{"id":7486,"date":"2019-05-09T13:56:12","date_gmt":"2019-05-09T13:56:12","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?p=7486"},"modified":"2019-05-09T15:08:15","modified_gmt":"2019-05-09T15:08:15","slug":"oeddech-chin-gwybod-mai-dim-ond-un-rhodd-gwaed-all-arbed-3-bywyd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/oeddech-chin-gwybod-mai-dim-ond-un-rhodd-gwaed-all-arbed-3-bywyd\/","title":{"rendered":"Bywydau Wrecsam Ifanc &#8211; Siarad Cymraeg"},"content":{"rendered":"<h3><strong><u>Siarad Cymraeg<\/u><\/strong><\/h3>\n<blockquote><p><strong>Does gen i ddim syniad a yw hyn yn ddefnyddiol ond dyma ychydig o hanes fy mhrofiad i o addysg Gymraeg.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Lewis Armstrong<\/strong><\/p><\/blockquote>\n<p><strong><u>\u00a0<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Fel siaradwr Cymraeg, dechreuodd fy mhrofiad gyda\u2019r iaith pan wnes i ddechrau dysgu\u2019r iaith Gymraeg yn yr ysgol gynradd. Fe wnes i barhau \u00e2\u2019m haddysg Gymraeg drwy fynd i ysgol uwchradd Gymraeg. Yn anffodus, ysgol fach oedd fy ysgol gynradd a doedd hi ddim yn flaengar iawn o\u2019i chymharu ag ysgolion cynradd Cymraeg eraill felly roeddwn yn fwy cryf wrth ddarllen ac ysgrifennu\u2019r Gymraeg yn hytrach na siarad yr iaith. Gan mai dim ond ychydig o\u2019m ffrindiau oedd yn mynd i\u2019r un ysgol \u00e2 mi, roeddwn yn ffodus fy mod yn gallu siarad iaith nad oedden nhw\u2019n ei deall ac roedd hyn yn werthfawr iawn gan fy mod yn gallu cyfathrebu gyda fy ffrindiau Cymraeg a doedd gan fy ffrindiau eraill, oedd ddim yn deall Cymraeg, ddim syniad beth roedden ni\u2019n ei ddweud.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae hyn yn fanteisiol iawn mewn sawl ffordd, yn enwedig wrth chwarae gemau yn erbyn pobl ddi-Gymraeg gan ein bod yn gallu galw allan yn Gymraeg a does gan y t\u00eem arall ddim syniad sut i wrthymosod. Er bod fy sgiliau Cymraeg wedi gwella\u2019n araf, mae\u2019r technegau gwahanol sydd eu hangen wrth ysgrifennu\u2019r Gymraeg yn gofyn am lawer o reolau, yn dibynnu ar sut mae rhywbeth yn cael ei ysgrifennu. Weithiau, bydd y llythyren gyntaf yn newid i rywbeth arall yn y Gymraeg, a\u2019r enw ar hyn yw \u201ctreiglo\u201d. Er bod yn rhaid cofio rhai rheolau, ac roedd yn anodd cofio sut i sillafu rhai geiriau weithiau, yn y diwedd fe wnes i wneud cynnydd da ac roedd gennyf sgiliau Cymraeg eithaf da.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Fe wnes i ddatblygu\u2019r sgiliau y cyfeiriwyd atyn nhw uchod yn yr ysgol uwchradd yn unig, gan nad oedd fy ysgol gynradd mor dda ac yn yr ysgol uwchradd roeddwn bob amser cam y tu \u00f4l i bawb arall gyda fy sgiliau Cymraeg, nes ar \u00f4l tua blwyddyn dechreuais deimlo fod fy sgiliau Cymraeg yn well nag erioed. Mae fy ngeirfa ychydig yn fwy cyfyngedig nag y byddwn yn dymuno iddi fod a gobeithio gallaf wella ar hyn oherwydd dydw i ddim eisiau colli\u2019r Gymraeg, gan mai dyma iaith ein gwlad ac mae\u2019n rhywbeth sydd wedi bod gennyf ers fy mhlentyndod. Er fy mod yn teimlo bod fy sgiliau Cymraeg wedi gwella, rwyf yn cael trafferth oherwydd problemau personol, dim byd mawr ond rwy\u2019n ei chael yn anodd ysgrifennu pethau yn ramadegol gywir fel sillafu a strwythur brawddegau, mae\u2019n bosibl eich bod yn gallu gweld rhai camgymeriadau rwyf wedi\u2019u gwneud yma ac oherwydd fy mod wedi cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, rydw i\u2019n teimlo bod fy Saesneg wedi dioddef rhywfaint gan nad oedd gwersi Saesneg yn yr ysgol gynradd o\u2019r hyn dwi\u2019n ei gofio, a\u2019r unig ddosbarthiadau Saesneg i mi eu cael erioed oedd yn yr ysgol uwchradd, sef blwyddyn 7, pan oeddwn yn 12 oed, ac nid yw hyn yn dda iawn. Yn fy marn i, mae\u2019r ffaith nad yw fy sgiliau Saesneg yn dda iawn yn rhannol oherwydd fy mod wedi bod i ysgol wael, ond fe wnaeth hyn effeithio ar fy ngallu i ddysgu Cymraeg hefyd. Rydw i wedi dechrau yn y coleg yn ddiweddar, ac mae symud o addysg Gymraeg i addysg Saesneg yn od. Rydw i\u2019n methu\u2019r addysg Gymraeg gan ei bod yn hwyl ac yn ddifyr ac roedden ni\u2019n dysgu mwy o eiriau ac yn gwella ein sgiliau drwy addysg Gymraeg. Hoffwn petai ein system addysg wedi bod yn well pan oeddwn yn yr ysgol felly byddai fy sgiliau llafar Cymraeg yn well (dwi\u2019n cael trafferth siarad Cymraeg yn bennaf gan fyd mod yn cael trafferth i siarad ac ynganu geiriau yn Saesneg neu Gymraeg) ond mae problemau\u2019r system addysg yn stori ar gyfer diwrnod arall. Drwy gydol fy mywyd, mae pobl wedi dweud wrtha i ddegau o weithiau pa mor ddefnyddiol yw gallu siarad mwy nag un iaith. Rydw i\u2019n deall y pwyntiau ac yn cytuno\u2019n gryf, ond yr unig beth negyddol am yr iaith Gymraeg yw\u2019r ffaith ei bod yn marw, a does bron iawn neb yn ei siarad y dyddiau hyn, ac mae hyn yn beth trist. Mewn ffordd, mae\u2019r ffaith fy mod yn siarad Cymraeg yn fy ngwneud yn fwy arbennig gan nad oes llawer o bobl yn gyfarwydd \u00e2\u2019r iaith ond mae\u2019n beth gwael hefyd gan fod llawer o gasineb yn erbyn yr iaith ac mae pawb yn osgoi dysgu\u2019r iaith os ydyn nhw\u2019n cael y dewis. A bod yn onest, byddwn ni\u2019n argymell bod unrhyw un sy\u2019n cael y cyfle i ddysgu\u2019r Gymraeg yn gwneud hynny gan fod arnom angen mwy o siaradwyr Cymraeg, ac mae\u2019n un o\u2019r ieithoedd hawsaf i\u2019w dysgu yn fy marn i ac yn un o\u2019r gorau drwy\u2019r ysgol. Rydw i wedi dysgu llwyth o ganeuon Cymraeg a gwrando ar ganeuon gwych, yn enwedig y rhai mae\u2019r corau yn eu canu. Mae\u2019r iaith Gymraeg yn fanteisiol iawn heddiw gan ei bod yn agor drysau i swyddi posibl ac yn rhoi mantais i chi dros bobl eraill mewn cyfweliadau ac mae hanes Cymru a\u2019r iaith yn anhygoel.\u00a0 Rydw i bob amser wrth fy modd pan fyddaf yn clywed pobl yn siarad Cymraeg ac yn fy marn i dylai pawb geisio dysgu mwy am yr iaith a dysgu\u2019r iaith.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Siarad Cymraeg Does gen i ddim syniad a yw hyn yn ddefnyddiol ond dyma ychydig o hanes fy mhrofiad i o addysg Gymraeg.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Lewis Armstrong \u00a0 Fel siaradwr Cymraeg, dechreuodd&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":7499,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-7486","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-eu-hagor"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7486","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7486"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7486\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7493,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7486\/revisions\/7493"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7499"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7486"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7486"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7486"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}