{"id":8152,"date":"2022-12-15T16:41:00","date_gmt":"2022-12-15T16:41:00","guid":{"rendered":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?p=8152"},"modified":"2022-12-15T16:41:00","modified_gmt":"2022-12-15T16:41:00","slug":"14-17-dweud-eich-dweud","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/14-17-dweud-eich-dweud\/","title":{"rendered":"14 &#8211; 17? Dweud eich dweud!"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2022\/12\/Survey-cym-1-1024x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8153\" srcset=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2022\/12\/Survey-cym-1-1024x1024.png 1024w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2022\/12\/Survey-cym-1-300x300.png 300w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2022\/12\/Survey-cym-1-150x150.png 150w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2022\/12\/Survey-cym-1-768x768.png 768w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2022\/12\/Survey-cym-1.png 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r ymchwil hwn yn edrych ar brofiadau pobl ifanc o ddysgu am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb. Mae\u2019n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd, Coleg Prifysgol Llundain (UCL) a\u2019r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC).\u202fBydd canfyddiadau\u2019r ymchwil yn helpu ysgolion, grwpiau ieuenctid a sefydliadau eraill i ddeall barn a phrofiadau pobl ifanc o ddysgu a cheisio cefnogaeth am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb, a sut y gellir gwella hyn.\u202f\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Yn rhan gyntaf ein hymchwil, fe wnaethom wrando ar bobl ifanc mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled Cymru, Lloegr a\u2019r Alban a ddywedodd wrthym:\u202f\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>&#8211; Sut a ble maen nhw\u2019n dysgu am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb\u202f&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>&#8211; Beth hoffen nhw wybod mwy amdano\u202f&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>&#8211; Sut maen nhw\u2019n cael help a chyngor am y materion hyn\u202f&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i ni wrando ar bobl ifanc yn siarad am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb, roedden nhw\u2019n trafod pynciau fel hunaniaeth; cyfeillgarwch; atyniad a pherthnasoedd rhamantus neu rywiol; y glasoed; delwedd corff; iechyd a lles rhywiol; bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu a thrais; hawliau, cydraddoldeb a diogelwch.\u202f&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth yw pwrpas yr arolwg hwn?\u202f\u00a0<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yr arolwg hwn yw ail ran y prosiect \u2018Addysg Rhywioldeb +\u2019. Yn rhan gyntaf yr ymchwil, fe wnaethon ni wrando ar bobl ifanc. Ar \u00f4l edrych ar yr hyn maen nhw wedi\u2019i rannu \u00e2 ni, rydyn ni wedi datblygu\u2019r arolwg byr hwn ar-lein. Nod yr arolwg yw canfod beth mae ystod ehangach o bobl ifanc yn ei feddwl am y pethau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yr arolwg yn dangos 11 datganiad i ti. Galli ddweud i ba raddau rwyt ti\u2019n cytuno neu\u2019n anghytuno \u00e2 phob un ohonynt. Mae\u2019r datganiadau\u2019n gofyn ble a sut rwyt ti\u2019n dysgu am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb, a beth fyddet ti\u2019n hoffi ei newid a pham. Dyma dy gyfle di i ddweud wrthym beth rwyt ti\u2019n ei feddwl. Does dim atebion cywir neu anghywir.\u202f\u202f\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Dim ond ticio blychau y gofynnir i ti ei wneud, felly dim ond tua 5 munud y dylai gymryd i ti i gwblhau\u2019r arolwg. Dim ond gofyn i ti ymateb i\u2019r 11 datganiad, rhoi dy oedran a pha ran o\u2019r Deyrnas Unedig rwyt ti\u2019n byw ynddi y byddwn ni. Fyddwn ni ddim yn gofyn i ti am unrhyw wybodaeth bersonol arall amdanat ti.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pwy gaiff lenwi\u2019r arolwg hwn?\u202f\u00a0<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Pobl ifanc 14-17 oed sy\u2019n byw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel.\u202f\u202f\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p><strong>A fydd unrhyw un yn gwybod fy mod wedi cymryd rhan?\u202f\u00a0<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Na, ni fyddwn yn gofyn am dy enw nac am unrhyw wybodaeth a fydd yn datgelu pwy wyt ti ac ni fyddwn yn gallu olrhain yr arolwg yn \u00f4l i ti.\u202f&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Oes rhaid i mi gymryd rhan?\u202f\u00a0<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Nac oes. Ti sydd i benderfynu a wyt ti am gymryd rhan ai peidio. Galli ddechrau a stopio unrhyw bryd. Os byddi\u2019n stopio, byddwn yn cofnodi dy atebion, ond ni fyddwn yn eu defnyddio yn ein hymchwil. Does dim rhaid i ti ateb y cwestiynau i gyd \u2013 galli glicio \u2018Dydw i ddim eisiau ateb\u2019 neu adael y cwestiwn yn wag, ar gyfer cynifer o gwestiynau ag yr wyt ti\u2019n dymuno.\u202f\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Oes angen i mi ddweud wrth fy rhieni\/gofalwyr fy mod yn cymryd rhan?\u202f\u00a0<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ddim oni bai dy fod ti\u2019n dymuno gwneud hynny; ti sy\u2019n penderfynu a wyt ti\u2019n cymryd rhan ai peidio. Os hoffet ti drafod cymryd rhan yn yr arolwg gyda\u2019th rieni\/gofalwyr, a\u2019i bod yn ddiogel i ti wneud hynny, galli ddangos y dudalen wybodaeth hon iddynt. Bydd hyn yn mynd \u00e2 nhw i dudalen we sydd \u00e2 mwy o wybodaeth am yr arolwg.\u202f\u202f\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth fyddwch chi&#8217;n ei wneud \u00e2\u2019m hatebion?\u202f\u00a0<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l i ti gyrraedd diwedd yr arolwg, galli glicio cyflwyno. Bydd hyn yn anfon dy atebion at y t\u00eem ymchwil ac yn rhoi gwybod i ni dy fod wedi gorffen ateb y cwestiynau. Os byddi di\u2019n gadael yr arolwg ran o\u2019r ffordd drwodd, byddwn yn dal i weld dy atebion, ond ni fyddwn yn eu defnyddio yn yr ymchwil.\u202fGan nad ydym yn gwybod pwy wyt ti, ni fyddwn yn gallu tynnu dy atebion o\u2019r astudiaeth os byddi di\u2019n newid dy feddwl yn nes ymlaen.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth ddylwn i ei wneud os ydw i eisiau help neu gyngor am rai o\u2019r pethau y gofynnir i mi amdanynt?<\/strong>\u202f\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Os hoffet ti gael help, cyngor neu gefnogaeth gydag unrhyw fater, cysyllta \u00e2 Childline ar 0800 11 11 neu dos i <a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/\">https:\/\/www.childline.org.uk\/.<\/a>\u202f\u202f\u202f&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Childline ar agor 24 awr y dydd, bob dydd, ac mae\u2019n rhad ac am ddim i\u2019w ffonio neu i sgwrsio ar-lein.\u202f\u202f&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u202f\u202f&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r ymchwil hwn yn edrych ar brofiadau pobl ifanc o ddysgu am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb. Mae\u2019n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd, Coleg Prifysgol Llundain (UCL) a\u2019r Gymdeithas Genedlaethol&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":21,"featured_media":8153,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[22],"tags":[31,34,39],"class_list":["post-8152","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymorth","tag-cymru","tag-personifanc","tag-wrecsam"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8152","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/21"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8152"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8152\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8155,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8152\/revisions\/8155"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8153"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8152"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8152"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8152"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}