Amdanom ni

BE’ YDI WRECSAM IFANC?

Gwefan ryngweithiol ydi Wrecsam Ifanc i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n byw, gweithio neu’n astudio yn ardal Wrecsam. Mae’r wefan wedi ei dylunio i roi gwybodaeth well i bobl ifanc am weithgareddau, gwasanaethau a chyfleodd sydd ar gael iddyn nhw yn Wrecsam, ac i ddarparu gwybodaeth a chyngor am bethau sydd yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys storïau, newyddion a blogiau gan bobl ifanc lleol ac wedi ei dylunio i dy annog di i gymryd rhan a chyfrannu.

PWY SY’N GYFRIFOL AM WRECSAM IFANC?

Mae ProMo-Cymru wedi ei ariannu i ddatblygu gwefannau rhyngweithiol ar hyd a lled Cymru. Mae Wrecsam Ifanc yn cael ei redeg o’r Siop Wybodaeth yn Wrecsam, sy’n wasanaeth arbenigol wedi ei reoli gan Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam. Mae gweithiwr ieuenctid wedi ei gyflogi i ddiweddaru’r wybodaeth ac i uwchlwytho erthyglau a gwybodaeth am ddigwyddiadau.

Yn dilyn ymgynghori â chlybiau ieuenctid ar draws Wrecsam bu i Burning Red, cwmni dylunio creadigol ym Mae Caerdydd, greu’r wefan ac maen nhw’n diweddaru’r wefan ac yn ein cefnogi ni yn ôl yr angen.

SUT FEDRA’ I HELPU I WNEUD Y WEFAN YN UN GWYCH?

Fe allet ti uwchlwytho erthyglau a blogiau ac ati. Fe allan nhw fod am unrhyw beth dan haul: fe allet ti rannu eitemau newyddion, adolygiadau, gwaith ysgrifennu creadigol, rhagolygon, ysgrifau neu wybodaeth am ddigwyddiadau neu dy farn am bwnc llosg (mae rhai pobl yn ysgrifennu am bethau sydd wedi digwydd iddyn nhw). Defnyddia’r wefan i ddatblygu dy sgiliau newyddiadurol ac i ddod yn ohebydd yn dy ardal di dy hun. Fe allet ti hefyd ychwanegu fideos o YouTube at eitemau newyddion ac uwchlwytho hyd at bum llun efo dy stori.

CYFIEITHU

Mae’n rhaid i ni anfon pob erthygl i gael ei chyfieithu fel bod yr erthyglau yn ymddangos ar yr ochr Saesneg a’r ochr Gymraeg o’r wefan. Gall hyn gymryd hyd at 4 wythnos. Yndi, mae hyn yn swnio’n amser hir ond mae’r cyfieithiadau yn wych ac mae’r erthyglau yn haeddu cael eu darllen yn Gymraeg ac yn Saesneg, felly paid ag oedi cyn anfon dy stori atom ni.

SUT YDW I’N UWCHLWYTHO ERTHYGLAU AR WEFAN WRECSAM IFANC?

Y cwbl sydd arnat ti angen ei wneud ydi cofrestru, ac yna fedri di ddechrau cyflwyno dy eitemau. Os oes arnat ti angen unrhyw help, anfona e-bost at infoshop@wrexham.gov.uk.


Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham