Cwestiynau Cyffredin

Cofrestru

Rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair. Help!

Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair, cliciwch ar ‘Cofrestru/Mewngofnodi’ ar frig ochr dde’r dudalen a cheisio mewngofnodi. Os na allwch chi gofio’ch cyfrinair, fe gewch eich cyfeirio at y man mewngofnodi. Yma, fe allwch chi greu cyfrinair newydd.

Beth fyddwch chi’n ei wneud gyda fy nata i?

Wnaiff Wrecsam Ifanc byth basio’ch manylion chi ymlaen i unrhyw un arall na chysylltu â chi heb eich caniatâd. Caiff eich gwybodaeth ei chadw’n ddiogel gan fod preifatrwydd yn bwysig i ni.

Beth fydda' i’n ei gael os bydda’ i’n cofrestru ar gyfer eich rhestr bostio?

O bryd i’w gilydd, gallai Wrecsam Ifanc gysylltu â chi gyda newyddion a’r manylion diweddaraf am y prosiect. Gallwch ddatdanysgrifio o’r rhain ar unrhyw adeg drwy glicio ar y ddolen datdanysgrifio ar waelod y neges e-bost.

Pam eich bod yn gofyn yr holl gwestiynau hyn?

Rydym yn awyddus i ddysgu mwy amdanoch chi, ddefnyddwyr Wrecsam Ifanc, i wneud yn siŵr fod TheSprout cystal ag yr hoffech chi iddo fod, a’n bod yn gwneud newidiadau i gyd-fynd â’ch anghenion chi. Rydym hefyd angen y wybodaeth i weld faint o bobl ifanc sy’n defnyddio Wrecsam Ifanc, ac oherwydd hyn, fe allem ni ofyn i chi lenwi arolwg sydyn o dro i dro er mwyn casglu eich adborth a’ch barn. Peidiwch â phoeni, wnawn ni byth rannu eich manylion, ac efallai y bydd yna gyfle i chi ennill gwobrau gwych!

Cyffredinol

Beth ddigwyddodd i’r hen wefan?

Newyddion da bawb! Mae hen fersiwn Wrecsam Ifanc yn dal i fod ar gael i’w gweld drwy glicio yma click here.

Fe wnes i bostio negeseuon ar yr hen wefan – ydyn nhw’n dal i fod ar gael?

Ydyn wir! Fe allwch chi chwilio fersiwn wedi’i harchifo Wrecsam Ifanc gan ddefnyddio’r ffurflen hon:

(function() { var cx = ‘012828895546302438598:a851kz0oboc’; var gcse = document.createElement(‘script’); gcse.type = ‘text/javascript’; gcse.async = true; gcse.src = ‘https://cse.google.com/cse.js?cx=’ + cx; var s = document.getElementsByTagName(‘script’)[0]; s.parentNode.insertBefore(gcse, s); })();

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham