-o?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p><strong>Gweithio mewn partneriaeth<\/strong><\/p>\n<p>Mae ADTRAC yn cael ei ariannu\u2019n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru ac mae\u2019n cael ei arwain gan Gr\u0175p Llandrillo Menai ledled gogledd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth \u00e2 Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chefnogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru.<\/p>\n<p><strong>\u201cAngen go iawn am y gwasanaeth\u201d<\/strong><\/p>\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, \u201cMae hwn yn brosiect gwych ac rydw i\u2019n edrych ymlaen at weld ei gynnydd. Gyda dros 250 o atgyfeiriadau yn Wrecsam a 211 yn Sir y Fflint ym mlwyddyn gyntaf y prosiect, mae\u2019n dangos bod angen go iawn am y gwasanaeth a\u2019i fod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc yn yr ardal. O wylio\u2019r ffilmiau o\u2019r bobl ifanc sydd wedi cael help uniongyrchol gan y prosiect gallwch weld yn union pa mor fuddiol yw&#8217;r gefnogaeth.\u201d<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:<\/p>\n<p>\u201cMae hon yn rhaglen fendigedig.\u00a0 Mae\u2019r gwaith wedi helpu llawer iawn o bobl ifanc i oresgyn y pethau, beth bynnag ydyn nhw, sy\u2019n eu rhwystro rhag medru cael swydd neu gael lle ar gwrs hyfforddiant neu gwrs addysg bellach. Maen nhw\u2019n cael mwy o gyfleoedd i fod yn annibynnol ac yn iach. Byddwn yn dal ati wedi llwyddiant y flwyddyn gyntaf, ac yn dal i ddarparu gwasanaethau sydd ar flaen y gad o ran arferion da.\u201d<\/p>\n<p>Gallwch ganfod mwy am y prosiect yn <a href=\"https:\/\/www.gllm.ac.uk\/adtrac\">https:\/\/www.gllm.ac.uk\/adtrac<\/a> neu cysylltwch \u00e2 th\u00eem ADTRAC ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint ar <a href=\"mailto:ADTRAC@wrexham.gov.uk\">ADTRAC@wrexham.gov.uk<\/a> am fanylion pellach yngl\u0177n \u00e2\u2019r broses atgyfeirio ar gyfer sefydliadau ac ar gyfer hunan-atgyfeirio.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae T\u00eem ADTRAC yn cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed o bob cwr o Wrecsam a Sir y Fflint ac yn eu helpu i oresgyn unrhyw rwystrau sy&#8217;n&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":7468,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[23,27,5,7],"tags":[],"class_list":["post-7466","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd","category-lleol","category-newyddion","category-ysgol"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7466","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7466"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7466\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7469,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7466\/revisions\/7469"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7468"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7466"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7466"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7466"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}