In2CHANGE

Mae In2Change yn brosiect cyffuriau ac alcohol cyfrinachol ac am ddim sy’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 ac 25 ar sail wirfoddol.

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc o amgylch eu problemau cyffuriau ac alcohol gan ganolbwyntio ar beth rydych yn credu fyddai’n eich helpu chi ar hyn o bryd. Gallwn gwrdd â chi yn y siop INFO, gartref, yn yr ysgol/coleg neu yn y gymuned – lle bynnag rydych yn teimlo’n fwyaf cyfforddus. Gallai rhai o’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi gynnwys:

Gwybodaeth a chyngor ar faterion sy’n ymwneud â defnyddio cyffuriau ac alcohol.

Cynyddu eich gwybodaeth am risgiau sy’n ymwneud â defnyddio cyffuriau ac alcohol.

Cefnogaeth i leihau neu roi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Cefnogaeth o ran sut mae cyffuriau ac alcohol yn effeithio ar eich bywyd.

Gall In2Change hefyd gynnig cefnogaeth o ran addysg, tai, perthnasoedd, cyflogaeth neu waith gwirfoddol, a meysydd eraill o’ch bywyd.

Yn In2Change gallwn hefyd gynnig gweithgareddau i ddifyrru a all helpu i dynnu eich meddwl oddi ar anawsterau presennol neu eu defnyddio fel adnodd cymell.  Mae enghreifftiau’n cynnwys beicio mynydd, aelodaeth campfa am ddim, marchogaeth, teithiau sinema a cherdded.

Os ydych yn credu gall In2Change eich helpu chi ac os ydych am drefnu apwyntiad neu am holi unrhyw beth, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom ar y manylion isod.  Os ydych am atgyfeirio eich hun at In2Change neu gael eich atgyfeirio gan brosiect/asiantaeth arall, llenwch y ffurflen atgyfeirio ar ein tudalen.  Hoffwn i chi lenwi’r daflen Adnodd Sgrinio am Ddefnydd o Gyffuriau ac Alcohol (DUST) hefyd sy’n edrych ar eich defnydd.

Yn ogystal â’r ffurflenni Atgyfeirio, mae taflenni a phosteri i’w lawrlwytho a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am ein prosiect a gellir eu harddangos. (FFURFLENNI ATGYFEIRIO, DUST, PRIF BOSTER)

Stryt y Lampint,
Wrecsam
LL11 1AR

01978 295629

07800 999 071

07876 657295

07976 660 531

in2change@wrexham.gov.uk

Dydd Llun i ddydd Gwener 9.00am  tan 5.00pm

Mae In2Change yn cynnig sesiwn galw heibio bob dydd Llun yn INFO rhwng 3pm a 5pm lle gallwch gael gwybodaeth gywir yn ymwneud â defnyddio cyffuriau ac alcohol.  (POSTER GALW HEIBIO)

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham