Telerau ac Amodau

Polisi Preifatrwydd

Mae preifatrwydd ein defnyddwyr yn bwysig i ni ac rydym yn gofalu ein bod yn ei ddiogelu. O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mae gennym rwymedigaethau cyfreithiol tuag atoch chi yn y ffordd yr ydym yn trin data a gasglwn gennych. Rydym yn defnyddio technoleg gyfredol a meddalwedd amgryptio i ddiogelu’ch data ac rydym yn cadw safonau diogelwch caeth er mwyn atal unrhyw fynediad anawdurdodedig ato. Ni fyddwn yn trosglwyddo’ch manylion i unrhyw drydydd parti nac adrannau’r llywodraeth oni bai’ch bod yn rhoi caniatâd i ni wneud hynny, neu oni bai fod y gyfraith yn ein gorfodi i’w datgelu neu’n caniatáu i ni wneud hynny.

Pan fyddwch yn cofrestru fel defnyddiwr, byddwn yn casglu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaeth gan gynnwys o leiaf eich enw a’ch cyfeiriad e-bost. Ar ôl i chi gofrestru, gallwch ail-edrych ar eich proffil ar unrhyw adeg i newid y manylion hyn neu i ddarparu manylion ychwanegol.

Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth gennych os ydych yn cwblhau unrhyw ffurflenni arall ar ein safle neu os ydych yn cysylltu â ni gyda sylwadau neu geisiadau penodol.  Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaeth sy’n cael ei bersonoli i bob un o’n hymwelwyr. Rydym hefyd am roi rheolaeth i chi dros yr hyn a dderbyniwch o ganlyniad i gofrestru gyda Wrecsam Ifanc. Rydym yn casglu gwybodaeth am eich ymweliad â’n safle fel mater o drefn. Defnyddir y wybodaeth hon i wneud eich ymweliad â’n safle yn fwy effeithlon, ac i’n helpu i olrhain dewisiadau pori ar ein safle fel y gallwn wneud gwelliannau rheolaidd.

Dolenni

Ym mhob rhan o’r wefan byddwch yn dod o hyd i ddolenni hyperdestun i’ch cysylltu â lleoliadau eraill ar y rhyngrwyd. Defnyddir y dolenni er gwybodaeth yn unig ac ni fydd unrhyw ddolen yn cael ei chymryd fel ardystiad o unrhyw fath.

Rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau fod y dolenni hyn yn briodol ar y pryd. Nid yw Wrecsam Ifanc o reidrwydd yn cytuno â’r farn a fynegir yn y gwefannau cysylltiedig hyn ac nid oes ganddo unrhyw reolaeth drostynt.

Ni all Wrecsam Ifanc warantu dibynadwyedd y dolenni hyn na ph’un a fyddant yn gweithio ai peidio bob amser.

Cwcis

Mae nifer o wefannau yn gosod cwcis pryd bynnag y bydd defnyddiwr yn ymweld â’u gwefan er mwyn olrhain llif y traffig. Ffeiliau testun yw cwcis sy’n adnabod eich cyfrifiadur i’r gweinydd. Mae’n bosibl y bydd Wrecsam Ifanc yn defnyddio cwcis o dro i dro ond dim ond er mwyn rhoi gwell profiad i chi o’r we. Nid ydym yn olrhain ymwelwyr unigol â’r we.

Os hoffech ddysgu mwy am gwcis edrychwch ar wefan AboutCookies.org.

Cais am Wybodaeth

Gallwch ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch ar unrhyw adeg (mae’n bosibl y byddwn yn codi tâl bach arnoch am hyn). Byddwn hefyd yn cywiro unrhyw anghywirdeb yn eich gwybodaeth ar eich cais.

Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn

Os ydym yn gwneud newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd sy’n effeithio ar y ffordd yr ydym yn ymdrin â’ch data, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost. Gallwch wirio ein Polisi Preifatrwydd ar y dudalen hon ar unrhyw adeg.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’ch gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ynglŷn â’n defnydd o’r wybodaeth, cysylltwch â ni – info@youngwrexham.co.uk

Hawlfraint

Mae’r deunydd ar wefan Wrecsam Ifanc yn cael ei amddiffyn gan Hawlfraint Y Goron oni nodir yn wahanol. Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno defnyddio unrhyw wybodaeth a ganfyddir ar y wefan hon gysylltu â ni yn info@youngwrexham.co.uk. Nid yw caniatâd i atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan Hawlfraint y Goron yn berthnasol i unrhyw ddeunydd ar y safle hwn a nodir fel hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael caniatâd i atgynhyrchu deunyddiau felly gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.

Lluniau

Mae’r term lluniau yn cwmpasu lluniau llonydd a symudol, ffotograffau a logos.

Mae lluniau ar y wefan naill ai’n perthyn i Wrecsam Ifanc, y sefydliadau eu hunain, neu maent wedi’u trwyddedu gan drydydd parti.  Ni ellir atgynhyrchu lluniau a gymerwyd gan drydydd parti mewn unrhyw fformat.

Mae rhai lluniau sy’n perthyn i Wrecsam Ifanc na ellir eu hatgynhyrchu ac eraill y gellir eu hatgynhyrchu mewn rhai achosion, ond nid heb gymeradwyaeth o flaen llaw.

Os ydych yn dymuno atgynhyrchu unrhyw luniau, gan gynnwys logo Wrecsam Ifanc rhaid i chi gysylltu â ni gyntaf am arweiniad pellach a chaniatâd. Rhowch fanylion eich sefydliad, pa luniau yr hoffech eu defnyddio a sut yr ydych yn bwriadu eu defnyddio.

Telerau ac Amodau

Croeso i delerau ac amodau gwefan wrecsamifanc.co.uk (y “Telerau ac Amodau”), sy’n berthnasol wrth i chi ddefnyddio’r wefan hon. Trwy ddefnyddio’r wefan hon rydych yn cytuno cadw at y Telerau a’r Amodau hyn. Darperir y wefan hon er budd preswylwyr gwledydd sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd (“UE”) a phreswylwyr Norwy, Gwlad Yr Iâ a Liechtenstein. Os nad ydych yn byw yn un o’r gwledydd hyn neu os nad ydych yn cytuno i gadw at y Telerau a’r Amodau hyn, ni chaniateir i chi ddefnyddio’r wefan hon ac mae gennym hawl i gyfyngu neu atal mynediad i chi.  DIFFINIADAU Mae “Defnyddiwr/Defnyddwyr” yn golygu defnyddiwr/defnyddwyr y wefan naill ai ar y cyd neu’n unigol, fel sy’n ofynnol gan y cyd-destun; ar wahân i mewn cysylltiad â data personol, a fydd ond yn berthnasol i unigolion byw; bydd ystyr “Data Personol” yr un fath â’r diffiniad a nodir yn Neddf Diogelu Data 1998 (DDD 1998) a bydd yn cynnwys unrhyw fanylion personol a ddarperir gennych chi ar y wefan; mae “Rydym/ni/ein” yn golygu wrecsamifanc.co.uk; mae “Gwefan” yn golygu gwefan www.wrecsamifanc.co.uk neu unrhyw URL dilynol a ddaw yn ei le; ac ystyr “Chi/Eich” yw chi fel defnyddiwr y Wefan.

  1. MYNEDIAD
    Byddwn yn darparu mynediad i chi at y wefan yn unol â’r Telerau a’r Amodau hyn.
  2. EICH RHWYMEDIGAETHAU
    2.1 Chi:
    2.1.1 cytuno i beidio â defnyddio’r Wefan (nac unrhyw ran ohoni) at ddibenion anghyfreithlon a chytuno ei defnyddio yn unol â phob cyfraith berthnasol;
    2.1.2 cytuno i beidio ag uwchlwytho neu drosglwyddo drwy’r Wefan unrhyw firysau cyfrifiadurol, macro firysau, ceffylau Caerdroia, llyngyr nac unrhyw beth arall a ddyluniwyd i ymyrryd, torri ar draws neu darfu ar weithdrefnau gweithredu cyfrifiadurol arferol;
    2.1.3 cytuno i beidio ag uwchlwytho na throsglwyddo drwy’r wefan unrhyw ddeunydd difenwol, sarhaus, neu o natur anllad neu fygythiol, neu a allai achosi blinder, anghyfleustra neu bryder diangen;
    2.1.4 cytuno i beidio â defnyddio’r wefan mewn modd a allai darfu arni neu achosi iddi gael ei difrodi, ei gwneud yn llai effeithiol neu a allai arwain at ddiffygio effeithiolrwydd neu ymarferoldeb y wefan mewn unrhyw ffordd;
    2.1.5 cytuno i beidio â defnyddio’r wefan mewn unrhyw ffordd sy’n torri neu’n amharu ar hawliau unrhyw unigolyn neu gwmni (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, hawliau eiddo deallusol, hawliau cyfrinachedd neu hawliau preifatrwydd);
    2.1.6 cytuno i beidio â chreu a chyhoeddi dolen hyperdestun yn unrhyw ran o’r wefan na cheisio cael unrhyw fynediad anawdurdodedig at unrhyw ran neu gydran o’r wefan; a
    2.1.7 chytuno, pan fydd gennych unrhyw hawl, hawliad neu gamau yn erbyn unrhyw Ddefnyddwyr sy’n codi o ddefnydd y Defnyddiwr hwnnw o’r wefan, byddwch yn mynd ar drywydd hawl, hawliad neu gamau felly yn annibynnol a heb geisio cymorth gennym ni
  3. INDEMNIAD
    Rydych yn cytuno i fod yn gwbl gyfrifol am, ac yn ein indemnio yn gyfan gwbl yn erbyn, pob hawliad, atebolrwydd, difrod, colledion, costau a threuliau, gan gynnwys ffioedd cyfreithiol a ddioddefwn ac sy’n codi o unrhyw achos o dorri’r Telerau a’r Amodau neu unrhyw ddeddfau, rheoliadau a rheolau eraill gennych chi neu unrhyw asiant (neu gynrychiolwyr) sy’n gweithredu ar eich rhan; neu unrhyw atebolrwydd arall sy’n codi o’ch defnydd o’r wefan, neu ddefnydd unrhyw unigolyn arall sy’n defnyddio’ch cyfrifiadur neu gyfrif mynediad rhyngrwyd i gael mynediad at y wefan. Byddwch hefyd yn ein hindemnio yn erbyn unrhyw honiadau fod gwybodaeth neu ddeunydd yr ydych wedi’u cyflwyno i ni yn torri unrhyw gyfraith neu’n torri hawliau unrhyw drydydd parti (gan gynnwys cyfyngiad, honiadau mewn perthynas â difenwad, amharu ar breifatrwydd, torri hyder, amharu ar hawlfraint neu unrhyw hawl eiddo deallusol arall). Rydym yn cadw’r hawl i amddiffyn a rheoli unrhyw hawliadau sy’n codi o’r uchod ac unrhyw faterion indemnio tebyg. Rydych yn cytuno i gydweithredu â ni’n gyfan gwbl mewn unrhyw achos tebyg.
  4. EIN HAWLIAU
    4.1 Rydym yn cadw’r hawl i:
    4.1.1 addasu’r wefan neu ei thynnu i lawr (neu ran ohoni), dros dro neu’n barhaol, gan roi rhybudd i chi neu beidio a rydych yn cadarnhau na fyddwn yn atebol i chi nac unrhyw drydydd parti am unrhyw addasiad neu am dynnu’r wefan i lawr; a/neu,
    4.1.2 newid y Telerau a’r Amodau hyn o dro i dro, ac os byddwch yn parhau i ddefnyddio’r wefan (neu ran ohoni) ar ôl i newid tebyg gael ei gwneud, tybir eich bod yn derbyn y newid. Bydd unrhyw newidiadau tebyg yn dod i rym ar unwaith ar ôl eu postio, gan hynny, chi sy’n gyfrifol am wirio’n rheolaidd i bennu a yw’r Amodau a’r Telerau wedi newid. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw newid i’r Telerau a’r Amodau rhaid i chi roi’r gorau i ddefnyddio’r wefan ar unwaith.
    4.2 Byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i gynnal a chadw’r wefan. Mae’n bosibl y bydd y wefan yn newid o dro i dro. Ni fyddwch yn gymwys am unrhyw iawndal os na fyddwch yn gallu defnyddio unrhyw ran o’r wefan neu oherwydd fod y wefan neu ran ohoni wedi methu, wedi’i gwahardd neu wedi’i thynnu i lawr oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth.
  5. CYSYLLTIADAU Â THRYDYDD PARTÏON
    Er mwyn ceisio gwneud y wefan yn fwy gwerthfawr i’n Defnyddwyr, mae’n bosibl y byddwn yn darparu dolenni at wefannau neu adnoddau eraill. Rydych yn cydnabod ac yn cytuno nad ydym yn gyfrifol am argaeledd safleoedd neu adnoddau allanol tebyg, ac nad ydym yn ardystio, yn gyfrifol nac yn atebol, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, am arferion preifatrwydd neu gynnwys (gan gynnwys testun difenwol neu destun camgynrychiadol) gwefannau tebyg, gan gynnwys (heb fod yn gyfyngedig i) unrhyw ddeunyddiau hysbysebu, nwyddau neu ddeunyddiau eraill neu wasanaethau ar neu sydd ar gael ar wefannau neu adnoddau tebyg, nac am unrhyw ddifrod, colledion neu droseddau a achosir neu a honnir a achoswyd gan, neu mewn cysylltiad â, defnyddio neu ddibynnu ar unrhyw gynnwys, nwyddau neu wasanaethau tebyg sydd ar gael ar safleoedd neu adnoddau allanol tebyg.
  6. MONITRO
    Mae gennym hawl i fonitro unrhyw weithgareddau a chynnwys sy’n gysylltiedig â’r wefan, ond nid yw hynny’n orfodol. Mae’n bosibl y byddwn yn ymchwilio i unrhyw achos a adroddwyd o dorri’r Telerau a’r Amodau hyn neu unrhyw gwynion eraill, ac yn cymryd camau y tybiwn sy’n briodol (a allai gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, roi rhybuddion, gwaharddiadau, terfynu neu osod amodau ar eich mynediad a/neu dynnu unrhyw ddeunyddiau oddi ar y wefan).
  7. EICH DATA
    7.1 Rydym yn parchu’ch Data Personol ac yn mynd ati i gydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data perthnasol yr UE a’r DU o dro i dro mewn grym.
    7.2 Dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol:
    7.2.1 os gofynnir i ni gan yr heddlu neu unrhyw awdurdod rheoleiddio neu lywodraethu sy’n ymchwilio i amheuon o weithgareddau anghyfreithlon, neu ar ôl derbyn gorchymyn llys, i ddarparu’ch Data Personol a/neu wybodaeth ynglŷn â’ch gweithgareddau wrth ddefnyddio’r wefan byddwn yn gwneud hynny; ac,
    7.2.2 os ydych yn cytuno, drwy dicio’r blychau priodol ar y ffurflenni perthnasol, gallwn werthu’ch manylion cyswllt a dewisedig i drydydd partïon ag enw da i’w galluogi i anfon gwybodaeth atoch y credant a fyddai o ddiddordeb i chi. Mae’n bosibl y bydd y trydydd partïon hyn mewn gwledydd y tu allan i’r DU ac nad oes ganddynt gyfreithiau i ddiogelu’ch Data Personol. Bydd modd i fanylion y trydydd partïon a’r gwledydd sy’n derbyn eich Data Personol gael eu darparu i chi ar gais.
    7.3 Rydym yn cadw’r hawl yn ein disgresiwn rhesymol i ddatgelu manylion eich defnydd o’r wefan mewn perthynas ag unrhyw achosion llys, neu unrhyw fygythiad o achos llys mewn perthynas â’ch defnydd chi, neu ddefnydd rhywun arall dan eich rheolaeth, o’r wefan boed hynny mewn cysylltiad â materion a osodir yn y Telerau a’r Amodau hyn neu beidio.
    7.4 Mae Wrecsam Ifanc yn gweithredu fel gwasanaeth cyfrinachol i chi fel pobl ifanc. Mae hyn yn golygu y bydd yr hyn a ddywedwch ar Wrecsam Ifanc yn aros yn anhysbys ac ar gyfer Wrecsam Ifanc yn unig. Fodd bynnag, bydd adegau pan fydd raid i ni yn unol â’r gyfraith anfon y wybodaeth a rowch i ni ymlaen, os yw’n golygu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl mawr o niwed. Gelwir hyn yn “amddiffyn plant”.
    Mewn achosion felly, byddwn yn ceisio cysylltu â chi i roi gwybod i chi ein bod yn anfon y wybodaeth ymlaen i sefydliadau eraill a all eich cefnogi. Rhaid i ni wneud hyn, p’un a ydych yn rhoi caniatâd ai peidio. Fodd bynnag, byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi i roi gwybod i chi beth ydym yn ei wneud.
    7.5 Ewch i waelod pob tudalen i ddarllen ein Polisi Preifatrwydd, sy’n ffurfio rhan o’r Telerau a’r Amodau hyn.
  8. EIDDO DEALLUSOL A HAWL I DDEFNYDDIO
    8.1 Rydych yn cydnabod ac yn cytuno bod pob hawlfraint, nodau masnach a’r holl hawliau eiddo deallusol eraill ym mhob deunydd neu gynnwys a ddarperir fel rhan o’r wefan (gan gynnwys heb gyfyngiad, testun, lluniau, tudalennau gwe, sain, meddalwedd (gan gynnwys cod, rhyngwyneb a strwythur y wefan), fideo, ffotograffau a lluniau graffigol, ac edrychiad a theimlad, dyluniad a chyfansoddiad y rheiny) yn parhau i gael eu breinio ynom ni neu ein trwyddedwyr bob amser. Caniateir i chi ddefnyddio’r deunydd hwn fel yr awdurdodwyd yn benodol gennym yn unig ac, ar wahân i’r ddarpariaeth yn y Telerau a’r Amodau hyn, nid yw defnyddio’r wefan yn rhoi unrhyw hawl, teitl, buddiant na thrwydded i chi i unrhyw eiddo deallusol tebyg a welir ar y wefan. Ar wahân i ddarpariaeth y Telerau a’r Amodau hyn, gwaherddir defnyddio neu atgynhyrchu’r eiddo deallusol.
    8.2 Rydych yn cydnabod ac yn cytuno fod y deunydd a’r cynnwys ar y wefan ar gael i chi eu defnyddio at ddibenion personol ac anfasnachol ar y seiliau canlynol:
    8.2.1 gallwch lawrlwytho deunydd a chynnwys tebyg i yriant caled un cyfrifiadur yn unig; a
    8.2.2 ni ddylid addasu unrhyw destun, dogfennau, graffigwaith nac unrhyw gynnwys arall ar y wefan hon mewn unrhyw ffordd; a 8.2.3 ni ddylid defnyddio unrhyw graffigwaith ar y wefan hon heb gynnwys y testun cysylltiedig hefyd; ac
    8.2.4 mae ein hysbysiad hawlfraint a’r hysbysiad caniatáu hwn yn ymddangos ym mhob copi.
    8.3 Gwaherddir defnyddio deunydd a chynnwys y wefan at unrhyw ddibenion eraill yn gyfan gwbl. Rydych yn cytuno peidio â (ac yn cytuno peidio â chynorthwyo neu hwyluso unrhyw drydydd parti i) gopïo, atgynhyrchu, trosglwyddo, cyhoeddi, arddangos, dosbarthu, camfanteisio’n fasnachol neu greu gwaith deilliannol o ddeunyddiau a chynnwys tebyg.
    8.4 Os ydych yn torri unrhyw un o’r Telerau a’r Amodau hyn, bydd eich caniatâd i ddefnyddio’r wefan hon yn terfynu’n awtomatig a bydd raid i chi ddinistrio unrhyw ddyfyniadau a lawrlwythwyd neu a argraffwyd ar y wefan hon ar unwaith.
  9. CYFRANIADAU I wrecsamifanc.co.uk

Os ydych yn cael eich gwahodd i gyflwyno unrhyw gyfraniad i wrecsamifanc.co.uk (gan gynnwys testun, ffotograffau, graffigwaith, fideo neu sain) rydych yn cytuno, drwy gyflwyno’ch cyfraniad, eich bod yn rhoi hawl a thrwydded parhaol, di-freindal, di-gyfyngedig, is-drwyddedadwy i ddefnyddio, atgynhyrchu, newid, addasu, cyhoeddi,cyfieithu, creu gwaith deilliannol o, dosbarthu, perfformio, chwarae, ei wneud ar gael i’r cyhoedd, ac ymarfer holl hawliau hawlfraint a chyhoeddusrwydd o ran eich cyfraniad yn fyd-eang a/neu i ymgorffori’ch cyfraniad mewn gweithiau eraill mewn unrhyw gyfrwng sy’n hysbys nawr neu a ddatblygir yn ddiweddarach am gyfnod llawn unrhyw hawliau sy’n bodoli yn eich cyfraniad, ac yn unol â chyfyngiadau preifatrwydd a osodir ym Mholisi Preifatrwydd wrecsamifanc.co.uk. Os nad ydych yn dymuno rhoi’r hawliau a restrir uchod i wrecsamifanc.co.uk, peidiwch â chyflwyno’ch cyfraniad i wrecsamifanc.co.uk.

Trwy gyflwyno’ch cyfraniad i wrecsamifanc.co.uk, rydych yn:
9.1. gwarantu:

9.1.1 mai’ch gwaith gwreiddiol chi’ch hun yw’r cyfraniad a bod gennych hawl i’w roi i wrecsamifanc.co.uk at yr holl ddibenion a nodir uchod;
9.1.2. nad yw’ch cyfraniad yn difenwol; ac
9.1.3. nad yw’ch cyfraniad yn torri unrhyw gyfraith; ac

9.2. indemnio wrecsamifanc.co.uk yn erbyn pob ffi gyfreithiol, iawndal a chostau eraill y gallai wrecsamifanc.co.uk orfod eu talu oherwydd eich bod chi wedi torri’r gwarant uchod; ac
9.3. ildio unrhyw hawliau moesol yn eich cyfraniad er mwyn ei gyflwyno i a’i gyhoeddi ar wrecsamifanc.co.uk a’r dibenion a nodir uchod.

  1. HYSBYSIADAU
    10.1 Gallwch anfon hysbysiadau atom o dan neu mewn cysylltiad â’r Telerau a’r Amodau hyn:
    10.1.1 trwy’r post at; Wrecsam Ifanc, ProMo-Cymru, Uned 12, Gweithdai Royal Stuart, Adelaide Place, Caerdydd, CF10 5BR
    10.2 Gan na fydd prawf anfon yn gwarantu ein bod wedi derbyn eich hysbysiad, rhaid i chi sicrhau eich bod wedi derbyn cydnabyddiaeth gennym, a anfonir cyn pen 3 diwrnod gwaith ar ôl ei dderbyn, a’ch bod yn cadw’r dderbynneb.
  2. CYFYNGIAD ATEBOLRWYDD
    11.1 ER Y BYDDWN YN GWNEUD POB YMDRECH RESYMOL I WIRIO CYWIRDEB UNRHYW WYBODAETH A RODDWN AR Y WEFAN, NID ALLWN WARANTU EI CHYWIRDEB O GWBL, BOED HYNNY TRWY DDATGANIAD NEU AWGRYM.
    11.2 Darperir y wefan ar sail “fel ag y mae” ac “fel y mae ar gael” heb unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth. Oni bai fod telerau ac amodau ar wahân ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth penodol yn nodi hynny, nid ydym yn gwneud unrhyw warantau o unrhyw fath, boed hynny’n ddatganiad neu’n awgrym, ynglŷn â’r wefan, neu nwyddau neu wasanaethau a gynigir ar y wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwythiadau meddalwedd am ddim) gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, warantau awgrymedig o safon boddhaol, addasrwydd i ddiben penodol, heb dor-cyfraith, cydweddoldeb, diogelwch, cywirdeb, cyflwr neu gyflawnrwydd, neu unrhyw warant a awgrymir sy’n codi yn ystod ymdrin neu ddefnyddio neu fasnachu.
    11.3 Oni bai fod telerau ac amodau ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth ar wahân yn nodi hynny, nid ydym yn gwarantu o gwbl y bydd y wefan neu nwyddau neu wasanaethau a gynigir ar y wefan, boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwythiadau meddalwedd am ddim), yn diwallu’ch gofynion neu’n cael eu darparu yn ddi-dor, yn brydlon, yn ddiogel neu heb unrhyw wallau, y bydd diffygion yn cael eu hunioni, neu nad oes unrhyw firysau neu fygiau ar y wefan neu’r gweinydd sy’n cyflwyno’r wefan neu nwyddau neu wasanaethau a gynigir ar y wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwythiadau meddalwedd am ddim) neu eu bod yn gwbl ymarferol, yn gywir neu’n ddibynadwy. Ni fyddwn yn gyfrifol neu’n atebol i chi am unrhyw gynnwys neu ddeunyddiau a gollir o ganlyniad i uwchlwytho i’r wefan neu lawrlwytho o’r wefan.
    11.4 Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Telerau a’r Amodau, ni fydd unrhyw beth yma yn cyfyngu ar eich hawliau fel defnyddiwr o dan gyfraith Lloegr.
    11.5 Rydych yn cydnabod na allwn warantu a gan hynny ni fyddwn yn gyfrifol am ddiogelwch na phreifatrwydd y wefan nac unrhyw wybodaeth a ddarperir i neu a gymerir o’r wefan gennych mewn unrhyw ffordd.
    11.6 Ni fyddwn yn atebol mewn contract, y gyfraith gamweddau neu fel arall os byddwch yn cael unrhyw golled neu ddifrod wrth gysylltu â’r wefan drwy ddolen hyperdestun trydydd parti.
    11.7 Ni fyddwn yn atebol, mewn contract, y gyfraith gamweddau (gan gynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, esgeulustod), cyn contract neu gynrychiolaethau eraill (heblaw am gamliwio twyllodrus) neu fel arall allan o neu mewn cysylltiad â’r wefan neu nwyddau neu wasanaethau a gynigir ar y wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwythiadau meddalwedd am ddim) am:
    11.7.1 unrhyw golledion economaidd (gan gynnwys heb fod yn gyfyngedig i golli refeniw, elw, contractau, busnes neu arbedion disgwyliedig); neu
    11.7.2 unrhyw golled o ewyllys da neu enw da; neu
    11.7.3 unrhyw golledion arbennig neu anuniongyrchol neu ganlyniadol; mewn unrhyw achos p’un a oedd colledion tebyg yn rhagweladwy i’r naill neu’r llall ohonom ar ddyddiad y digwyddiad a arweiniodd at y golled.
    11.8 Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau a’r Amodau yn gwahardd neu’n cyfyngu ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy’n digwydd o ganlyniad i’n hesgeulustod neu esgeulustod ein gweision, asiantau neu gyflogeion.
  3. TORIAD
    Os bernir fod unrhyw ran o’r Telerau a’r Amodau yn anghyfreithlon, yn ddi-rym neu’n anymarferol am unrhyw reswm, bernir fod y ddarpariaeth honno yn doradwy o’r Telerau a’r Amodau ac ni fydd yn effeithio ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd unrhyw un o’r darpariaethau sydd ar ôl yn y Telerau a’r Amodau hyn.
  4. Ni fydd unrhyw beth yn cael ei ddehongli fel ildiad gennym ni o unrhyw doriad blaenorol neu olynol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau a’r Amodau.
  5. CYTUNDEB CYFAN
    Mae’r Telerau a’r Amodau hyn (fel y’i diwygir o dro i dro), gan gynnwys y Polisi Preifatrwydd, yn cyfrif fel y cytundeb cyfan rhyngoch chi â ni mewn perthynas â’r pwnc a gwmpesir, ac mae’n disodli unrhyw gytundebau, trefniadau, ymgymeriadau neu gynigion, ysgrifenedig neu ar lafar, rhyngoch chi a ni mewn perthynas â materion tebyg. Ni fydd unrhyw esboniad neu wybodaeth a roddir ar lafar gan y naill neu’r llall ohonom yn newid dehongliad y Telerau a’r Amodau hyn. Wrth gytuno i dderbyn y Telerau a’r Amodau hyn, rydych yn cadarnhau nad ydych wedi dibynnu ar unrhyw gynrychiolaeth ac eithrio i’r graddau bod yr un peth wedi’i fynegi yn benodol fel cynrychiolaeth yn y Telerau a’r Amodau hyn, ac rydych yn cytuno na fyddwch yn ceisio unioni unrhyw gamliwio nad yw wedi ei gynnwys yn y Telerau a’r Amodau ac eithrio na fydd eich cytundeb a gynhwysir yn y ddarpariaeth hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gamliwio twyllodrus p’un a yw wedi’i ymgorffori yn y Telerau a’r Amodau hyn ai peidio. Os byddwn yn methu ag ymarfer neu orfodi unrhyw hawl neu ddarpariaeth yn y Telerau a’r Amodau hyn, ni fydd hynny’n arwain at ildio hawl neu ddarpariaeth debyg.
  6. Y GYFRAITH
    Bydd y Telerau a’r Amodau hyn yn cael eu llywodraethu yn gyfan gwbl gan ac yn cael eu dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd gan eu Llysoedd awdurdodaeth unigryw mewn unrhyw anghydfod, ac eithrio fod gennym yr hawl, yn ôl ein disgresiwn, i ddechrau a chyflwyno achosion mewn awdurdodaethau eraill.

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham