Hygyrchedd

 Mynediad at Wybodaeth

 “Mynediad at Wybodaeth ac Arweiniad – Gallu cael mynediad at wybodaeth, cefnogaeth a chyngor ar ystod eang o faterion sy’n effeithio ar dy fywyd di, fel bo’r angen.”

Mae gennyt ti hawl i gael mynediad at wybodaeth ac arweiniad. Un o addewidion parhaus Wrecsam Ifanc yw darparu hyn i’r holl bobl ifanc yn ardal Wrecsam. Rhoi gwybodaeth i ti am yr holl bynciau a’r materion sy’n effeithio ar dy fywyd di, mewn ffordd sy’n hawdd i’w deall, er mwyn dy gynorthwyo di i wneud y penderfyniadau gorau ar dy gyfer di.

Nod gwefan Wrecsam Ifanc yw dy gynorthwyo di a sicrhau bod gennyt ti well dealltwriaeth o’r ffyrdd y cei fynediad at y wybodaeth yr wyt ei hangen ar ein gwefan, waeth beth yw dy lefel o allu neu os oes gennyt anabledd.

Wrth groesawu technolegau newydd, ein nod yw:

  • sicrhau bod defnyddwyr ag anableddau yn gallu cael mynediad at y wybodaeth wrth ddefnyddio eu meddalwedd cynorthwyol neu osodiadau cyfrifiadur.
  • sicrhau bod defnyddwyr yn derbyn y wybodaeth gywir ynglŷn â sut i addasu eu cyfrifiaduron.

Dweud dy Ddweud – Mae gennyt ti’r hawl i gael y cyfle i fod yn rhan o benderfyniadau, cynllunio ac adolygu unrhyw gam gweithredu a fyddai o bosib yn effeithio arnat ti.

Byddwn yn dy gynnwys di’n barhaus yn natblygiad ein datganiad mynediad , er mwyn sicrhau dy fod yn cael dweud dy ddweud ar sut y gallwn ni wella mynediad at wybodaeth a’i gwneud yn ddealladwy. Os oes gennyt ti unrhyw adborth neu sylw yr hoffet ei rannu ar sut y gallwn gyflawni hyn, cysyllta â ni: infoshop@wrexham.gov.uk

Byddwn yn adolygu’r ddogfen hon yn rheolaidd i sicrhau ei bod mor gyfredol a defnyddiol â phosib.

I gael rhagor o wybodaeth am fynediad at wybodaeth, dos i ymweld â thudalen y BBC “My Web, My Way – Accessibility Help”

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio â’r safonau gwe a ddiffiniwyd gan Gonsortiwm Y We Fyd-Eang (W3C) ac yn cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (y DU) 1995.

Cyflwynir y cynnwys ar strwythur semanteg xHTML. Caiff y wybodaeth gyflwyno a’r ymarferoldeb deinamig eu gwahanu oddi wrth y cynnwys gan ddefnyddio ffeiliau Javascript a Thudalennau Diwyg Rhaeadrol a gyfeiriwyd yn allanol.

Oherwydd hyn, gellir cael mynediad at y wefan:

gan ddefnyddio ystod eang o ddyfeisiau, megis ffonau symudol, cyfrifiaduron llaw a rhaglenni darllen sgrin,

neu’n defnyddio cyfrifiadur, waeth beth yw ei oedran na’i fanylion, sydd â phorwr parod a safonol (megis Firefox neu Internet Explorer 7),

a byddi’n dal i allu cael mynediad at y wefan ac fe fydd yn ddealladwy.

Mae gosodiad y wefan yn ystyried defnyddwyr sy’n ddall neu â nam ar eu golwg ac mae’r wefan yn cyfateb â meddalwedd darllen sgrin boblogaidd.

Arweinir mynediad gwefan Wrecsam Ifanc gan Ganllawiau Mynediad Cynnwys Gwe 1.0 y W3C ac rydym yn ymdrechu i gwrdd â safon AA pan fo’n bosib.

Mae cynnal gwefan sy’n agored i bawb yn broses barhaus ac rydym yn parhau i weithio i gynnig profiad hwylus i ddefnyddwyr. Os nad oes modd cwrdd â’r safonau uchaf o hygyrchedd bydd Wrecsam Ifanc yn ceisio darparu’r wybodaeth mewn ffurf hygyrch ar gais.

Os wyt yn cael unrhyw broblem â’r wefan, neu os oes gennyt unrhyw sylw, e-bostia infoshop@wrexham.gov.uk.

Newid Maint y Testun

Mae gwefan Wrecsam Ifanc wedi’i dylunio i dy alluogi di i newid maint y testun a gosodiadau eraill y dangosydd drwy osodiadau porwr safonol.  Mae’r dudalen hon o W3C yn dangos i ti sut i ddefnyddio rhai o’r gosodiadau porwr. (dolen allanol) Rhaglenni sy’n Darllen Sgrîn a Syllwyr

Bydd angen i ti gael y meddalwedd cywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae’r dudalen hon yn darparu dolenni ar gyfer syllwyr a rhaglenni sy’n darllen sgrin rhad ac am ddim. Sylwer y cynhwysir y dolenni hyn i dy gynorthwyo di ac nid yw CLIC Ar-lein yn cefnogi unrhyw un o’r rhain yn benodol. Mae’r dolenni i gyd yn arwain at wefannau allanol.

Darllenwyr/ Syllwyr

Mae rhaglenni darllen sgrîn a syllwyr yn dy alluogi di i ddarllen y mathau o ffeiliau sy’n gysylltiedig â rhaglenni masnachol, heb orfod gosod y rhaglen ar dy gyfrifiadur. Gall rhaglenni sy’n darllen sgrîn a syllwyr fod hyd at 12MB mewn maint ond does dim ond angen eu lawr lwytho unwaith.

Os wyt yn defnyddio rhaglen sy’n darllen sgrîn neu dechnoleg gynorthwyol debyg i ddarllen ein gwefan, o bosib y byddi’n dymuno defnyddio offeryn trawsnewid ar-lein gan Adobe i greu fersiynau HTML o ddogfennau PDF. Gellir cael mynediad ato drwy glicio:

http://www.adobe.com/products/acrobat/access_onlinetools.html (dolen allanol)

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham