{"id":8536,"date":"2024-01-24T16:32:51","date_gmt":"2024-01-24T16:32:51","guid":{"rendered":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?p=8536"},"modified":"2024-01-24T16:33:02","modified_gmt":"2024-01-24T16:33:02","slug":"cyflwynor-warant-i-bobl-ifanc","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/cyflwynor-warant-i-bobl-ifanc\/","title":{"rendered":"Cyflwyno\u2019r Warant i Bobl Ifanc"},"content":{"rendered":"\n<p>Ym mis Tachwedd 2021, roedd Llywodraeth Cymru wedi datgelu Gwarant i Bobl Ifanc \u2013 ymrwymiad y byddai pawb dan 25 oed yng Nghymru yn cael cynnig cefnogaeth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.<\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd yr ymrwymiad ei wneud mewn ymateb i\u2019r pandemig, er mwyn lleihau effeithiau COVID a rhoi cymorth i bobl ifanc i ddilyn eu nodau gyrfa.<\/p>\n\n\n\n<p>Cymru\u2019n Gweithio yw\u2019r porth i\u2019r Warant i Bobl Ifanc a\u2019r ffordd y bydd pobl ifanc yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth sydd ar gael. Bydd yn adeiladu ar ei fodel cryf a llwyddiannus sydd eisoes ar waith o ddarparu cyfarwyddyd gyrfa a chymorth cyfeirio.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"482\" src=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2024\/01\/image-1024x482.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-8538\" srcset=\"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2024\/01\/image-1024x482.png 1024w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2024\/01\/image-300x141.png 300w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2024\/01\/image-768x362.png 768w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2024\/01\/image-1536x723.png 1536w, https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2024\/01\/image.png 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Ydych chi o dan 25 oed? Ddim yn si\u0175r beth yw eich opsiynau neu beth yw eich camau nesaf? Peidiwch poeni, mae cyfleoedd o bob math ar gael ichi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc yn cynnig cymorth i bawb rhwng 16 a 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg, hyfforddiant neu ar brentisiaeth, neu i ddod o hyd i swydd neu fynd yn hunangyflogedig.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r warant yn darparu cymorth gyda:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dewis y cwrs iawn<\/li>\n\n\n\n<li>Dod o hyd i brentisiaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Chwilio am swydd a chymorth drwy&#8217;r broses ymgeisio<\/li>\n\n\n\n<li>Dechrau eich busnes eich hun<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ystyriwch eich opsiynau isod, felly,&nbsp;<a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/cysylltwch-a-ni\">neu cysylltwch<\/a>&nbsp;ag un o\u2019n cynghorwyr hyfforddedig a dechrau adeiladu\u2019r dyfodol rydych chi ei eisiau heddiw!<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Opisynau<\/h2>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/cyrsiau-a-hyfforddiant\/coleg-a-6ed-dosbarth\"><\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/cyrsiau-a-hyfforddiant\/coleg-a-6ed-dosbarth\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sites\/default\/files\/styles\/3_2\/public\/2021-12\/College%20and%206th%20Form%201000x667.jpg?itok=as1ApR8_\" alt=\"\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/cyrsiau-a-hyfforddiant\/coleg-a-6ed-dosbarth\">Addysg bellach &#8211; coleg a&#8217;r 6ed dosbarth<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd bod \u00e2 hyder yn eich cwrs yn eich cymell i gwblhau eich astudiaethau a gwneud yn dda. Mynnwch gymorth gyda&#8217;ch opsiynau a mwy.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/cyrsiau-a-hyfforddiant\/mynd-i-brifysgol\"><\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/cyrsiau-a-hyfforddiant\/mynd-i-brifysgol\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sites\/default\/files\/styles\/3_2\/public\/2021-12\/Enter%20Higher%20Education%201000x667.jpg?itok=AySWF22l\" alt=\"\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/cyrsiau-a-hyfforddiant\/mynd-i-brifysgol\">Addysg uwch &#8211; prifysgol<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae dewis y cwrs iawn a\u2019r brifysgol iawn yn bwysig a gallwn eich helpu gyda hyn. Gallwn hefyd gynnig cymorth ar bethau fel dod o hyd i gymorth ariannol a\u2019r broses Glirio.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/newid-dy-stori\/prentisiaethau\"><\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/newid-dy-stori\/prentisiaethau\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sites\/default\/files\/styles\/3_2\/public\/2020-06\/Thumbnail%20Aeronautical%20Employer%201000x667.jpg?itok=xAm32Dev\" alt=\"\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/newid-dy-stori\/prentisiaethau\">Prentisiaethau<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>P&#8217;un ai ydych chi&#8217;n dod o hyd i&#8217;ch ffordd ym myd gwaith, neu&#8217;n cymryd camau tuag at newid gyrfa, gallai prentisiaeth fod ar eich cyfer chi.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/cael-swydd\"><\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/cael-swydd\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sites\/default\/files\/styles\/3_2\/public\/2021-12\/Get%20a%20Job%201000x667.jpg?itok=pFnXB58_\" alt=\"\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/cael-swydd\">Cael swydd<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Gwybodaeth am ble i chwilio am swyddi, cofrestru ar gyfer ein bwletin swyddi, cael help gyda CVs, ceisiadau a chyfweliadau.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sut-y-gallwn-ni-helpu\/gwarant-i-bobl-ifanc\/cychwyn-busnes-syniadau-mawr-cymru\"><\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sut-y-gallwn-ni-helpu\/gwarant-i-bobl-ifanc\/cychwyn-busnes-syniadau-mawr-cymru\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sites\/default\/files\/styles\/3_2\/public\/2021-12\/Starting%20Your%20Own%20Business%201000x667.jpg?itok=-l4Tg3b2\" alt=\"\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sut-y-gallwn-ni-helpu\/gwarant-i-bobl-ifanc\/cychwyn-busnes-syniadau-mawr-cymru\">Cychwyn busnes &#8211; Syniadau Mawr Cymru<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi&#8217;n ystyried dechrau eich busnes eich hun a&#8217;ch bod yn 25 oed neu&#8217;n iau, yna mynnwch yr help sydd ei angen arnoch drwy Syniadau Mawr Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/twf-swyddi-cymru-plws\"><\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/twf-swyddi-cymru-plws\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sites\/default\/files\/styles\/3_2\/public\/2022-03\/Thumbnail%20JGWplus%20Carpenter%20WW.jpg?itok=nSl4QQND\" alt=\"\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/twf-swyddi-cymru-plws\">Twf Swyddi Cymru+<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Rhwng 16-19 oed? Gallwch gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith \u00e2 th\u00e2l i&#8217;ch helpu i greu eich dyfodol eich hun ar eich telerau eich hun.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sut-y-gallwn-ni-helpu\/react-plws\"><\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sut-y-gallwn-ni-helpu\/react-plws\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sites\/default\/files\/styles\/3_2\/public\/2021-12\/ReAct%20Funding%201000x667.jpg?itok=59xs3K15\" alt=\"\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sut-y-gallwn-ni-helpu\/react-plws\">ReAct+<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi\u2019u teilwra a allai gynnwys cymorth ariannol, hyfforddiant sgiliau a Chymorth Datblygu Personol er mwyn helpu i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r pethau sy&#8217;n eich rhwystro rhag cael swydd.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sut-y-gallwn-ni-helpu\/dysgu-sgiliau-newydd\/cymunedau-dros-waith-a-mwy\"><\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sut-y-gallwn-ni-helpu\/dysgu-sgiliau-newydd\/cymunedau-dros-waith-a-mwy\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sites\/default\/files\/styles\/3_2\/public\/2019-04\/Thumbnail%20Communitiesforworkplus%20EN.jpg?itok=0tMsz3xk\" alt=\"\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sut-y-gallwn-ni-helpu\/dysgu-sgiliau-newydd\/cymunedau-dros-waith-a-mwy\">Cymunedau dros Waith a Mwy<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Cefnogaeth cyflogaeth arbenigol i bobl sydd mewn, neu mewn perygl o dlodi, ac sydd heb fod yn gymwys i ymuno \u00e2 rhaglenni rhanbarthol eraill.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Am fwy o wybodaeth a&#8217;r erthygl lawn, cliciwch ar y ddolen isod!<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sut-y-gallwn-ni-helpu\/gwarant-i-bobl-ifanc?gclid=Cj0KCQiAh8OtBhCQARIsAIkWb6_rkcYr6nKfJbPJHmxv_Xxyd-YrxiFa3smicSjDorGo5faEbXRuKbMaAkO_EALw_wcB&amp;utm_campaign=YPG_Jan24&amp;utm_medium=cpc&amp;utm_source=google\">Gwarant i Bobl Ifanc | Working Wales (llyw.cymru)<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ym mis Tachwedd 2021, roedd Llywodraeth Cymru wedi datgelu Gwarant i Bobl Ifanc \u2013 ymrwymiad y byddai pawb dan 25 oed yng Nghymru yn cael cynnig cefnogaeth i gael lle&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":21,"featured_media":8539,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[22,6],"tags":[],"class_list":["post-8536","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymorth","category-pobl"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8536","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/21"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8536"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8536\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8542,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8536\/revisions\/8542"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8539"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8536"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8536"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8536"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}