Wrex ydw i. Fi yw’r ‘agony aunt’ ar gyfer Wrecsam Ifanc.
Os oes gennych chi gwestiwn, bryder neu broblem yr hoffech ei rannu gyda chymuned Wrecsam Ifanc, yna mae croeso i chi wneud …
Cyflwyno Cwestiwn
Oes gennych chi gwestiwn neu broblem? Yna defnyddiwch y ffurflen gyswllt sydd ar y dde.
Os ydyw’n gwestiwn difrifol, yna mi wna’i dynnu eich enw ohono, fel ei fod yn fwy cyfrinachol. Yna, byddaf yn rhoi’r cwestiwn yn agored i Gymuned Wrecsam Ifanc drwy ei gyhoeddi fel erthygl. Efallai y bydd pobl eraill wedi cael profiad tebyg neu fod ganddynt gyngor i’ch helpu chi. Efallai byddaf yn cysylltu â gwasanaethau eraill yn ddienw, ac ar eich rhan i gael rhagor o wybodaeth a chyngor os na fyddwn ni’n gwybod am ateb ein hunain, ac yn eich ateb cyn gynted ag y gallwn – ni fyddwn yn rhoi eich enw nac yn rhoi gwybod o ble rydych yn dod. Rhowch wybod i mi os nad ydych eisiau iddo gael ei gynnwys fel erthygl.
Sylwch: Ni fyddaf yn rhoi eich manylion i unrhyw un arall, oni bai ei bod yn ymddangos eich bod chi neu rywun arall mewn perygl o niwed. Mewn achos fel hyn, mae’n rhaid i Wrecsam Ifanc roi eich manylion i rywun a all helpu.
Felly, os oes gennych rywbeth sydd yn eich poeni, rhowch wybod i mi.