{"id":7471,"date":"2019-04-18T10:54:02","date_gmt":"2019-04-18T10:54:02","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?p=7471"},"modified":"2019-04-18T10:57:58","modified_gmt":"2019-04-18T10:57:58","slug":"y-ffordd-mae-technoleg-yn-effeithio-ar-bobl-ifanc-yn-wrecsam","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/y-ffordd-mae-technoleg-yn-effeithio-ar-bobl-ifanc-yn-wrecsam\/","title":{"rendered":"Bywydau Ifanc Wrecsam &#8211; Y ffordd mae technoleg yn effeithio ar bobl ifanc yn Wrecsam"},"content":{"rendered":"<blockquote>\n<h3><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-7439\" src=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/young-wrexham-welsh-300x153.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"153\" srcset=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/young-wrexham-welsh-300x153.png 300w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/young-wrexham-welsh.png 354w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-7440\" src=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/Colegcambria-logo.png\" alt=\"\" width=\"220\" height=\"220\" srcset=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/Colegcambria-logo.png 220w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2019\/03\/Colegcambria-logo-150x150.png 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 220px) 100vw, 220px\" \/><\/h3>\n<h3><\/h3>\n<h3>Bywydau Ifanc Wrecsam<\/h3>\n<h3>Mae Wrecsam Ifanc wedi ymuno \u00e2 myfyrwyr Coleg Cambria yn Wrecsam i roi cipolwg ar fywydau pobl ifanc yn Wrecsam.\u00a0 Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf byddwn yn arddangos eu herthyglau, sy\u2019n cynnwys \u2018Bywyd adolygwr p\u00eal-droed\u2019, \u2018Barn am Brexit ar gyfer pobl ifanc\u2019, \u2018Taith i\u2019r lleuad\u2019, \u2018Sut i adeiladu cyfrifiadur\u2019, \u2018Fy hoff albwm\u2019, \u2018Fy hoff gig\u2019, \u2018Pethau y buaswn yn newid yn Wrecsam\u2019, \u2018Pethau dw i\u2019n eu hoffi am Wrecsam\u2019.<\/h3>\n<h3>Mae\u2019r prosiect yn gyfle i chi siarad am lawer o bethau (dim byd anweddus) a gallwch wneud hynny drwy gyfrwng fideo, erthygl neu animeiddiad. \u00a0 Os hoffech chi gymryd rhan ym mhrosiect \u2018Bywydau Wrecsam Ifanc\u2019 yna cysylltwch \u00e2 ni.<\/h3>\n<h3><\/h3>\n<h3><u>Y ffordd mae technoleg yn effeithio ar bobl ifanc yn Wrecsam.<\/u><\/h3>\n<\/blockquote>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae\u2019r traethawd hwn yn s\u00f4n am y ffordd mae technoleg a\u2019r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi pwysau ar bobl ifanc. Mae\u2019r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o gysylltu gyda ffrindiau a theulu ond yn aml gall defnyddwyr eraill gael dylanwad afiach ar y ffordd mae pobl yn edrych, yn ymddwyn a\u2019r hyn ddylen nhw ei wneud mewn sefyllfaoedd penodol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae pobl fel Kim Kardashian yn postio ffotograffau mae pobl yn edrych i fyny arnyn nhw bob dydd. Fodd bynnag, cyn iddyn nhw bostio ffotograff maen nhw\u2019n gallu p\u00f4sio a golygu i wneud eu hunain i edrych yn \u2018berffaith\u2019 er mwyn i\u2019r ffotograff fod o safon ddigon uchel ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae\u2019r holl ffotograffau ffug hyn yn golygu ei bod mynd yn fwy anodd drwy\u2019r amser i bobl geisio cyrraedd y safonau hyn, yn wir, mae bron yn amhosibl eu cyrraedd. Mae hyn yn golygu bod pobl yn dechrau cas\u00e1u eu nodweddion eu hunain ac mae\u2019n golygu eu bod yn teimlo\u2019n anghyfforddus yn eu cyrff eu hunain.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae hyn yn cael effaith ar Wrecsam gan fod rhai o\u2019r dillad mae\u2019r bobl enwog yn eu gwisgo ar y cyfryngau cymdeithasol yn gallu costio miloedd o bunnoedd, a does gan bobl gyffredin ddim arian o\u2019r fath, yn enwedig y bobl ifanc sy\u2019n cael eu dylanwadu fwyaf. Gall hyn arwain at bwysau i gadw a phrynu dillad sy\u2019n costio llawer iawn o arian. Gallai hefyd wneud i bobl nad ydyn nhw\u2019n gallu fforddio\u2019r dillad hyn deimlo eu bod yn cael eu cau allan ac nad ydyn nhw\u2019n ddigon da gan nad oes ganddyn nhw\u2019r arian i ffitio i mewn gyda\u2019r bobl eraill.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Gall hyn hefyd achosi rhwyg rhwng grwpiau oherwydd gall pobl \u00e2 mwy o arian ystyried eu bod yn well na phobl heb arian, gan olygu y gallen nhw dechrau datblygu personoliaeth narsisaidd. Gallai\u2019r pwysau i gael dillad drud hefyd olygu fod bwlio yn fwy tebygol gan fod \u201crheswm\u201d dros eu bwlio.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Gall hyn hefyd fod yn broblem gyda thechnoleg wrth i bobl uwchraddio eu ffonau bob blwyddyn gan ddilyn tueddiadau\u2019r enwogion. Gall hyn hefyd gostio miloedd o bunnoedd ac mae\u2019r iphone diweddaraf yn costio dros \u00a31000. Os nad oes gan bobl y ff\u00f4n diweddaraf mae hyn yn arwain at broblemau tebyg i\u2019r broblem ddillad wrth i bobl gael eu bwlio a bydd yr unigolyn heb y cynnyrch diweddaraf yn teimlo\u2019n israddol ac yn ddiwerth.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Nid yn unig mae Instagram yn broblem, gall llwyfannau eraill y cyfryngau cymdeithasol fel Snapchat achosi problemau i bobl ifanc Wrecsam. Mae hyn drwy seibrfwlio. Mae bywyd unigolyn ifanc yn Wrecsam yn eithaf anodd yn barod, ac mae\u2019n llawer gwaeth os nad yw pobl yn gallu dianc rhag y pwysau hwn. Mae pwysau parhaus yngl\u0177n \u00e2\u2019r pethau rydych yn eu postio ar eich stori, y pethau rydych yn eu hanfon at bobl a\u2019r perygl bydd rhywbeth rydych yn ei ddweud yn cael ei rannu \u00e2 phawb, gan achosi llawer o broblemau. Gall hyn arwain yr unigolyn ifanc i deimlo ei fod wedi\u2019i ddal ac nad yw\u2019n gallu dianc a gallai hyn olygu ei fod yn ceisio dianc neu ffoi gan ddefnyddio mecanweithiau ymdopi nad ydyn nhw\u2019n rai da o reidrwydd. Mae cyfraddau hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn uwch nag mewn unrhyw gr\u0175p oedran arall. Nid yw dylanwadau\u2019r cyfryngau cymdeithasol a\u2019r holl safonau afrealistig yn helpu hyn.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Yn gyffredinol, mae effaith y cyfryngau cymdeithasol ar bobl ifanc o bosibl yn niweidiol i\u2019w llesiant. Fodd bynnag, mae\u2019n galluogi pobl i fynegi eu hunain a dod o hyd i bobl sy\u2019n debyg iddyn nhw. Mae angen sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu haddysgu am y cyfryngau cymdeithasol a sut i\u2019w defnyddio\u2019n gywir heb iddyn nhw gael effaith negyddol arnyn nhw neu eraill.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bywydau Ifanc Wrecsam Mae Wrecsam Ifanc wedi ymuno \u00e2 myfyrwyr Coleg Cambria yn Wrecsam i roi cipolwg ar fywydau pobl ifanc yn Wrecsam.\u00a0 Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf byddwn&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":7473,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-7471","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-eu-hagor"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7471","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7471"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7471\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7475,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7471\/revisions\/7475"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7473"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7471"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7471"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7471"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}